TRYSORAU O AIR DUW | EXODUS 23-24
Paid â Dilyn y Dorf
Mae rhybudd Jehofa i’r rhai oedd yn tystio ac yn barnu mewn achosion cyfreithiol i beidio â chael eu dylanwadu gan y dorf i ddweud celwyddau nac i farnu’n annheg, hefyd yn berthnasol yn ein bywyd bob dydd. Mae Cristnogion o dan bwysau di-baid i gydymffurfio â meddylfryd ac ymddygiad annuwiol y byd hwn.—Rhu 12:2.
Pam na fyddai’n ddoeth dilyn y dorf pan fyddi di’n
clywed sibrydion neu glecs di-sail?
dewis dillad, steiliau gwallt, neu adloniant?
meddwl am neu’n delio â phobl o hil, diwylliant, neu statws ariannol sy’n wahanol i ti?