Cyfarfodydd Gweinidogaeth Sy’n Cyflawni eu Pwrpas
1. Beth yw pwrpas cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth?
1 Ar un adeg, roedd Iesu yn cyfarfod â 70 o’i ddisgyblion cyn iddyn nhw fynd allan ar ymgyrch bregethu. (Luc 10:1-11) Roedd Iesu’n eu calonogi nhw drwy eu hatgoffa nad oedden nhw ar eu pennau eu hunain, a’u bod nhw’n cael eu harwain gan “arglwydd y cynhaeaf,” Jehofa. Hefyd, rhoddodd Iesu gyfarwyddyd iddyn nhw ar sut i wneud y gwaith, ac yna trefnodd iddyn nhw fynd allan “bob yn ddau.” Heddiw, mae’r cyfarfodydd rydyn ni’n eu cynnal cyn mynd allan yn y weinidogaeth yn cyflawni pwrpas tebyg—i’n hannog, i’n paratoi, ac i’n trefnu ni.
2. Pa mor hir dylai cyfarfod y weinidogaeth fod?
2 Ar hyn o bryd, mae’r cyfarfodydd gweinidogaeth yn para am 10 i 15 munud, ac mae hyn yn cynnwys trefnu’r grŵp, aseinio’r diriogaeth, a dweud gweddi. Mae hyn nawr yn newid. Yn cychwyn ym mis Ebrill, bydd cyfarfod y weinidogaeth yn para rhwng pump a saith munud. Ond, pan fydd yn dilyn cyfarfod arall y gynulleidfa, dylai fod yn fyrrach byth, oherwydd bod y rhai sy’n bresennol wedi mwynhau trafodaeth ysbrydol yn barod. Bydd cael cyfarfodydd byr yn caniatáu i bobl dreulio mwy o amser yn y weinidogaeth. Yn ychwanegol i hyn, os bydd arloeswyr neu gyhoeddwyr wedi dechrau pregethu cyn y cyfarfod, fydd y drefn newydd yn sicrhau na fydd torri ar draws eu gwaith yn ddi-angen.
3. Sut gellir trefnu cyfarfodydd y weinidogaeth fel eu bod nhw’n gyfleus i’r cyhoeddwyr?
3 Dylai’r cyfarfodydd gael eu trefnu i fod yn gyfleus i’r cyhoeddwyr. Mewn llawer o gynulleidfaoedd, mae’n fwy cyfleus i’r grwpiau gyfarfod ar wahân yn hytrach na chyfarfod mewn un lle. Efallai bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i gyhoeddwyr deithio i gyfarfodydd y weinidogaeth ac i’r diriogaeth. Gall cyhoeddwyr gael eu trefnu’n gyflym, ac efallai y bydd hi’n haws i’r arolygwr ofalu am bawb. Gall y corff henuriaid benderfynu beth fydd yn gweithio orau yn eich ardal leol. Cyn gorffen y cyfarfod gyda gweddi, dylai pawb wybod lle maen nhw’n gweithio a chyda phwy.
4. Pam na ddylai cyfarfodydd y weinidogaeth gael eu hystyried yn llai pwysig na’r cyfarfodydd eraill?
4 Yr Un Mor Bwysig â Chyfarfodydd Eraill: Gan fod cyfarfodydd y weinidogaeth yn cael eu cynnal ar gyfer y rhai sy’n mynd allan yn y weinidogaeth, mae’n bosibl na fydd pawb yn y gynulleidfa yn bresennol. Er hynny, nid yw hyn yn golygu eu bod nhw’n llai pwysig na chyfarfodydd eraill. Fel pob cyfarfod arall, mae cyfarfodydd y weinidogaeth yn rhodd gan Jehofa sydd yn ein galluogi ni i “ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da.” (Heb. 10:24, 25) Os yw’r arweinydd yn paratoi’n dda o flaen llaw, bydd y drafodaeth yn dod â chlod i Jehofa a bydd pawb sydd yno yn elwa. Os yw’n gyfleus, dylai pob cyhoeddwr sy’n mynd ar y weinidogaeth wneud ymdrech i fynd i’r cyfarfod.
Nid yw cyfarfodydd y weinidogaeth yn llai pwysig na chyfarfodydd eraill
5. (a) Beth yw dyletswydd yr arolygwr gwasanaeth ynglŷn â threfnu cyfarfodydd y weinidogaeth? (b) Sut dylai chwaer arwain cyfarfod y weinidogaeth?
5 Paratoi ar Ran yr Arweinydd: Er mwyn paratoi’n dda ar gyfer unrhyw eitem yn ein cyfarfodydd, mae angen gwybod am yr aseiniad o flaen llaw. Mae hyn yn wir hefyd gyda chyfarfodydd y weinidogaeth. Wrth gwrs, pan fydd grwpiau’n cyfarfod ar wahân, bydd arweinydd y grŵp neu ei gynorthwyydd yn cynnal y cyfarfod ar gyfer ei grŵp. Ond, pan fydd y grwpiau’n cyfuno ar gyfer y weinidogaeth, bydd yr arolygwr gwasanaeth yn aseinio rhywun i arwain y grŵp. Mae rhai arolygwyr gwasanaeth yn rhoi amserlen i bob arweinydd, ac yna’n rhoi copi ar yr hysbysfwrdd. Dylai’r arolygwr gwasanaeth benderfynu’n ofalus wrth aseinio’r arweinwyr, gan gadw mewn cof bod ansawdd y cyfarfod yn dibynnu ar sgiliau dysgu yr arweinydd a’i sgiliau trefnu. Pe na byddai henuriad, gwas gweinidogaethol, neu frawd arall sydd wedi ei fedyddio ar gael, dylai’r arolygwr gwasanaeth aseinio chwaer alluog i arwain y grŵp.—Gweler yr erthygl “Pan Fydd Chwaer yn Arwain.”
6. Pam mae hi’n bwysig i’r arweinydd baratoi’n dda?
6 Pan ydyn ni’n derbyn aseiniad ar gyfer Ysgol y Weinidogaeth neu’r Cyfarfod Gwasanaeth, rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif ac yn paratoi’n dda. Ychydig iawn ohonyn ni fyddai’n dechrau meddwl am yr aseiniad a ninnau ar y ffordd i’r cyfarfod. Dylen ni ddangos yr un agwedd tuag at gynnal grŵp gweinidogaeth. Nawr y bydd grwpiau gweinidogaeth yn fyrrach o ran amser, mae’n bwysig iawn bod y paratoi yn dda fel bod y cyfarfod yn ddefnyddiol ac yn gorffen ar amser. Hefyd, mae paratoi’n dda hefyd yn cynnwys trefnu bod tiriogaeth ar gael o flaen llaw.
7. Beth yw rhai pethau gall yr arweinydd eu trafod?
7 Beth i’w Drafod: Gan fod anghenion y diriogaeth yn amrywio o un lle i’r llall, nid yw’r gwas ffyddlon a chall wedi rhoi amlinelliad ar gyfer pob cyfarfod gweinidogaeth. Mae’r blwch “Yn Ystod Cyfarfod Gweinidogaeth, Gallwch Drafod” yn cynnig awgrymiadau. Ar y cyfan, bydd y cyfarfod yn cael ei drin fel trafodaeth. Weithiau, gellir cynnwys rhywun yn actio allan cyflwyniad sydd wedi ei baratoi’n dda, neu gellir gwylio fideo addas o jw.org. Wrth baratoi ar gyfer cyfarfod y weinidogaeth, dylai’r arweinydd feddwl am yr hyn fydd yn calonogi’r brodyr ac yn eu helpu nhw yn y weinidogaeth y diwrnod hwnnw.
Wrth baratoi ar gyfer cyfarfod gweinidogaeth, dylai’r arweinydd feddwl am yr hyn a fydd yn annog a pharatoi y rhai sy’n mynd allan yn y weinidogaeth y diwrnod hwnnw
8. Beth gellir fod yn ddefnyddiol iawn i’w drafod yn ystod y grwpiau gweinidogaeth ar ddyddiau Sadwrn a Sul?
8 Er enghraifft, ar ddyddiau Sadwrn, mae llawer o gyhoeddwyr yn defnyddio un o’r cyflwyniadau sydd ar dudalen ôl Ein Gweinidogaeth. Nid yw llawer sy’n mynd ar y weinidogaeth ar ddydd Sadwrn yn mynd allan yn ystod yr wythnos, felly efallai mae’n anodd iddyn nhw gofio’r cyflwyniad y maen nhw wedi ei baratoi yn ystod eu Noson Addoliad Teuluol. Oherwydd hyn, gall fod yn ddefnyddiol i’r arweinydd adolygu un o’r cyflwyniadau enghreifftiol. Opsiwn arall fyddai trafod sut i gynnwys yn ein cyflwyniadau y newyddion, digwyddiadau, a dathliadau lleol. Neu, gellir trafod sut i osod sylfaen er mwyn mynd yn ôl os yw’r deiliad wedi derbyn llenyddiaeth. Os yw rhai wedi bod yn defnyddio’r cylchgronau’n barod, gellir gofyn am brofiadau calonogol neu awgrymiadau da. Ar ddydd Sul, gall yr arweinydd ddewis gwneud rhywbeth tebyg gyda chynnig y mis. Mae’n bosibl defnyddio llenyddiaeth astudio unrhyw ddydd o’r wythnos, fel y llyfrynnau Newyddion Da a Gwrando ar Dduw a’r llyfr Beibl Ddysgu, felly gall yr arweinydd drafod yn fyr sut i gynnig un o’r rhain.
9. Beth gellir ei drafod ar benwythnos ymgyrch arbennig?
9 Os yw’r gynulleidfa’n cymryd rhan mewn ymgyrch arbennig ar y penwythnos, gall yr arweinydd drafod sut i gynnig y cylchgronau diwethaf ynghyd â’r daflen neu’r gwahoddiad, neu fe all drafod beth i’w wneud os yw’r deiliad yn dangos diddordeb. Opsiwn arall fyddai rhannu profiadau sy’n dangos pam mae ymgyrch o’r fath yn werth chweil.
10, 11. Pam mae paratoad o flaen llaw gan gyhoeddwyr yn bwysig i lwyddiant cyfarfodydd y weinidogaeth?
10 Paratoi ar Ran y Cyhoeddwr: Mae cyfrifoldeb ar y cyhoeddwyr hefyd i wneud y cyfarfod gweinidogaeth yn llwyddiannus. Drwy baratoi o flaen llaw ar gyfer y weinidogaeth, efallai yn ystod addoliad teuluol, bydd gennyn nhw rywbeth i’w rannu gyda’r cyhoeddwyr eraill. Mae paratoi’n dda hefyd yn cynnwys casglu digon o lenyddiaeth cyn cyrraedd y cyfarfod gweinidogaeth fel bod pawb yn gallu gadael y cyfarfod heb oedi.
11 Mae hefyd yn bwysig inni drefnu ymlaen llaw ar gyfer cyrraedd y cyfarfod gweinidogaeth ychydig o funudau cyn iddo ddechrau. Wrth gwrs, rydyn ni’n ceisio bod ar amser ar gyfer pob un o’n cyfarfodydd, ond, gall cyrraedd yn hwyr amharu llawer iawn mwy ar gyfarfodydd gweinidogaeth. Sut felly? Mae’r brawd sy’n arwain yn ystyried nifer o wahanol ffactorau cyn trefnu’r grŵp. Os nad oes ond ychydig o gyhoeddwyr yn mynd allan, efallai bydd yr arweinydd yn penderfynu dewis gweithio tiriogaeth sydd heb ei gorffen. Os oes rhai wedi cerdded i’r cyfarfod gweinidogaeth ac mae’r diriogaeth yn bell i ffwrdd, efallai fydd yr arweinydd yn trefnu iddyn nhw fynd gyda’r brodyr sydd â cheir. Os yw’r diriogaeth mewn ardal beryglus, fe all drefnu i frodyr weithio gyda’r chwiorydd neu wrth eu hymyl. Efallai byddai’r arweinydd yn aseinio pobl anabl i weithio mewn stryd sydd ar y gwastad, neu sydd â thai haws eu cyrraedd. Efallai bydd cyhoeddwyr newydd yn cael eu haseinio i weithio gyda rhai mwy profiadol. Ond, os yw’r cyhoeddwyr yn cyrraedd yn hwyr, mae’n bosibl bydd rhaid addasu neu newid y trefniadau er mwyn cynnwys y cyhoeddwyr sydd wedi cyrraedd yn hwyr. Wrth gwrs, ar adegau bydd rhesymau da dros fod yn hwyr. Ond os ydyn ni’n hwyr yn rheolaidd, fe ddylen ni ofyn i ni’n hunain, a ydyn ni’n dangos diffyg gwerthfawrogiad am gyfarfodydd y weinidogaeth, neu, ydyn ni’n hwyr oherwydd nad ydyn ni wedi paratoi digon o flaen llaw?
12. Os ydych chi’n tueddu gwneud trefniadau eich hunain, beth gallwch chi ei ystyried?
12 Gall cyhoeddwyr sy’n mynd i’r cyfarfod gweinidogaeth un ai trefnu i weithio gyda rhywun cyn y cyfarfod, neu ddisgwyl i bartner gael ei aseinio iddyn nhw. Os ydych chi’n tueddu i wneud eich trefniadau eich hunan, a allwch chi ‘agor eich calon’ drwy weithio gyda gwahanol rai yn hytrach na’ch ffrindiau bob tro? (2 Cor. 6:11-13) A allwch chi drefnu i weithio gyda chyhoeddwr newydd bob hyn a hyn er mwyn ei helpu i wella ei sgiliau dysgu? (1 Cor. 10:24; 1 Tim. 4:13, 15) Gwrandewch yn astud i’r cyfarwyddyd rydych chi’n ei dderbyn, gan gynnwys y cyfarwyddiadau am le i ddechrau pregethu. Ar ôl y cyfarfod, osgowch newid y trefniadau, ac ewch yn brydlon i’r diriogaeth.
13. Os yw pawb sy’n cymryd rhan yn weithgar, sut bydd y cyfarfodydd gweinidogaeth o les inni?
13 Ar ôl pregethu, dychwelodd y 70 a drefnwyd gan Iesu “yn llawen.” (Luc 10:17) Heb os, byddai’r cyfarfod a gafodd Iesu cyn iddyn nhw fynd allan i bregethu wedi eu helpu nhw i fod yn llwyddiannus. Heddiw, gall cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth gael yr un effaith. Os yw pawb sy’n cymryd rhan yng nghyfarfodydd y weinidogaeth yn weithgar, byddan nhw’n ein hannog ni, yn ein paratoi ni, a’n trefnu ni i gyflawni ein comisiwn i roi “tystiolaeth i’r holl genhedloedd.”—Math. 24:14.