“Y Mae’r Geiriau Hyn . . . i Fod yn Dy Galon”
Mae rhieni yn debyg i fugeiliaid. Mae’n rhaid iddyn nhw ofalu am eu plant, rhag iddyn nhw grwydro’n ysbrydol a’u peryglu eu hunain. (Diar. 27:23) Sut gall rhieni lwyddo yn hyn o beth? Mae angen iddyn nhw dreulio amser bob dydd yn siarad â’u plant er mwyn dod i ganfod yr hyn sydd yn eu meddyliau a’u calonnau. (Diar. 20:5) Hefyd, mae angen i rieni adeiladu â deunydd sy’n gwrthsefyll tân er mwyn cryfhau ffydd eu plant. (1 Cor. 3:10-15) Mae’r fideo “These Words . . . Must Be on Your Heart” yn pwysleisio bod addoliad teuluol rheolaidd yn hanfodol. Gwyliwch y fideo fel teulu, a thrafodwch y cwestiynau canlynol.
(1) Beth achosodd i’r teulu Roman fod yn wan yn ysbrydol? (2) Pam nad oedd y Brawd Roman yn llwyddiannus y tro cyntaf iddo drefnu addoliad teuluol? (3) Pa egwyddor Ysgrythurol a fydd yn debygol o helpu rhieni i fagu eu plant yn llwyddiannus? (Deut. 6:6, 7) (4) Beth all helpu teuluoedd i gyfathrebu’n well? (5) Pa fath o aberthau sydd angen i rieni eu gwneud er mwyn helpu eu plant? (6) Sut roedd y Brawd a’r Chwaer Barrow yn ddylanwad da ar y teulu Roman? (Diar. 27:17) (7) Beth sydd rhaid i ben y teulu ei wneud o flaen llaw i sicrhau bod addoliad y teulu yn llwyddiannus? (8) Beth wnaeth y Brawd Roman i wella’r sefyllfa yn ei deulu? (9) Pam mae’n bwysig i addoliad teuluol ddigwydd yn rheolaidd? (Eff. 6:4) (10) Rhowch syniadau ymarferol ar yr hyn y gallwn ei wneud yn addoliad y teulu. (11) Sut roedd y Brawd Roman yn gadarn, ond yn osgoi colli ei dymer, wrth helpu Marcus i ddeall pwysigrwydd gwneud yr hyn sy’n iawn? (Jer. 17:9) (12) Sut rhesymodd y Brawd a’r Chwaer Roman â Rebecca i’w helpu i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â’i pherthynas â Justin? (Marc 12:30; 2 Tim. 2:22) (13) Sut roedd y Brawd a’r Chwaer Roman yn dangos ffydd wrth iddyn nhw wneud newidiadau yn eu bywydau? (Math. 6:33) (14) Sut mae’r fideo hwn yn dangos bod angen i ben y teulu ddarparu’n ysbrydol ar gyfer ei deulu? (1 Tim. 5:8) (15) Beth rydych chi’n benderfynol o’i wneud fel pen y teulu?
NODYN I BEN Y TEULU: Cafodd y ddrama gyfoes hon ei chyflwyno yn y gynhadledd ranbarthol yn 2011. Yr adeg honno, a oeddech chi’n gweld bod angen gwella eich addoliad teuluol? Beth am nawr? Os oes angen mwy o newidiadau, gweddïwch amdani a gwnewch y newidiadau sydd eu hangen er les tragwyddol eich teulu.—Eff. 5:15-17.