Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Habacuc
1. Pam y gallwn ni ddeall teimladau Habacuc?
1 Wrth inni weld drygioni’r byd yn cynyddu, efallai y byddwn yn teimlo fel yr oedd Habacuc, a ofynnodd i Jehofa: “Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod?” (Hab. 1:3; 2 Tim. 3:1, 13) Gall fyfyrio ar neges Habacuc a’i esiampl ffyddlon ein cynnal ni wrth inni ddisgwyl am ddydd barn Jehofa.—2 Pedr 3:7.
2. Sut gallwn ni ddangos ein bod yn byw drwy ffydd heddiw?
2 Byw Drwy Ffydd: Yn lle cael ei lyncu gan hunandosturi, cadwodd Habacuc yn effro mewn gwaith ysbrydol. (Hab. 2:1) Dywedodd Jehofa wrth Habacuc, “bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb,” ac y bydd Ef yn cyflawni ei air yn brydlon. (Hab. 2:2-4) Beth mae hynny yn ei olygu i Gristnogion sy’n byw yn y dyddiau diwethaf? Yn bwysicach na gwybod pryd bydd y diwedd yn dod, yw bod yn gwbl argyhoeddedig y bydd y diwedd yn dod. Mae ffydd yn ein cymell ni i aros yn effro a rhoi’r weinidogaeth yn gyntaf.—Heb. 10:38, 39.
3. Pam dylen ni gadw ein llawenydd wrth wasanaethu Jehofa?
3 Llawenhau yn Jehofa: Pan fydd Gog o Magog yn ymosod ar bobl Jehofa, bydd ein ffydd yn cael ei phrofi. (Esec. 38:2, 10-12) Mae pob brwydr yn dod â chaledi, hyd yn oed i’r buddugol. Gall bwyd fod yn brin, gall eiddo gael ei golli, a gall safonau byw ostwng. Sut byddwn ni’n ymateb pan goda anawsterau? Roedd Habacuc yn disgwyl amser caled, felly roedd yn benderfynol o gadw ei lawenydd wrth wasanaethu Jehofa. (Hab. 3:16-19) Bydd ‘llawenhau yn Jehofa’ yn ein helpu i ddyfalbarhau dan dreialon y dyfodol.—Neh. 8:10; Heb. 12:2.
4. Pa lawenydd a gawn ni nawr ac yn y dyfodol?
4 Bydd Jehofa yn parhau i roi addysg ddwyfol i’r sawl sy’n goroesi dydd y farn. (Hab. 2:14) Bydd rhaid i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi dysgu am Jehofa. Hyd yn oed nawr, gadewch inni ddefnyddio pob cyfle i siarad am Jehofa a’i weithredoedd bendigedig!—Salm 34:1; 71:17.