LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Ebrill t. 8
  • Pregethu a Dysgu—Yn Angenrheidiol ar Gyfer Gwneud Disgyblion

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pregethu a Dysgu—Yn Angenrheidiol ar Gyfer Gwneud Disgyblion
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Helpu’r Rhai â’r Agwedd Gywir i Ddod yn Ddisgyblion
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Elli Di Helpu yn y Gwaith o Wneud Disgyblion?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Testunau Trafod o’r Beibl
    Testunau Trafod o’r Beibl
  • “Ewch, . . . a Gwnewch Ddisgyblion o’r Holl Genhedloedd”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Ebrill t. 8

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Pregethu a Dysgu—Yn Angenrheidiol ar Gyfer Gwneud Disgyblion

Gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr fynd ati i wneud disgyblion. (Mth 28:19) Mae hyn yn cynnwys pregethu a dysgu eraill. O bryd i’w gilydd, dylen ni i gyd gofyn i ni’n hunain, ‘Sut gallaf wella yn y gwahanol agweddau pwysig hyn o’r gwaith o wneud disgyblion?’

PREGETHU

Yn lle aros i bobl ddod aton ni, mae’n rhaid inni wneud yr ymdrech i chwilio am unigolion sy’n ‘barod i’n croesawu.’ (Mth 10:11) Wrth inni bregethu, a ydyn ni’n effro i gyfleoedd i siarad â phobl sydd yn “digwydd bod yno”? (Act 17:17) Daeth Lydia yn ddisgybl o ganlyniad i bregethu diwyd Paul.—Act 16:13-15.

Samuel yn cynnig cylchgrawn i Ezekiel; Solomon a Mary yn pregethu i Ezekiel ac Abigail

“Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda’r nos” (Pre 11:6)

GWYLIA’R FIDEO CONTINUE PREACHING “WITHOUT LETUP”—INFORMALLY AND FROM HOUSE TO HOUSE, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Yn ei fywyd pob dydd, sut gwnaeth Samuel ddangos ei fod yn chwilio am y cyfle i blannu hadau’r gwirionedd?

  • Pam mae’n rhaid inni ddal ati ym mhob math o bregethu?

  • Gyda phwy allet ti rannu neges y Deyrnas yn dy fywyd pob dydd?

DYSGU ERAILL

Er mwyn gwneud disgyblion, mae angen inni wneud mwy na dim ond gadael ein llenyddiaeth gyda phobl. I helpu nhw wneud cynnydd ysbrydol, mae’n rhaid inni alw’n ôl a chynnal astudiaethau Beiblaidd. (1Co 3:6-9) Ond eto, beth os nad ydyn ni’n gweld llawer o ganlyniadau da o’n holl ymdrech i ddysgu rhywun y gwirionedd? (Mth 13:19-22) Dylen ni barhau i chwilio am y rhai sydd â chalonnau sy’n debyg i “dir da.”—Mth 13:23; Act 13:48.

Solomon a Mary yn cael astudiaeth Feiblaidd gydag Ezekiel ac Abigail; Ezekiel ac Abigail yn tystiolaethu’n gyhoeddus

“Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu” (1Co 3:6)

GWYLIA’R FIDEO CONTINUE PREACHING “WITHOUT LETUP”—PUBLICLY AND MAKING DISCIPLES, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gwnaeth Solomon a Mary ddyfrio hadau’r gwirionedd oedd yng nghalonnau Ezekiel ac Abigail?

  • Beth ddylai fod ein nod ym mhob agwedd o’r weinidogaeth, gan gynnwys tystiolaethu cyhoeddus?

  • Sut gallen ni roi mwy o bwyslais ar ddysgu’r gwirionedd i eraill?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu