LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Ebrill tt. 4-5
  • Sut Byddi Di’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Byddi Di’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Rhaglen Darllen y Beibl Coffadwriaeth 2023
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Darlleniad Beiblaidd y Goffadwriaeth 2022
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Rhaglen Darllen y Beibl Coffadwriaeth 2025
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2025
  • Rhaglen Darllen y Beibl Coffadwriaeth 2024
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Ebrill tt. 4-5

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut Byddi Di’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?

O’r flwyddyn hon ymlaen, bydd gennyn ni fwy o amser i baratoi ar gyfer Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Pan fydd y Goffadwriaeth yn disgyn yng nghanol yr wythnos, ni chaiff Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth ei gynnal yr wythnos honno. Pan fydd y Goffadwriaeth yn disgyn ar benwythnos, ni fydd anerchiad cyhoeddus nac Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio yn cael eu cynnal chwaith. A fyddi di’n gwneud y defnydd gorau o dy amser ychwanegol? Fel yr oedd hi yn y ganrif gyntaf, bydd rhaid gwneud trefniadau ymarferol ar gyfer yr achlysur arbennig hwn. (Lc 22:7-13; km 3/15 1) Ond dylai bob un ohonon ni baratoi ein calonnau. Sut gallwn ni wneud hyn?

  • Myfyria ar bwysigrwydd bod yn bresennol.—1Co 11:23-26

  • Gweddïa a meddylia am dy berthynas bersonol â Jehofa.—1Co 11:27-29; 2Co 13:5

  • Darllena’r deunydd Ysgrythurol sy’n trafod ystyr y Goffadwriaeth.—In 3:16; 15:13

Bydd rhai cyhoeddwyr yn darllen ac yn myfyrio ar y darlleniad o’r Beibl a geir yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd. Bydd eraill yn darllen yr adnodau sydd i’w cael yn y siart isod. Ac eto bydd eraill yn adolygu erthyglau o’r Tŵr Gwylio sy’n trafod y Goffadwriaeth a’r cariad y mae Jehofa ac Iesu wedi ei ddangos tuag aton ni. Pa bynnag brosiect rwyt ti’n ei ddewis, boed iddo gryfhau dy berthynas â Jehofa a’i Fab.

Wythnos Olaf Bywyd Iesu ar y Ddaear (Rhannau 1 a 2)
    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu