TRYSORAU O AIR DUW | IOAN 7-8
Gogoneddodd Iesu Ei Dad
Mewn gair a gweithred gogoneddodd Iesu ei Dad nefol ym mhopeth. Roedd Iesu eisiau i bobl wybod bod ei neges yn dod oddi wrth Dduw. Felly fe wnaeth yr Ysgrythurau yn sail i’w ddysgu a chyfeiriodd yn aml atyn nhw. Pan gafodd Iesu glod, gwrthododd gymryd y clod iddo’i hun ond ei roi i Jehofa. Roedd ei fryd ar gyflawni’r gwaith a gafodd gan Jehofa.—In 17:4.
Sut gallwn efelychu Iesu wrth . . .
ddysgu ar astudiaeth Feiblaidd neu oddi ar y llwyfan?
cael ein canmol gan eraill?
penderfynu sut i dreulio ein hamser?