Bod yn Selog Wrth Ennyn Gweithredoedd Da
Mae Hebreaid 10:24 yn ein hannog ni i “ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da.” Gallwn ni annog ein brodyr drwy ein hesiampl a thrwy ein geiriau. Rhannwch eich profiadau da ag eraill yn y gynulleidfa. Gadewch iddyn nhw weld y llawenydd rydych chi’n ei deimlo o wasanaethu Jehofa. Ar yr un pryd, peidiwch â’u rhoi nhw yng ngolau negyddol drwy eu cymharu nhw â chi nac ag eraill. (Gal. 6:4) Ceisiwch ddefnyddio eich cryfderau i ennyn ‘cariad a gweithredoedd da,’ nid euogrwydd a gweithredoedd da. (Gweler y llyfr Ministry School, t. 158, par. 4.) Petawn ni’n ennyn cariad yn eraill, bydd y gweithredoedd yn dilyn, er enghraifft, bydd yn ysgogi pobl i roi mewn ffordd ymarferol neu i bregethu.—2 Cor. 1:24.