LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb23 Mawrth t. 3
  • Sut i Helpu ar ôl Trychineb

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Helpu ar ôl Trychineb
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Erthyglau Tebyg
  • Ydy Tystion Jehofa yn Rhoi Cymorth yn Ystod Trychinebau?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Cymorth ar ôl Trychineb yn 2023—“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Darparu Cymorth i Rai Sydd Wedi Dioddef Trychinebau
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Cymorth ar ôl Trychineb yn 2021—Ddim yn Cefnu ar Ein Brodyr a’n Chwiorydd
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
mwb23 Mawrth t. 3

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Helpu ar ôl Trychineb

Mae trychinebau naturiol yn dod yn fwy ac yn fwy cyffredin. Pan mae trychineb yn taro, mae angen trefnu a chydlynu cymorth mewn ffordd effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, mae’r Corff Llywodraethol wedi trefnu i Adrannau Cymorth ar ôl Trychineb gael eu sefydlu ym mhob swyddfa gangen.

Pan mae’r brodyr yn yr adran honno yn dysgu am drychineb, maen nhw’n cysylltu â’r henuriaid lleol yn syth er mwyn darganfod pa help sydd ei angen ar y cyhoeddwyr lleol. Os ydy’r difrod yn ormod i’r cyhoeddwyr lleol, bydd y gangen yn aseinio brodyr cymwys i gymryd y blaen yn y gwaith cymorth. Efallai bydd y brodyr hyn yn gofyn am wirfoddolwyr neu am gyfraniadau o bethau penodol, neu efallai byddan nhw’n prynu ac yn dosbarthu’r nwyddau angenrheidiol yn lleol.

Mae ’na lawer o fuddion o wneud pethau y ffordd hon. Mae’n osgoi dryswch, neu wastraffu ymdrech, arian, ac adnoddau, sy’n gallu digwydd pan mae brodyr yn gweithredu ar eu liwt eu hunain.

Gall y brodyr sydd wedi eu hapwyntio gan y gangen benderfynu faint o arian a gwirfoddolwyr sydd eu hangen yn y gwaith cymorth. Gallan nhw hefyd gysylltu â swyddogion lleol, sy’n gallu helpu i gyflymu’r gwaith. Felly, ddylai unigolion ddim fynd ati i gasglu arian, anfon nwyddau, neu deithio i’r ardal sydd wedi ei heffeithio heb i rywun ofyn iddyn nhw wneud hynny.

Ond eto, pan mae trychineb yn taro, rydyn eisiau helpu. (Heb 13:16) Rydyn ni’n caru ein brodyr! Beth gallwn ni ei wneud? Yn bwysicaf, gallwn ni weddïo dros y rhai sy’n dioddef a dros y rhai sy’n darparu cymorth. Gallwn ni hefyd gwneud cyfraniadau at y gwaith byd-eang. O dan arweiniad y Corff Llywodraethol, swyddfeydd cangen sydd yn y sefyllfa orau i wybod ble bydd yr arian yn helpu fwyaf. Ac os wyt ti eisiau cael rhan yn y gwaith, gelli di ddangos dy fod ti ar gael drwy lenwi’r ffurflen Local Design/Construction Volunteer Application (DC-50).

GWYLIA’R FIDEO DEVASTATING FLOODING IN BRAZIL, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

Golygfa o’r fideo “Devastating Flooding in Brazil.” Llun o’r awyr o dai a choed mewn ardal sydd wedi ei tharo gan lifogydd.

Beth sy’n dy daro di am ymdrechion cymorth Tystion Jehofa ar ôl y llifogydd ym Mrasil yn 2020?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu