Defnyddio Nodweddion y Llyfr Beibl Ddysgu yn Effeithiol
Wrth i rywun sy’n astudio’r Beibl ganfod a rhoi ar waith yr hyn mae’n ei ddysgu, bydd yn tyfu ac yn dwyn ffrwyth ysbrydol. (Salm 1:1-3) Gallwn ni helpu ein myfyrwyr i wneud cynnydd drwy ddefnyddio nodweddion ymarferol y llyfr Beibl Ddysgu.
Cwestiynau Agoriadol: Mae pob pennod yn dechrau drwy ofyn cwestiynau sy’n cael eu hateb yn ystod y wers. Gallech ofyn y cwestiynau hyn mewn modd rhethregol i ennyn diddordeb y myfyriwr yn y drafodaeth sydd i ddod. Neu gallech chi ofyn iddo roi ateb byr ar bob cwestiwn. Os yw’r myfyriwr yn ateb yn anghywir, does dim rhaid ichi ei gywiro yn syth. Bydd ei sylwadau yn eich helpu i ddirnad pa bwyntiau sydd angen mwy o sylw a phwyslais.—Diar. 16:23; 18:13.
Atodiad: Os bydd myfyriwr yn deall ac yn derbyn y wybodaeth yn y bennod, gallwch ei annog i adolygu’r atodiad cyfatebol ar ei ben ei hun. Yn ystod yr astudiaeth nesaf, peth da fyddai treulio ychydig o funudau yn sicrhau ei fod wedi deall y wybodaeth dan sylw. Fodd bynnag, os oes angen, dylech dreulio peth o’r amser yn trafod yr atodiad neu ran ohono drwy ddarllen y paragraffau a gofyn y cwestiynau rydych wedi eu paratoi ymlaen llaw.
Blwch Adolygu: Mae’r blwch adolygu ar ddiwedd pob pennod yn cynnwys datganiadau sy’n ateb y cwestiynau agoriadol. Gallwch ddefnyddio’r blwch hwn i sicrhau bod eich myfyriwr yn deall ac yn medru esbonio’r prif bwyntiau. Darllenwch bob datganiad gyda’ch gilydd yn uchel yn ogystal ag unrhyw adnod sy’n cyd-fynd â’r pwyntiau hynny. Yna gofynnwch i’ch myfyriwr ddefnyddio’r adnod(au) i egluro pam y mae’r datganiad yn wir.—Act. 17:2, 3.