Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Hyfforddi Myfyrwyr y Beibl i Ddatblygu Arferion Astudio Da
Pam Mae’n Bwysig? Er mwyn i fyfyrwyr y Beibl aeddfedu’n ysbrydol, nid yw bwydo eu meddyliau a’u calonnau ar ddysgeidiaethau elfennol y Beibl yn ddigon. (Heb. 5:12–6:1) Mae astudio yn mynnu ymdrech. Mae’n gofyn am gysylltu gwybodaeth newydd â’r hyn rydyn ni’n ei wybod yn barod, ac yna gweld y gwerth ymarferol. (Diar. 2:1-6) Bydd dysgu sut i wneud ymchwil bersonol yn galluogi myfyrwyr i ateb eu cwestiynau am y Beibl drwy ddefnyddio ein llenyddiaeth Gristnogol. Bydd yr ymdrech i roi ar waith yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn eu harfogi nhw i wrthsefyll treialon y bydden nhw’n eu hwynebu fel Cristnogion.—Luc 6:47, 48.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Ar ddiwedd is-bennawd neu bennod, gofynnwch i’ch myfyriwr grynhoi mewn ychydig frawddegau yr hyn y maen nhw newydd ei ddysgu. Os nad ydych yn astudio â rhywun, ceisiwch grynhoi mewn ychydig frawddegau rai adnodau o’r Beibl, neu baragraff o’r Tŵr Gwylio, a hynny er mwyn gwella eich sgiliau darllen a deall.