EIN BYWYD CRISTNOGOL
Pam Rwyt Ti’n Trysori Addoliad Pur?
Cafodd yr Iddewon alltud eu hannog gan weledigaeth Eseciel o’r deml am iddi roi’r gobaith y byddai addoliad pur yn cael ei adfer. Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae addoliad pur “wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd,” ac rydyn ninnau o blith y cenhedloedd sydd wedi llifo yno. (Esei 2:2) Wyt ti’n myfyrio yn rheolaidd ar y fraint o adnabod a gwasanaethu Jehofa?
BENDITHION ADDOLIAD PUR:
Digonedd o fwyd ysbrydol sy’n rhoi atebion i gwestiynau mawr bywyd, egwyddorion ymarferol i’w dilyn, a gobaith sicr.—Esei 48:17, 18; 65:13; Rhu 15:4
Brawdoliaeth gariadus fyd-eang.—Sal 133:1; In 13:35
Y fraint o gydweithio â Duw mewn gwaith ystyrlon.—Act 20:35; 1Co 3:9
Yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” sydd yn ein cryfhau yn ystod amserau caled.—Php 4:6, 7
Cydwybod lân.—2Ti 1:3
‘Perthynas glòs’ â Jehofa.—Dia 3:32
Sut gallaf ddangos fy mod yn trysori addoliad pur?