EIN BYWYD CRISTNOGOL
Safwch yn Gadarn Wrth i’r Diwedd Agosáu
PAM MAE’N BWYSIG? Yn fuan, byddwn ni’n gweld digwyddiadau rhyfeddol a fydd yn gofyn inni fod yn ddewr ac inni ymddiried yn Jehofa yn fwy nag erioed o’r blaen. Bydd y gorthrymder mawr yn dechrau pan gaiff gau grefydd ei dinistrio. (Mth 24:21; Dat 17:16, 17) Yn ystod yr adeg gythryblus honno, efallai byddwn ni’n cyhoeddi neges gref o farn. (Dat 16:21) Byddwn yn wynebu ymosodiad gan Gog o dir Magog. (Esec 38:10-12, 14-16) O ganlyniad, bydd Jehofa yn dod â’r “frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.” (Dat 16:14, 16) I gryfhau ein dewrder ar gyfer y digwyddiadau sydd i ddod, mae’n rhaid inni sefyll yn gadarn pan fydd ein ffydd yn cael ei phrofi nawr.
SUT I FYND ATI:
Bod yn ddewr wrth gadw safonau moesol uchel Jehofa.—Esei 5:20
Dal ati i addoli gyda’n cyd-Gristnogion. —Heb 10:24, 25
Bod yn barod i ufuddhau i arweiniad gan gyfundrefn Jehofa.—Heb 13:17
Myfyrio ar sut achubodd Jehofa ei bobl yn y gorffennol.—2Pe 2:9
Gweddïo ar Jehofa, ac ymddiried ynddo. —Sal 112:7, 8
GWYLIA’R DRAMATEIDDIAD DIGWYDDIADAU A FYDD YN GOFYN AM DDEWRDER—CLIP, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pa brawf i’w hufudd-dod wynebodd y cyhoeddwyr wrth iddyn nhw gael eu hailaseinio i gynulleidfaoedd eraill?
Beth ydy’r cysylltiad rhwng dewrder ac ufudd-dod?
Pam bydd angen dewrder arnon ni pan ddaw Armagedon?
Paratoa nawr ar gyfer digwyddiadau a fydd yn gofyn am ddewrder
Pa hanes yn y Beibl a all gryfhau ein ffydd yng ngallu Jehofa i’n hachub ni?—2Cr 20:1-24