LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb16 Ebrill t. 3
  • Defnyddia Eiriau Caredig i Atgyfnerthu a Chryfhau Eraill

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Defnyddia Eiriau Caredig i Atgyfnerthu a Chryfhau Eraill
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Erthyglau Tebyg
  • Yn Ffyddlon Trwy’r Cwbl
    Efelychu Eu Ffydd
  • Fe Wnaeth Jehofa Leddfu ei Boen
    Efelychu Eu Ffydd
  • Mae Gweddïo Dros Eraill yn Plesio Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Gobeithia yn Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
mwb16 Ebrill t. 3

TRYSORAU O AIR DUW | JOB 16-20

Defnyddia Eiriau Caredig i Atgyfnerthu a Chryfhau Eraill

Dylai geiriau o gyngor atgyfnerthu eraill

16:4, 5

  • Roedd cyfyngder a digalondid yn gwasgu ar Job, felly roedd angen cefnogaeth ac anogaeth gan eraill

  • Ni ddywedodd cyfeillion Job yr un gair o gysur. Yn hytrach, roedden nhw’n cyhuddo Job o wneud drwg ac yn ychwanegu at ei bryderon

Roedd geiriau cas Bildad yn achosi i Job weiddi mewn cyfyngder

19:2, 25

  • Roedd Job yn ymbil ar Dduw i roi rhyw fath o gymorth iddo, hyd yn oed marwolaeth

  • Canolbwyntiodd Job ar ei obaith yn yr atgyfodiad, a pharhaodd i ddyfalbarhau yn ffyddlon

Eliffas yn siarad â Job tra bo Bildad a Soffar yn gwylio

CYHUDDWYR JOB

Eliffas

Eliffas:

  • O bosib, un o Teman yn Edom oedd Eliffas. Mae Jeremeia 49:7 yn disgrifio Teman fel un o ganolfannau doethineb Edom

  • Mae’n debyg mai Eliffas oedd yr hynaf a’r mwyaf dylanwadol o’r “cysurwyr,” a siaradodd yn gyntaf. Rhoddodd dair araith, a siaradodd am fwy o amser na’r ddau ddyn arall

Camgyhuddiadau:

  • Gwnaeth hwyl am ben Job, a honnodd nad oedd gan Dduw ffydd yn ei weision (Job 4, 5)

  • Dywedodd nad oedd Job yn ofni Duw, a’i fod yn drahaus a chreulon (Job 15)

  • Cyhuddodd Job o fod yn farus ac yn anghyfiawn, a honnodd bod dyn yn ddiwerth yng ngolwg Duw (Job 22)

Bildad

Bildad:

  • Un o ddisgynyddion Sua. Mae’n bosibl yr oedd yn byw ar lan afon Ewffrates

  • Yr ail i siarad. Roedd ei dair araith yn fyrrach ond yn fwy cas na rhai Eliffas

Camgyhuddiadau:

  • Awgrymodd fod meibion Job wedi pechu, ac felly’n haeddu’r trychineb a ddaeth arnyn nhw. Hefyd, awgrymodd fod Job ei hun yn annuwiol (Job 8)

  • Awgrymodd fod Job yn ddrwgweithredwr (Job 18)

  • Honnodd fod ffyddlondeb dynion yn ddi-werth (Job 25)

Soffar

Soffar:

  • Un o’r Naamathiaid, efallai o ogledd-orllewin Arabia

  • Y trydydd i siarad, a’r cyhuddwr mwyaf cas. Rhoddodd ddwy araith yn unig

Camgyhuddiadau:

  • Cyhuddodd Job o siarad gwag, a dywedodd wrtho am roi’r gorau i’w weithredoedd drwg (Job 11)

  • Awgrymodd fod Job yn ddrwg a’i fod yn mwynhau pechu (Job 20)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu