Mae Angen Paratoi er Mwyn Dysgu’n Grefftus
Gofynnwyd i Iesu yr un cwestiwn am fywyd tragwyddol o leiaf ddwywaith, ond bob tro fe wnaeth addasu ei ateb i gwrdd ag anghenion y sawl a oedd yn gofyn y cwestiwn. (Luc 10:25-28; 18:18-20) Felly, er ein bod yn gyfarwydd iawn â’r deunydd rydyn ni yn ei astudio, dylen ni ei baratoi ymlaen llaw gyda’r myfyriwr mewn cof. Pa bethau y bydd yn anodd iddo eu deall a’u derbyn? Pa adnodau y dylen ni eu darllen ag ef? Faint o’r deunydd y dylen ni ei drafod? Efallai y dylen ni baratoi eglureb, esboniad, neu gyfres o gwestiynau i helpu’r myfyriwr i ddeall y wybodaeth yn iawn. Ar ben hynny, gan mai Jehofa sy’n gwneud i hadau’r gwirionedd dyfu yn y galon, dylen ni ofyn i Jehofa roi ei fendith ar ein paratoadau, ar y myfyriwr, ac ar ein hymdrechion i’w helpu yn ysbrydol.—1 Cor. 3:6; Iago 1:5.