EIN BYWYD CRISTNOGOL
Gwylia Rhag Lledaenu Celwyddau
Heddiw, gall gwybodaeth gael ei lledaenu i filiynau o bobl yn gyflym iawn ar y Rhyngrwyd, y teledu, y radio, ac mewn print. Dydy’r rhai sy’n addoli ‘Duw y gwirionedd’ ddim eisiau lledaenu gwybodaeth ffals, hyd yn oed yn anfwriadol. (Sal 31:5, BC; Ex 23:1) Gall lledaenu celwyddau achosi niwed mawr. I weld a ydy rhywbeth yn wir neu beidio, gofynna i ti dy hun:
‘Ydy’r ffynhonnell yn ddibynadwy?’ Efallai dydy’r un sy’n adrodd y stori ddim yn gwybod y ffeithiau i gyd. Pan fydd straeon yn cael eu hailadrodd o un person i’r llall, maen nhw’n siŵr o newid. Felly, bydda’n ofalus pan na fedri di gadarnhau tarddiad y stori. Gan fod y rhai sydd â breintiau yn y gynulleidfa yn ffynonellau dibynadwy, dylen nhw fod yn ofalus iawn i beidio ag ailadrodd gwybodaeth sydd heb ei chadarnhau
‘Ydy’r wybodaeth yn enllibus?’ Os ydy’r wybodaeth yn pardduo enw da person neu grŵp, byddai’n well beidio â’i hailadrodd.—Dia 18:8; Php 4:8
‘Ydy’r stori’n gredadwy?’ Troedia’n ofalus pan fyddi di’n clywed straeon neu brofiadau syfrdanol
GWYLIA’R FIDEO SUT GALLA’ I OSGOI HEL CLECS? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Yn ôl Diarhebion 12:18, pa niwed gall geiriau ei achosi?
Sut mae Philipiaid 2:4 yn ein helpu ni i gael agwedd gytbwys wrth siarad am eraill?
Beth dylen ni ei wneud pan fydd sgwrs am eraill yn troi’n sarcastig neu’n negyddol?
Cyn dechrau siarad am bobl eraill, pa gwestiynau dylen ni eu gofyn?