ERTHYGL ASTUDIO 8
Ceisia Heddwch Drwy Gwffio Cenfigen
“Gadewch i ni wneud beth sy’n arwain at heddwch ac sy’n cryfhau pobl eraill.”—RHUF. 14:19.
CÂN 113 Ein Heddwch
CIPOLWGa
1. Pa effaith y cafodd cenfigen ar deulu Joseff?
ROEDD Jacob yn caru bob un o’i feibion, ond roedd ganddo le arbennig yn ei galon ar gyfer Joseff, a oedd yn 17 ar y pryd. Sut gwnaeth brodyr Joseff ymateb? Daethon nhw’n genfigennus ohono, ac o ganlyniad, dechreuon nhw ei gasáu. Doedd Joseff ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu casineb ei frodyr. Er hynny, dyma nhw’n gwerthu Joseff fel caethwas a dweud celwydd wrth eu tad, gan ddweud bod anifail gwyllt wedi lladd ei hoff fab. Roedd cenfigen wedi achosi iddyn nhw chwalu heddwch y teulu a thorri calon eu tad.—Gen. 37:3, 4, 27-34.
2. Yn ôl Galatiaid 5:19-21, pam mae cenfigen mor beryglus?
2 Yn y Beibl, mae cenfigenb yn cael ei rhestru ymhlith pethau marwol y “natur bechadurus,” sy’n gallu rhwystro rhywun rhag etifeddu Teyrnas Dduw. (Darllen Galatiaid 5:19-21.) Yn aml, cenfigen sydd wrth wraidd ffrwythau gwenwynig fel casineb, ffraeo, a gwylltio.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Mae esiampl brodyr Joseff yn dangos sut gall cenfigen niweidio ein perthynas ag eraill a chwalu heddwch y teulu. Er na fydden ni byth yn gwneud beth wnaeth brodyr Joseff, mae gan bob un ohonon ni galon amherffaith a thwyllodrus. (Jer. 17:9) Does dim syndod felly, ein bod ni’n teimlo’n genfigennus weithiau. Gad inni ystyried rhai esiamplau rhybuddiol o’r Beibl a fydd yn ein helpu i weld sut gall hadau cenfigen wreiddio yn ein calonnau. Byddwn ni wedyn yn ystyried rhai ffyrdd ymarferol o gwffio cenfigen a hybu heddwch.
BETH ALL ACHOSI CENFIGEN?
4. Pam roedd y Philistiaid yn genfigennus o Isaac?
4 Cyfoeth. Roedd Isaac yn ddyn cyfoethog, ac oherwydd hynny, roedd y Philistiaid yn genfigennus ohono. (Gen. 26:12-14) Gwnaethon nhw hyd yn oed ddifetha’r ffynhonnau roedd Isaac yn dibynnu arnyn nhw er mwyn rhoi dŵr i’w anifeiliaid. (Gen. 26:15, 16, 27) Fel y Philistiaid, mae llawer o bobl heddiw yn dod yn genfigennus o’r rhai sydd â mwy o gyfoeth na nhw. Nid yn unig y maen nhw’n dyheu am yr hyn sydd gan bobl eraill, ond hefyd byddan nhw’n ceisio amddifadu’r bobl hynny o’r hyn sydd ganddyn nhw.
5. Pam roedd yr arweinwyr crefyddol yn genfigennus o Iesu?
5 Bod yn boblogaidd. Roedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig yn genfigennus o Iesu oherwydd bod y bobl gyffredin yn ei edmygu. (Math. 7:28, 29) Iesu oedd cynrychiolwr Duw, ac roedd yn dysgu’r gwirionedd. Er hynny, lledaenodd yr arweinwyr crefyddol gelwyddau cas am Iesu er mwyn pardduo ei enw. (Marc 15:10; Ioan 11:47, 48; 12:12, 13, 19) Pa wers gallwn ni ei dysgu o’r hanesyn hwn? Rhaid inni frwydro yn erbyn unrhyw dueddiad i genfigennu wrth y rhai mae’r gynulleidfa yn eu caru oherwydd eu rhinweddau deniadol. Yn hytrach, dylen ni geisio efelychu eu ffyrdd cariadus.—1 Cor. 11:1; 3 Ioan 11.
6. Sut dangosodd Diotreffes genfigen?
6 Breintiau theocrataidd. Yn y ganrif gyntaf, roedd Diotreffes yn genfigennus o’r rhai a oedd yn arwain yn y gynulleidfa Gristnogol. Roedd arno eisiau “bod yn geffyl blaen” yn y gynulleidfa, felly lledaenodd glecs maleisus er mwyn difrïo’r apostol Ioan a brodyr cyfrifol eraill. (3 Ioan 9, 10) Er na fydden ni byth yn gwneud beth wnaeth Diotreffes, gallen ninnau hefyd gychwyn cenfigennu wrth gyd-Gristion sy’n derbyn aseiniad roedden ni wedi gobeithio ei gael, yn enwedig os ydyn ni’n teimlo y gallen ni wneud y gwaith cystal, os nad yn well nag ef.
Mae ein calonnau yn debyg i bridd, a’n rhinweddau fel blodau hardd. Ond mae cenfigen fel chwynnyn gwenwynig. Gall cenfigen dagu tyfiant rhinweddau fel cariad, trugaredd, a charedigrwydd (Gweler paragraff 7)
7. Pa effaith gall cenfigen ei chael arnon ni?
7 Mae cenfigen yn debyg i chwynnyn gwenwynig. Unwaith i’r hedyn wreiddio yn ein calon, gall fod yn anodd ei ddinistrio. Mae cenfigen yn bwydo ar deimladau negyddol eraill, fel eiddigedd amhriodol, balchder, a hunanoldeb. Gall cenfigen dagu tyfiant rhinweddau fel cariad, trugaredd, a charedigrwydd. Cyn gynted ag y gwelwn genfigen yn dechrau egino, mae’n rhaid inni ei ddadwreiddio o’n calon. Sut gallwn ni gwffio cenfigen?
MEITHRIN GOSTYNGEIDDRWYDD A BODLONRWYDD
Sut gallwn ni gwffio yn erbyn cenfigen? Gyda chymorth ysbryd glân Duw, gallwn ni ddadwreiddio cenfigen a phlannu gostyngeiddrwydd a bodlonrwydd yn ei lle (Gweler paragraffau 8-9)
8. Pa rinweddau all ein helpu i frwydro yn erbyn cenfigen?
8 Gallwn ni frwydro yn erbyn cenfigen drwy feithrin gostyngeiddrwydd a bodlonrwydd. Pan fydd y rhinweddau hyn yn llenwi ein calon, fydd dim lle i genfigen dyfu. Bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu i beidio â meddwl gormod ohonon ni’n hunain. Dydy person gostyngedig ddim yn meddwl ei fod yn haeddu mwy na phawb arall. (Gal. 6:3, 4) Mae rhywun bodlon yn hapus â’r hyn sydd ganddo, ac nid yw’n cymharu ei hun ag eraill. (1 Tim. 6:7, 8) Pan fydd person gostyngedig a bodlon yn gweld rhywun arall yn derbyn rhywbeth da, bydd ef yn hapus drosto.
9. Yn ôl Galatiaid 5:16 a Philipiaid 2:3, 4, beth bydd ysbryd glân yn ein helpu i’w wneud?
9 Rydyn ni angen help ysbryd glân Duw er mwyn osgoi’r tueddiad cnawdol o fod yn genfigennus a meithrin gostyngeiddrwydd a bodlonrwydd. (Darllen Galatiaid 5:16; Philipiaid 2:3, 4.) Gall ysbryd glân Jehofa ein helpu i chwilio ein meddyliau a’n cymhellion mwyaf dwfn. Gyda help Duw, gallwn ni ddadwreiddio meddyliau a theimladau niweidiol a phlannu rhai adeiladol yn eu lle. (Salm 26:2; 51:10) Ystyria esiamplau Moses a Paul, dynion a lwyddodd i gwffio’r tueddiad i genfigennu.
Dyn ifanc o Israel yn rhedeg at Moses a Josua i adrodd bod dau ddyn yn y gwersyll yn ymddwyn fel proffwydi. Mae Josua yn gofyn i Moses rwystro’r dynion, ond mae Moses yn gwrthod. Yn hytrach, mae’n dweud wrth Josua ei fod yn hapus fod Jehofa wedi rhoi Ei ysbryd ar y ddau ddyn hyn (Gweler paragraff 10)
10. Pa sefyllfa a allai fod wedi profi Moses? (Gweler y llun ar y clawr.)
10 Roedd gan Moses lawer o awdurdod dros bobl Dduw, ond ni cheisiodd rwystro eraill rhag cael y fraint honno. Er enghraifft, ar un achos, tynnodd Jehofa beth o’i ysbryd glân oddi wrth Moses a’i roi i grŵp o henuriaid Israel a oedd yn sefyll wrth babell y cyfarfod. Yn fuan wedyn, clywodd Moses fod dau henuriad nad oedd wedi bod yno wrth babell y cyfarfod hefyd wedi derbyn ysbryd glân, ac wedi dechrau ymddwyn fel proffwydi. Beth oedd ei ymateb pan ofynnodd Josua iddo stopio’r henuriaid? Ni chenfigennodd Moses wrth y ddau ddyn am y sylw a gawson nhw gan Jehofa. Yn hytrach, cydlawenhaodd yn ostyngedig â nhw oherwydd eu braint. (Num. 11:24-29) Pa wers gallwn ni ei dysgu o esiampl Moses?
Sut gall henuriaid Cristnogol efelychu agwedd ostyngedig Moses? (Gweler paragraffau 11-12)c
11. Sut gall henuriaid efelychu Moses?
11 Os wyt ti’n henuriad, a ofynnwyd iti erioed hyfforddi rhywun arall i ofalu am fraint yn y gynulleidfa yr wyt ti’n ei thrysori? Er enghraifft, efallai dy fod wrth dy fodd â’r fraint o arwain yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio bob wythnos. Ond, os oes gen ti agwedd ostyngedig fel Moses, ni fyddi di’n teimlo bod dy statws yn cael ei herio os gofynnir iti hyfforddi brawd arall i ofalu am y fraint hon. Yn hytrach, byddi di’n hapus i helpu dy frawd.
12. Sut mae llawer o Gristnogion heddiw yn dangos bodlonrwydd a gostyngeiddrwydd?
12 Ystyria sefyllfa arall y mae llawer o frodyr hŷn yn ei hwynebu. Maen nhw wedi gwasanaethu fel cydlynydd corff henuriaid ers degawdau. Ond unwaith iddyn nhw droi’n 80, maen nhw’n fodlon ildio eu haseiniad i rywun arall. Mae arolygwyr cylchdaith sy’n cyrraedd eu 70 hefyd yn ildio eu braint ac yn hapus i gael eu hailaseinio i ffurf arall o wasanaeth. Ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o aelodau teulu Bethel ledled y byd wedi cychwyn aseiniadau newydd yn y maes. Dydy’r brodyr a chwiorydd ffyddlon hynny ddim yn dal dig yn erbyn unrhyw un sydd bellach yn gofalu am eu hen aseiniadau.
13. Pam gallai Paul fod wedi cael ei demtio i genfigennu wrth y 12 apostol?
13 Mae’r apostol Paul yn esiampl dda arall o rywun wnaeth feithrin bodlonrwydd a gostyngeiddrwydd. Ni chaniataodd Paul i genfigen dyfu. Gweithiodd yn galed yn y weinidogaeth, ond dywedodd yn ostyngedig: “Fi ydy’r un lleia pwysig o’r holl rai ddewisodd y Meseia i’w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu’r enw ‘apostol.’” (1 Cor. 15:9, 10) Gwnaeth y 12 apostol ddilyn Iesu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, ond ni ddaeth Paul yn Gristion nes i Iesu farw a chael ei atgyfodi. Er y cafodd Paul ei benodi yn y pen draw yn “apostol y Cenhedloedd,” nid oedd yn gymwys i dderbyn y fraint o fod yn un o’r 12 apostol. (Rhuf. 11:13, BCND; Act. 1:21-26) Yn hytrach na chenfigennu wrth y 12 dyn hynny am eu cyfeillgarwch agos â Iesu, arhosodd Paul yn fodlon â’r hyn roedd ganddo.
14. Beth byddwn ni’n ei wneud os ydyn ni’n fodlon ac yn ostyngedig?
14 Os ydyn ni’n fodlon ac yn ostyngedig, byddwn ninnau fel Paul yn dangos parch at yr awdurdod y mae Jehofa wedi ei roi i eraill. (Act. 21:20-26) Mae Ef wedi trefnu i ddynion apwyntiedig arwain yn y gynulleidfa Gristnogol. Er gwaethaf eu ffaeleddau, mae Jehofa yn eu hystyried fel “rhoddion i bobl.” (Eff. 4:8, 11) Pan fyddwn ni’n parchu’r dynion apwyntiedig hyn ac yn dilyn eu harweiniad, byddwn ni’n aros yn agos at Jehofa ac yn mwynhau heddwch rhyngddyn ni â’n cyd-Gristnogion.
GWNA “BETH SY’N ARWAIN AT HEDDWCH”
15. Beth sy’n rhaid i ni ei wneud?
15 Caiff heddwch ei dagu os yw cenfigen yn ffynnu. Mae’n rhaid inni chwynnu cenfigen o’n calonnau ni ac osgoi ei phlannu yng nghalon unrhyw un arall. Mae’n rhaid inni ddilyn y camau pwysig hyn os ydyn ni am ufuddhau i orchymyn Jehofa i “wneud beth sy’n arwain at heddwch ac sy’n cryfhau pobl eraill.” (Rhuf. 14:19) Beth yn benodol gallwn ni ei wneud i helpu eraill i gwffio cenfigen, a sut gallwn ni hybu heddwch?
16. Sut gallwn ni helpu eraill i gwffio cenfigen?
16 Gall ein hagwedd a’n gweithredoedd gael effaith fawr ar eraill. Mae’r byd eisiau inni ‘frolio am beth sydd gynnon ni.’ (1 Ioan 2:16) Ond mae’r agwedd honno yn hybu cenfigen. Gallwn ni osgoi gwneud eraill yn genfigennus drwy beidio â siarad yn ddi-baid am ein heiddo neu’r hyn rydyn ni am ei brynu. Ffordd arall y gallwn ni osgoi hybu cenfigen yw drwy fod yn wylaidd am ein breintiau yn y gynulleidfa. Os ydyn ni’n tynnu sylw at y breintiau sydd gennyn ni, rydyn ni’n creu amgylchiadau perffaith i genfigen dyfu. Ar y llaw arall, pan fyddwn ni’n dangos diddordeb personol diffuant yn eraill ac yn cydnabod eu gweithredoedd da, byddwn ni’n eu helpu i fod yn fodlon, ac yn hybu heddwch ac undod yn y gynulleidfa.
17. Beth roedd brodyr Joseff wedi llwyddo i’w wneud, a pham?
17 Gallwn ni ennill y frwydr yn erbyn cenfigen! Ystyria unwaith eto esiampl brodyr Joseff. Flynyddoedd ar ôl iddyn nhw drin Joseff yn gas, dyma nhw’n ei gyfarfod yn yr Aifft. Cyn iddo ddatgelu iddyn nhw mai ef oedd eu brawd, rhoddodd Joseff nhw ar brawf i weld a oedden nhw wedi newid. Trefnodd bryd o fwyd, gan roi llawer mwy i’w frawd ieuengaf, Benjamin, nag i’r lleill. (Gen. 43:33, 34) Ond eto, does dim awgrym fod brodyr Benjamin yn genfigennus ohono. Yn hytrach, dangoson nhw gonsýrn diffuant tuag ato a thuag at eu tad, Jacob. (Gen. 44:30-34) Oherwydd bod brodyr Joseff wedi dadwreiddio cenfigen, roedden nhw’n gallu helpu i adfer heddwch yn eu teulu. (Gen. 45:4, 15) Mewn ffordd debyg, os byddwn ninnau’n dadwreiddio cenfigen, byddwn ni’n cyfrannu at yr heddwch yn ein teulu a’n cynulleidfa.
18. Yn ôl Iago 3:17, 18, beth fydd yn digwydd os ydyn ni’n helpu i greu amgylchiadau heddychlon?
18 Mae Jehofa eisiau inni gwffio cenfigen a cheisio heddwch. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i wneud y ddau beth yma. Fel mae’r erthygl hon wedi trafod, mae gennyn ni dueddiad i fod yn genfigennus. (Iago 4:5, BC) Ac mae’r byd o’n cwmpas yn hybu cenfigen. Ond os ydyn ni’n meithrin gostyngeiddrwydd, bodlonrwydd, a diolchgarwch, fydd dim lle i genfigen dyfu. Yn hytrach, byddwn ni’n helpu i greu amgylchiadau heddychlon lle gall ffrwyth cyfiawn dyfu.—Darllen Iago 3:17, 18.
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
a Mae cyfundrefn Jehofa yn heddychlon. Ond, gall yr heddwch hwn gael ei chwalu os ydyn ni’n caniatáu i genfigen dyfu. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu beth sy’n achosi cenfigen. Byddwn ni hefyd yn trafod sut i gwffio’r tueddiad niweidiol hwn a hybu heddwch.
b ESBONIAD: Fel mae’r Beibl yn ei ddisgrifio, nid yn unig y mae cenfigen yn achosi i rywun ddyheu am rywbeth sydd gan rywun arall ond hefyd bydd yn ceisio ei amddifadu ohono.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod cyfarfod henuriaid, mae’r corff yn gofyn i frawd hŷn hyfforddi henuriad iau i ofalu am ei fraint o arwain yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Er bod y brawd hŷn wrth ei fodd â’i aseiniad, mae’n cefnogi penderfyniad yr henuriaid yn llwyr drwy roi awgrymiadau ymarferol, a chanmoliaeth ddiffuant i’r brawd iau.