LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Chwefror t. 4
  • Parchu Dy Dad a Dy Fam

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Parchu Dy Dad a Dy Fam
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Mae’n ei Olygu i ‘Anrhydeddu Dy Dad a’th Fam’?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Anrhydeddu’r Rhai Sy’n Deilwng
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ofalu am Rieni Oedrannus?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Chwefror t. 4

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Parchu Dy Dad a Dy Fam

Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe bwysleisiodd y gorchymyn: “Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam.” (Ex 20:12; Mth 15:4) Roedd gan Iesu ryddid moesol i ddweud hynny oherwydd “bu’n ufudd” i’w rieni pan oedd yn ifanc. (Lc 2:51) Pan oedd yn oedolyn, fe sicrhaodd y byddai rhywun yn gofalu am ei fam ar ôl iddo farw.—In 19:26, 27.

Heddiw, gall Cristnogion ifanc barchu eu rhieni drwy fod yn ufudd iddyn nhw a siarad mewn ffordd barchus. A does dim terfyn amser ar y gorchymyn i barchu ein rhieni ychwaith. Hyd yn oed ar ôl i’n rhieni fynd yn hen, dylen ni ddal ati i’w parchu drwy fanteisio ar eu doethineb. (Dia 23:22) Ffordd arall o’u parchu nhw yw drwy roi’r gofal emosiynol ac ariannol sydd ei angen. (1Ti 5:8) P’un a ydyn ni’n hen neu’n ifanc, mae’n bwysig inni gyfathrebu’n dda â’n rhieni.

GWYLIA’R ANIMEIDDIAD BWRDD GWYN SUT GALLA’ I SIARAD Â FY RHIENI? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae’n gallu bod yn anodd iti siarad â dy rieni?

  • Wrth siarad â dy rieni, sut gelli di ddangos parch?

    Bachgen yn ysgrifennu llythyr at ei rieni, yn siarad â’i rieni, ac yn chwarae pêl-droed gyda’i dad
  • Pam y mae’n werth yr ymdrech i siarad â dy rieni? (Dia 15:22)

    Rhieni yn helpu eu mab i ymdopi â’r heriau sydd i ddod

    Gall siarad â dy rieni dy helpu di i gael bywyd llwyddiannus

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu