EIN BYWYD CRISTNOGOL
Faint Wyt Ti’n Trysori Gair Duw?
Yn y Beibl, ceir geiriau a meddyliau Jehofa Dduw, Awdur y llyfr sanctaidd hwn. (2Pe 1:20, 21) Drwy bwysleisio ei thema ganolog, sef cyfiawnhau awdurdod brenhinol Jehofa drwy gyfrwng ei Deyrnas, mae’r Beibl yn cynnig i bawb y gobaith o gael bywyd gwell yn fuan. Mae’r Beibl hefyd yn datgelu personoliaeth gariadus ein Tad nefol, Jehofa.—Sal 86:15.
Rydyn ni i gyd yn trysori Gair Duw am resymau gwahanol. Ond, a ydyn ni’n dangos ein bod ni’n trysori’r rhodd hon drwy ddarllen y Beibl bob dydd a rhoi ei gyngor ar waith? Peth da fyddai i’n gweithredoedd ddangos ein bod ni’n teimlo fel y salmydd: “O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!”—Sal 119:97.
GWYLIA’R FIDEO THEY VALUED THE BIBLE—EXCERPT (WILLIAM TYNDALE), AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam cyfieithodd William Tyndale rannau o’r Beibl?
Beth oedd mor arbennig am ei ymdrechion i gyfieithu’r Beibl?
Sut cafodd copïau o Feiblau Tyndale eu smyglo i Loegr?
Sut gall pob un ohonon ni ddangos ein bod ni’n trysori Gair Duw?