TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 12-13
Dameg y Gwenith a’r Chwyn
Defnyddiodd Iesu’r ddameg i egluro sut a phryd y byddai’n casglu’r gwenith, sef casglu’r Cristnogion eneiniog yn eu cyfanrwydd o blith dynolryw, gan gychwyn yn 33 OG.
“Dyn yn hau had da yn ei gae”
Heuwr: Iesu Grist
Hau had da: Disgyblion Iesu yn cael eu heneinio gan ysbryd glân
Y cae: Pobl y byd
“Tra roedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith”
Rhywun oedd yn ei gasáu: Y Diafol
Pawb yn cysgu: Marwolaeth yr apostolion
“Gadewch i’r gwenith a’r chwyn dyfu gyda’i gilydd”
Gwenith: Cristnogion eneiniog
Chwyn: Ffug Gristnogion
“Casglwch y chwyn gyntaf, . . . wedyn cewch gasglu’r gwenith”
Gweision/y rhai fydd yn casglu: Angylion
Casglu chwyn: Gwahanu ffug Gristnogion oddi wrth Gristnogion eneiniog
Casglu i’r ysgubor: Casglu’r Cristnogion eneiniog i’r gynulleidfa adferedig
Pan ddechreuodd y cynhaeaf, beth oedd y gwahaniaeth rhwng gwir Gristnogion a’r rhai ffug?
Sut mae deall yr eglureb hon yn fy helpu i?