LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Ionawr t. 7
  • “Diolchodd Paul i Dduw ac Ymwrolodd”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Diolchodd Paul i Dduw ac Ymwrolodd”
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Maen Nhw’n Gweithio’n Galed i’n Helpu Ni
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Sut Mae Arolygwyr Cylchdaith yn Ein Helpu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Ionawr t. 7
Paul yn diolch i Dduw am y brodyr sydd wedi teithio i’w gyfarfod

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Diolchodd Paul i Dduw ac Ymwrolodd

Pan glywodd y gynulleidfa yn Rhufain fod Paul ar ei ffordd, teithiodd grŵp o frodyr tua 40 milltir (64 km) i’w gyfarfod. Pa effaith gafodd eu cariad hunan-aberthol ar Paul? “Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.” (Act 28:15, BCND) Er bod gan Paul enw am annog y cynulleidfaoedd yr oedd yn ymweld â nhw, ar yr achlysur hwn pan oedd yn garcharor, ef oedd yr un a gafodd ei annog.—2Co 13:10.

Heddiw, mae arolygwyr cylchdaith yn teithio o un gynulleidfa i’r llall er mwyn calonogi’r brodyr a chwiorydd. Fel pob un o bobl Dduw, maen nhw ar brydiau yn blino, yn pryderu, ac yn digalonni. Sut gelli di helpu’r arolygwr a’i wraig i ymwroli pan ddôn nhw i dy gynulleidfa, iddyn nhwthau allu profi’r geiriau: “Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi”?—Rhu 1:11, 12.

  • Arolygwr cylchdaith yn arwain cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth

    Cefnoga’r cyfarfodydd gweinidogaeth. Caiff arolygwr y gylchdaith ei galonogi o weld cyhoeddwyr yn gwneud aberth i elwa’n llawn ar yr wythnos o weithgaredd arbennig. (1The 1:2, 3; 2:20) Ystyria arloesi’n gynorthwyol yn ystod mis ei ymweliad. Beth am weithio gydag ef a’i wraig yn y weinidogaeth, neu fynd ag un ohonyn nhw gyda ti ar astudiaeth Feiblaidd? Maen nhw’n mwynhau gweithio gyda chyhoeddwyr gwahanol, gan gynnwys rhai newydd neu rai llai medrus yn y weinidogaeth.

  • Arolygwr cylchdaith a’i wraig yn cael croeso mawr gan deulu

    Bydda’n lletygar. A fedri di gynnig ystafell wely am yr wythnos neu bryd o fwyd? Mae hyn yn dangos i’r arolygwr a’i wraig dy fod ti’n eu caru. Dydyn nhw ddim yn disgwyl unrhyw beth crand.—Lc 10:38-42.

  • Arolygwr cylchdaith yn arwain cyfarfod henuriaid

    Gwranda ar ei arweiniad a’i gyngor, a’u rhoi ar waith. Mewn ffordd gariadus, mae arolygwr y gylchdaith yn ein helpu i weld sut gallwn ni wella yn ein gwasanaeth i Jehofa. Ar brydiau, efallai bydd rhaid iddo roi cyngor cryf. (1Co 5:1-5) Mae’n dod â llawenydd iddo pan ydyn ni’n ildio ac yn ufuddhau i’r cyngor.—Heb 13:17.

  • Aelodau o’r gynulleidfa yn dangos eu gwerthfawrogiad i arolygwr y gylchdaith a’i wraig

    Dangosa werthfawrogiad. Dyweda wrth arolygwr y gylchdaith a’i wraig gymaint mae eu hymdrechion wedi dy helpu. Gelli di wneud hyn wyneb yn wyneb neu gyda nodyn neu gerdyn.—Col 3:15.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu