Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Tystiolaethu Mewn Tiriogaeth Fusnes
Pam Mae’n Bwysig? Gan fod llawer o bobl yn gweithio oriau hir, yn aml y ffordd orau o’u cyrraedd nhw yw tystiolaethu iddyn nhw yn y gweithle. Gall tystiolaethu ar diriogaeth fusnes fod yn hwyl ac yn llwyddiannus oherwydd nid oes angen poeni na fydd pobl gartref, ac mae gweithwyr yn dueddol o fod yn gwrtais i’r rhai sy’n edrych fel cwsmeriaid. Er mwyn bod yn effeithiol, mae’n rhaid i gyhoeddwyr fod yn ddoeth a gwisgo mewn modd sy’n dod â chlod i Dduw. (2 Cor. 6:3) Felly, dylai’r arolygwr gwasanaeth rhoi sylw manwl i ba mor aml y mae’r diriogaeth yn cael ei gweithio, a chan bwy.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Yn ystod eich noson Addoliad Teuluol nesaf, rhowch gynnig ar ymarfer cyflwyniad byr y gallwch ei ddefnyddio os ydych chi’n gweithio tiriogaeth fusnes.