TRYSORAU O AIR DUW | IOAN 20-21
“Wyt Ti Wir yn Fy Ngharu i Fwy Na’r Rhain?”
Yn adeg y Beibl, roedd pysgotwyr llwyddiannus yn amyneddgar, yn weithgar, ac yn barod i oddef caledi er mwyn cael dalfa fawr o bysgod. (w12-E 8/1 18-20) Byddai’r fath rinweddau yn helpu Pedr i fod yn bysgotwr dynion llwyddiannus. Ond, roedd rhaid i Pedr benderfynu beth i flaenoriaethu yn ei fywyd—gyrfa seciwlar roedd yn ei fwynhau neu’r gwaith o fwydo dilynwyr Iesu yn ysbrydol.
Pa newidiadau wyt ti wedi eu gwneud i roi buddiannau’r Deyrnas yn gyntaf?