TRYSORAU O AIR DUW | ESTHER 1-5
Esther yn Achub Cam Pobl Dduw
Dangosodd Esther ffydd a dewrder eithriadol wrth amddiffyn pobl Dduw
Gallai rhywun fod wedi cael ei ladd am fynd i weld y brenin heb wahoddiad. Nid oedd Esther wedi cael gwahoddiad i weld y brenin ers 30 diwrnod
Brenin oedd yn gwylltio’n hawdd oedd Ahasferus, sef Xerxes I yn ôl pob tebyg. Ar un adeg, gorchmynnodd i ddyn gael ei dorri’n ei hanner a’i hongian yn gyhoeddus fel rhybudd. Hefyd, fe ddiswyddodd y frenhines Fasti ar ôl iddi fod yn anufudd iddo
Roedd rhaid i Esther ddatgelu mai Iddewes oedd hi, a cheisio perswadio’r brenin bod ei gynghorwr agosaf wedi ei dwyllo