EIN BYWYD CRISTNOGOL
A Fedri Di Roi o Dy Amser a Dy Egni?
Fel rhagfynegodd Eseia, rydyn ni’n gweld y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa yn tyfu yn fwy nag erioed. (Esei 54:2) Felly, mae’n rhaid adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, Neuaddau Cynulliad, a swyddfeydd cangen. Ac yna mae’n rhaid cynnal yr adeiladau hyn, ac yn y pen draw atgyweirio rhai ohonyn nhw. Pa gyfleoedd sy’n agored inni roi o’n hamser a’n hegni i Jehofa?
Gallwn helpu pan fydd ein grŵp gweinidogaeth yn cael ei aseinio i lanhau’r Neuadd y Deyrnas
Gallwn wirfoddoli i dderbyn hyfforddiant am sut i gynnal ein Neuadd y Deyrnas
Gallwn lenwi ffurflen Local Design/Construction Volunteer Application (DC-50) i helpu bob hyn a hyn ar brosiectau adeiladu a chynnal a chadw yn ein hardal
Gallwn lenwi ffurflen Application for Volunteer Program (A-19) i wirfoddoli i weithio am wythnos neu fwy yn un o adeiladau’r gangen leol
GWYLIA’R FIDEO A NEW CONSTRUCTION PROJECT IS BEING PLANNED—EXCERPT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Ym mha ffordd rydyn ni’n defnyddio fideos yn llawer mwy nawr nag oedden ni blynyddoedd yn ôl?
Er mwyn cynhyrchu’r fideos sydd eu hangen arnon ni, pa brosiect sy’n cael ei gynllunio, a phryd bydd y prosiect yn cychwyn ac yn gorffen?
Sut gall gwirfoddolwyr helpu gyda’r prosiect hwn?
Os ydyn ni eisiau helpu gyda’r gwaith adeiladu yn Ramapo, pam dylen ni lenwi cais (DC-50) a helpu gyda phrosiectau Local Design/Construction yn ein hardal ni?
Beth sy’n dangos bod Jehofa yn arwain y prosiect hwn?
Sut gallwn ni gefnogi’r prosiect hwn hyd yn oed os na fedrwn ni helpu gyda’r gwaith adeiladu?