TRYSORAU O AIR DUW | SALMAU 135-141
Cawson Ni Ein Gwneud Mewn Ffordd Rhyfeddol
Myfyriodd Dafydd ar dystiolaeth o rinweddau da Duw a oedd i’w gweld yn Ei greadigaeth. Defnyddiodd ei fywyd i wasanaethu Jehofa gyda hyder.
Wrth i Dafydd fyfyrio ar y greadigaeth, cafodd ei ysgogi i foli Jehofa:
139:14
“Dw i’n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol”
139:15
“Roeddet ti’n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i’n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear”
139:16
“Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr,” (BCND)