LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Awst t. 8
  • Gweithredoedd Da Na Chaiff eu Hanghofio

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gweithredoedd Da Na Chaiff eu Hanghofio
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Yw Bethel?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Awst t. 8
Chwaer yn gweithio yn y gegin ym Methel

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gweithredoedd Da Na Chaiff eu Hanghofio

Gall pob un o weision Jehofa wneud gwaith cysegredig y bydd Ef yn ei gofio am byth. Fel rhiant cariadus sy’n trysori gwaith da ei blant, dydy Jehofa ddim yn anghofio ein gwaith na’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag at ei enw. (Mth 6:20; Heb 6:10, BCND) Wrth gwrs, mae gan bawb alluoedd ac amgylchiadau gwahanol. Eto, os gwnawn ein gorau wrth wasanaethu Jehofa, gallwn fod yn llawen. (Ga 6:4; Col 3:23) Dros y blynyddoedd, mae miloedd o frodyr a chwiorydd wedi gweithio yn y Bethel. A elli di wirfoddoli i weithio yno hefyd? Os na elli di, beth am annog eraill i wirfoddoli neu helpu’r rhai sydd eisoes yn gwasanaethu yn y ffordd arbennig hon i ddal ati?

GWYLIA’R FIDEO MAKING YOURSELF AVAILABLE FOR BETHEL SERVICE, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth ddylai ysgogi rhywun i wasanaethu yn y Bethel?

  • Pa fendithion mae rhai wedi eu derbyn o weithio yn y Bethel?

  • Beth yw’r gofynion ar gyfer bod yn weithiwr Bethel?

  • Pa ffurflenni cais sydd ar gael ar gyfer gweithio yn y Bethel, a sut gelli di gael gafael arnyn nhw?

Tri o weithwyr Bethel yn cydweithio ar brosiect ar gyfrifiadur; brawd yn pacio bocsys o lenyddiaeth; brawd yn gwneud gwaith coed yn y Bethel

Y gofynion ar gyfer gweithio yn y Bethel

  • Cariad mawr tuag at Jehofa a’i gyfundrefn

  • Safonau moesol uchel a chydwybod lân o flaen Jehofa

  • Gwisg a thrwsiad sy’n addas i Gristion

  • Dewis adloniant sy’n addas i Gristion

  • Fel arfer rhwng 19 a 35 oed

  • Iechyd meddyliol, emosiynol, a chorfforol da

  • Y gallu i ddarllen, ysgrifennu, a siarad prif iaith y gangen

  • Yn barod i aros am o leiaf un flwyddyn

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu