TRYSORAU O AIR DUW | DIARHEBION 27-31
Mae’r Beibl yn Disgrifio Gwraig Dda
Mae gan Diarhebion pennod 31 neges bwysfawr i’r Brenin Lemwel oddi wrth ei fam. Fe wnaeth ei chyngor doeth ei ddysgu beth i edrych amdano mewn gwraig dda.
Mae modd ymddiried mewn gwraig dda
31:10-12
Mae ganddi awgrymiadau da i’w rhannu ym mhenderfyniadau’r teulu, ond ar yr un pryd yn ymostwng i’w gŵr
Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi i wneud penderfyniadau doeth, heb fynnu iddi ofyn am ei ganiatâd ym mhob mater
Mae gwraig dda yn weithgar
31:13-27
Mae hi’n dysgu bod yn ofalus gydag arian gan fyw’n gynnil er mwyn i’w theulu gael dillad taclus, gweddus, a chael bwyd maethlon
Mae hi’n gweithio’n galed gan ofalu am ei theulu ddydd a nos
Mae gwraig dda yn ysbrydol
31:30
Mae hi’n ofni Duw ac yn meithrin perthynas agos ag ef