EIN BYWYD CRISTNOGOL
A Elli Di Esbonio Dy Ffydd?
Petai rhywun yn gofyn iti pam rwyt ti’n credu hanes y creu, beth fyddet ti’n ei ddweud? Er mwyn ateb yn hyderus, mae’n rhaid iti wneud dau beth: Yn gyntaf, mae’n rhaid iti brofi i ti dy hun fod hanes y creu yn wir. (Rhu 12:1, 2) Yna, rhaid iti feddwl am sut i esbonio dy ffydd i rywun arall.—Dia 15:28.
GWYLIA’R FIDEOS AN ORTHOPEDIC SURGEON EXPLAINS HER FAITH AC A ZOOLOGIST EXPLAINS HIS FAITH I DDEALL PAM BOD ERAILL YN CREDU YN HANES Y CREU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pam mae Irène Hof Laurenceau yn credu bod bywyd wedi ei greu yn hytrach na’i fod wedi esblygu?
Pam mae Yaroslav Dovhanych yn credu bod bywyd wedi ei greu yn hytrach na’i fod wedi esblygu?
Sut byddet ti’n esbonio pam rwyt ti’n credu mai Duw a greodd popeth?
Pa bethau sydd ar gael yn dy iaith di gan gyfundrefn Jehofa er mwyn iti brofi i ti dy hun ac i eraill fod Duw wedi creu popeth?