LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Awst t. 8
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio JW.ORG

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio JW.ORG
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Doethineb ar Gyfer Bywyd Bob Dydd ar JW.ORG
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr?
    Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr?
  • Awgrymiad Ar Gyfer Astudio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Ydych Chi Erioed Wedi Gofyn?
    Deffrwch!—2019
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Awst t. 8
Brawd yn defnyddio cerdyn cyswllt i gyfeirio dyn at jw.org

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio JW.ORG

PAM MAE’N BWYSIG? Mae pob cyhoeddiad yn ein Bocs Tŵls Dysgu yn cyfeirio at jw.org. Prif bwrpas y cerdyn cyswllt a’r daflen Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? yw cyfeirio pobl at ein gwefan. Gelli di roi cyhoeddiad o’n Bocs Tŵls Dysgu i rywun drwy ddefnyddio jw.org i e-bostio copi electronig ohono neu drwy rannu linc. Gall hyn fod yn help mawr, yn enwedig os ydyn ni’n tystiolaethu wrth rhywun sy’n siarad iaith arall. Yn ogystal, efallai bydd pobl yn gofyn cwestiynau sy’n cael eu hateb mewn cyhoeddiadau sydd ddim yn rhan o’n Bocs Tŵls Dysgu. Os gallwn ni lywio’r wefan, gallwn ni fod yn fwy effeithiol yn ein gweinidogaeth.

SUT I FYND ATI?

  • Person yn defnyddio cerdyn cyswllt i lywio i jw.org

    Defnyddia’r tab “DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL”. Os wyt ti am dystiolaethu wrth riant sydd eisiau mwy o wybodaeth am fagu plant, dos i DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > PRIODAS A’R TEULU.

  • Defnyddia’r tab “CYHOEDDIADAU”. Os wyt ti am dystiolaethu’n anffurfiol yn yr ysgol ac rwyt ti eisiau rhannu’r llyfryn 10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc gyda disgybl arall, dos i CYHOEDDIADAU > LLYFRAU A LLYFRYNNAU.

  • Defnyddia’r tab “AMDANON NI”. Os wyt ti am dystiolaethu wrth gyd-weithiwr sydd eisiau esboniad byr o’n daliadau, dos i AMDANON NI > CWESTIYNAU CYFFREDIN.

GWYLIA’R FIDEO DEFNYDDIO JW.ORG, AC YNA YSTYRIA PA RAN O’R WEFAN GELLI DI DROI ATI I HELPU:

  • un nad yw’n credu ym modolaeth Duw

  • rhywun sydd newydd wynebu trychineb yn ei fywyd

  • brawd neu chwaer anweithredol

  • galwad sydd eisiau gwybod sut mae ein gwaith yn cael ei ariannu

  • person o wlad arall sydd eisiau mynd i gyfarfod yn ei famwlad

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu