LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb23 Medi t. 13
  • Helpa Bobl Ddigrefydd i Ddod i Adnabod Eu Creawdwr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpa Bobl Ddigrefydd i Ddod i Adnabod Eu Creawdwr
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyffwrdd â Chalonnau Pobl Ddigrefydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Defnyddia’r Adnoddau yn Ein Bocs Tŵls Dysgu yn Fedrus
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Dysgu Eraill y Gwirionedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Ystyriwch y Ffeithiau
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
mwb23 Medi t. 13
Chwaer yn tystiolaethu i ddynes o Asia.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Helpa Bobl Ddigrefydd i Ddod i Adnabod Eu Creawdwr

Wyt ti’n dal yn ôl rhag tystiolaethu i bobl ddigrefydd, gan feddwl na fyddan nhw’n ymateb yn ffafriol? Os felly, cofia fod llawer o bobl—gan gynnwys anffyddwyr—wedi dod yn Dystion Jehofa. Yn aml, y cwbl roedden nhw’n eu hangen oedd ychydig bach o help i edrych ar y tystiolaeth fod Duw yn bodoli.—Rhu 1:20; 10:14.

GWYLIA’R FIDEO COFIA—GALL UNRHYW UN FEITHRIN FFYDD!—POBL DDIGREFYDD, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN CANLYNOL:

Sut mae profiad Tommaso yn dy helpu di i gadw agwedd bositif tuag at dystiolaethu i bobl ddigrefydd?

Sut i fynd ati

Petasai rhywun yn datgelu nad ydyn nhw’n credu yn Nuw, dangosa ddiddordeb yn y ffordd mae ef yn ei deimlo am y pwnc, gan ddangos tact a charedigrwydd. (2Ti 2:24) Trafoda bynciau sy’n debygol o apelio ato. Ydy ef yn fodlon trafod tystiolaeth sydd wedi arwain llawer at gredu mewn Creawdwr? Os felly, defnyddia’r cyhoeddiadau sydd wedi cael eu dylunio ar gyfer y pwrpas hwnnw. Mae’r llyfrynnau A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking wedi cael eu hychwanegu at y Bocs Tŵls Dysgu fel eu bod hi’n hawdd ddod o hyd iddyn nhw.

Ar y cychwyn, efallai na fyddi di’n teimlo’n hyderus wrth siarad am y gwir â rhywun sydd ddim yn credu yn Nuw. Beth am ofyn i gyhoeddwr profiadol am gymorth? A chofia hefyd, gall Jehofa ein helpu ni i gyrraedd calonnau’r rhai sydd â’r agwedd gywir—hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn credu ei fod ef yn bodoli ar hyn o bryd.—Ac 13:48.

Y llyfryn “A Gafodd Bywyd ei Greu?”
Y llyfryn “The Origin of Life—Five Questions Worth Asking.”
    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu