EIN BYWYD CRISTNOGOL
Trin Gwragedd Hŷn Fel Mamau a Gwragedd Ifanc Fel Chwiorydd
Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i drin Cristnogion hŷn fel mamau a thadau, a rhai ifanc fel brodyr a chwiorydd. (Darllen 1 Timotheus 5:1, 2.) Dylai brodyr yn enwedig drin chwiorydd gydag urddas a pharch.
Ni ddylai brawd fflyrtio na gwneud unrhyw beth fyddai’n gwneud i chwaer deimlo’n anghyfforddus yn ei gwmni. (Job 31:1) Rhaid i frawd osgoi ymddwyn mewn ffordd fyddai’n gwneud i chwaer deimlo ei fod eisiau ei chanlyn hi pan nad ydy ef mewn gwirionedd.
Dylai henuriaid roi sylw garedig i chwiorydd sy’n dod atyn nhw yn barchus i ofyn cwestiwn neu i ddod â rhywbeth i’r golwg. Mae henuriaid wir yn ystyried anghenion chwiorydd sydd heb gwŷr i ofalu amdanyn nhw.—Ru 2:8, 9.
GWYLIA’R FIDEO DANGOSA GARIAD DIDDARFOD YN Y GYNULLEIDFA—AT WEDDWON A PHLANT AMDDIFAD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut dangosodd y gynulleidfa gariad rhagorol at Chwaer Myint?
Sut cafodd tystiolaeth dda ei rhoi i’r pentref oherwydd cariad y gynulleidfa?
Sut gwnaeth cariad y gynulleidfa effeithio ar ferched Chwaer Myint?
Yma mha ffyrdd ymarferol gelli di ddangos gofal cariadus at y chwiorydd yn dy gynulleidfa?