Er nad oedd y Pasg yn rhagddarlun o’r Goffadwriaeth, mae rhai o nodweddion y Pasg yn arwyddocaol heddiw. Er enghraifft, dywedodd yr apostol Paul fod Iesu “fel oen y Pasg” i ni. (1Co 5:7) Yn union fel y gwnaeth gwaed yr oen ar fframiau drysau’r Israeliaid achub bywydau, mae gwaed Iesu hefyd yn achub bywydau. (Ex 12:12, 13) Hefyd, ni chafodd yr un o esgyrn oen y Pasg ei dorri. Yn yr un modd, ni chafodd yr un o esgyrn Iesu ei dorri, er mai dyma oedd yn arferol mewn dienyddiad o’r fath.—Ex 12:46; In 19:31-33, 36.