EIN BYWYD CRISTNOGOL
Dangosa Gariad yn y Teulu
Cariad yw’r glud sy’n cadw teulu at ei gilydd. Heb gariad, bydd hi’n anodd i deulu aros yn unedig a chyd-dynnu. Sut gall gwŷr, gwragedd, a rhieni ddangos cariad yn y teulu?
Bydd gŵr cariadus yn ystyried anghenion, safbwynt, a theimladau ei wraig. (Eff 5:28, 29) Bydd ef hefyd yn gofalu am anghenion corfforol ac ysbrydol ei deulu, gan gynnwys cynnal noson Addoliad Teuluol yn rheolaidd. (1Ti 5:8) Bydd gwraig gariadus yn ymostwng i’w gŵr a dangos parch dwfn tuag ato. (Eff 5:22, 33, BCND; 1Pe 3:1-6) Mae’n rhaid i’r ddau gymar fod yn barod i faddau i’w gilydd yn hael. (Eff 4:32) Mae rhieni cariadus yn dangos diddordeb personol ym mhob un o’u plant ac yn eu dysgu nhw i garu Jehofa. (De 6:6, 7; Eff 6:4) Pa heriau mae eu plant yn eu hwynebu yn yr ysgol? Ydyn nhw’n ymdopi â phwysau gan gyfoedion? Pan fydd teulu yn llawn cariad, bydd pob aelod yn teimlo’n saff ac yn ddiogel.
GWYLIA’R FIDEO DANGOSA GARIAD DIDDARFOD YN Y TEULU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut mae gŵr cariadus yn bwydo ac yn trysori ei wraig?
Sut mae gwraig gariadus yn dangos parch dwfn tuag at ei gŵr?
Sut mae rhieni cariadus yn dysgu gair Duw i’w plant?