ERTHYGL ASTUDIO 10
Bydd Caru Jehofa a’i Werthfawrogi yn Dy Arwain at Fedydd
“Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”—ACT. 8:36.
CÂN 37 Gwasanaethu Jehofa â’th Holl Enaid
CIPOLWGa
1-2. Fel mae Actau 8:27-31, 35-38 yn ei ddweud, beth a ysgogodd yr eunuch o Ethiopia i gael ei fedyddio?
A WYT ti eisiau cael dy fedyddio yn ddisgybl i Grist? Mae cariad a gwerthfawrogiad wedi cymell llawer i wneud hynny. Ystyria esiampl swyddog a oedd yn gwasanaethu brenhines Ethiopia.
2 Gweithredodd y dyn o Ethiopia yn syth ar yr hyn a ddysgodd o’r Ysgrythurau. (Darllen Actau 8:27-31, 35-38.) Beth wnaeth ei gymell? Roedd yn amlwg yn gwerthfawrogi Gair Duw; roedd yn darllen rhan o lyfr Eseia wrth iddo deithio mewn cerbyd. A phan siaradodd Philip ag ef, daeth i werthfawrogi beth roedd Iesu wedi ei wneud drosto. Ond pam roedd y swyddog wedi teithio i Jerwsalem? Achos roedd wedi datblygu cariad tuag at Jehofa yn barod. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Roedd newydd fod yn addoli Jehofa yn Jerwsalem. Mae’n ymddangos bod y dyn wedi newid ei grefydd ac ymuno â’r unig genedl oedd wedi ei chysegru i’r gwir Dduw. Oherwydd ei gariad tuag at Jehofa, dewisodd gymryd cam angenrheidiol arall. Cafodd ei fedyddio a dod yn un o ddisgyblion Crist.—Math. 28:19.
3. Beth allai rwystro rhywun rhag cael ei fedyddio? (Gweler y blwch “Beth Sydd yn Dy Galon Di?”)
3 Gall cariad at Jehofa dy gymell dithau i gael dy fedyddio. Ond, gall cariad hefyd dy rwystro rhag gwneud hynny. Sut? Ystyria rai esiamplau. Efallai fod gen ti gariad mawr tuag at dy deulu a dy ffrindiau sydd ddim yn credu, ac yn poeni y byddan nhw’n dy gasáu di os cei di dy fedyddio. (Math. 10:37) Neu, efallai dy fod yn caru arferion rwyt ti’n gwybod mae Jehofa’n eu casáu, a hwyrach dy fod yn ei chael hi’n anodd dianc o’u crafangau. (Salm 97:10) Neu, efallai dy fod wedi cael dy fagu yn dathlu gwyliau gau grefyddol. Efallai fod gen ti atgofion melys o’r dathliadau hynny. O ganlyniad, gallet ti ei chael hi’n anodd stopio dathlu gwyliau sy’n digio Jehofa. (1 Cor. 10:20, 21) Felly, mae’n rhaid iti benderfynu: “Pwy, neu beth, ydw i’n ei garu fwyaf?”
Y CARIAD PWYSICAF
4. Beth yw’r prif beth fydd yn dy gymell di i gael dy fedyddio?
4 Efallai fod gen ti lawer o bethau da i’w caru a’u gwerthfawrogi. Er enghraifft, efallai dy fod wedi dod i werthfawrogi’r Beibl yn fawr hyd yn oed cyn iti ddechrau astudio gyda Thystion Jehofa. Ac efallai dy fod wedi dod i garu Iesu. Nawr dy fod yn adnabod Tystion Jehofa, efallai dy fod wrth dy fodd yn cymdeithasu â nhw. Ond fydd caru’r pethau da hyn ddim o reidrwydd yn gwneud iti fod eisiau cysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Y prif beth fydd yn dy gymell i gael dy fedyddio yw caru Jehofa Dduw ei hun. Pan fyddi di’n caru Jehofa yn fwy na phopeth arall, wnei di ddim gadael i unrhyw beth nac unrhyw un dy rwystro di rhag ei wasanaethu. Bydd cariad at Jehofa yn dy gymell i gael dy fedyddio, a bydd hefyd yn dy helpu i aros yn ffyddlon iddo ar ôl dy fedydd.
5. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?
5 Dywedodd Iesu fod rhaid inni garu Jehofa â’n holl galon, enaid, meddwl, a nerth. (Marc 12:30) Sut gelli di ddysgu i garu a pharchu Jehofa gymaint â hynny? Mae myfyrio ar gariad Jehofa tuag aton ni yn ein hysgogi i’w garu ef. (1 Ioan 4:19) Pa deimladau a gweithredoedd eraill fydd yn dod unwaith iti ddatblygu’r cariad hollbwysig hwnnw?b
6. Yn ôl Rhufeiniaid 1:20, beth yw un ffordd y gelli di ddysgu am Jehofa?
6 Dysga am Jehofa drwy ei greadigaeth. (Darllen Rhufeiniaid 1:20; Dat. 4:11) Meddylia am blanhigion ac anifeiliaid, a sut maen nhw’n dangos doethineb Jehofa. Dysga ychydig am y ffordd ryfeddol mae dy gorff wedi ei lunio. (Salm 139:14) A meddylia am y pŵer mae Jehofa wedi ei roi i’r haul, gan gofio bod biliynau o sêr eraill.c (Esei. 40:26) Wrth iti wneud hyn, bydd dy barch at Jehofa yn dyfnhau. Ond, dim ond rhan o sail dy berthynas â Jehofa yw gwybod ei fod yn ddoeth ac yn bwerus. Er mwyn meithrin cariad cryf tuag at Jehofa, mae’n rhaid iti wybod mwy amdano.
7. Er mwyn cael cariad dwfn tuag at Jehofa, beth sy’n rhaid iti fod yn sicr ohono?
7 Mae’n rhaid iti fod yn sicr o’r ffaith fod Jehofa yn gofalu amdanat ti. A wyt ti’n ei chael hi’n anodd credu bod Creawdwr y nefoedd a’r ddaear yn sylwi arnat ti ac yn gofalu amdanat ti? Os felly, cofia hyn am Jehofa: “Dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni.” (Act. 17:26-28) Mae ef yn chwilio pob calon, ac mae’n addo iti, fel y dywedodd Dafydd wrth Solomon: “Os byddi di’n ceisio’r ARGLWYDD go iawn, bydd e’n gadael i ti ddod o hyd iddo.” (1 Cron. 28:9) Y gwir ydy, rwyt ti’n astudio’r Beibl nawr oherwydd, fel dywedodd Jehofa, “Dw i wedi dy ddenu di ata’ i.” (Jer. 31:3, NWT) Y mwyaf rwyt ti’n gwerthfawrogi popeth mae Jehofa wedi ei wneud drosot ti, y cryfaf fydd dy gariad tuag ato.
8. Sut gelli di ddangos dy fod yn gwerthfawrogi cariad Jehofa?
8 Un ffordd gelli di ddangos dy fod yn gwerthfawrogi cariad Jehofa ydy drwy siarad ag ef mewn gweddi. Bydd dy gariad tuag at Dduw yn tyfu wrth iti ddweud wrtho am dy bryderon a diolch iddo am bopeth mae’n ei wneud drosot ti. A bydd dy berthynas ag ef yn cael ei chryfhau wrth iti weld y ffordd mae’n ateb dy weddïau. (Salm 116:1) Byddi di’n gwybod heb os ei fod yn dy ddeall di. Ond er mwyn closio at Jehofa, mae’n rhaid iti ddeall ei ffordd o feddwl. Ac mae’n rhaid iti wybod beth mae’n ei ofyn gen ti. Yr unig ffordd y byddi di’n cael y wybodaeth honno yw drwy astudio ei Air, y Beibl.
Y ffordd orau o fod yn agos at Dduw a gwybod beth mae’n ei ofyn gennyn ni yw drwy astudio’r Beibl (Gweler paragraff 9)d
9. Sut gelli di ddangos dy fod yn gwerthfawrogi’r Beibl?
9 Dysga werthfawrogi Gair Duw, y Beibl. Dim ond y Beibl sy’n cynnwys y gwir am Jehofa, a’i bwrpas ar dy gyfer di. Rwyt ti’n dangos dy fod yn gwerthfawrogi’r Beibl drwy ei ddarllen bob dydd, drwy baratoi ar gyfer dy wersi Beiblaidd, a thrwy roi ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu. (Salm 119:97, 99; Ioan 17:17) A oes gen ti raglen darllen y Beibl? Wyt ti’n dilyn y rhaglen honno, gan wneud yn siŵr dy fod yn darllen y Beibl bob dydd?
10. Beth yw un o’r pethau unigryw am y Beibl?
10 Un o’r pethau unigryw am y Beibl yw ei fod yn cynnwys hanesion gan bobl a welodd Iesu ei hun. Y Beibl yw’r unig gofnod dibynadwy sy’n esbonio beth mae Iesu wedi ei wneud drosot ti. Wrth iti ddysgu am eiriau a gweithredoedd Iesu, mae’n debyg y byddi di eisiau bod yn ffrind iddo.
11. Sut gelli di ddysgu caru Jehofa?
11 Dysga garu Iesu, a bydd dy gariad tuag at Jehofa yn tyfu. Pam? Oherwydd bod Iesu yn adlewyrchu rhinweddau ei Dad yn berffaith. (Ioan 14:9) Felly y mwyaf rwyt ti’n ei ddysgu gan Iesu, y mwyaf byddi di’n deall ac yn gwerthfawrogi Jehofa. Meddylia am y tosturi a ddangosodd Iesu tuag at y rhai oedd yn cael eu bychanu gan eraill—y tlawd, y sâl, a’r gwan. Meddylia hefyd am y cyngor ymarferol y mae’n ei roi iti, a sut mae dy fywyd yn gwella pan wyt ti’n gwrando arno.—Math. 5:1-11; 7:24-27.
12. Wrth iti ddysgu am Iesu, beth efallai cei di dy ysgogi i’w wneud?
12 Bydd dy gariad at Iesu yn siŵr o gryfhau wrth iti fyfyrio ar yr aberth a wnaeth er mwyn i ni gael maddeuant am ein pechodau. (Math. 20:28) Pan fyddi di’n deall bod Iesu wedi bod yn fodlon marw drosot ti, efallai cei di dy ysgogi i edifarhau a cheisio maddeuant Jehofa. (Act. 3:19, 20; 1 Ioan 1:9) Ac y mwyaf rwyt ti’n caru Iesu a Jehofa, y mwyaf byddi di eisiau treulio amser gydag eraill sy’n eu caru.
13. Beth mae Jehofa wedi ei roi iti?
13 Dysga garu teulu Jehofa. Efallai bydd dy deulu a hen ffrindiau sydd ddim yn credu yn methu deall pam rwyt ti eisiau cysegru dy hun i Jehofa. Gallen nhw hyd yn oed dy wrthwynebu di. Ond bydd Jehofa yn dy helpu drwy roi teulu ysbrydol iti. Os arhosi di’n agos at y teulu ysbrydol hwnnw, cei di hyd i’r cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnat ti. (Marc 10:29, 30; Heb. 10:24, 25) Ymhen amser, efallai bydd dy deulu yn ymuno â ti yng ngwasanaeth Jehofa gan fyw’n unol â’i safonau.—1 Pedr 2:12.
14. Fel mae 1 Ioan 5:3 yn ei ddweud, beth rwyt ti wedi ei ddarganfod am safonau Jehofa?
14 Dysga werthfawrogi safonau Jehofa a’u rhoi ar waith. Cyn dod i adnabod Jehofa, efallai yr oeddet ti’n gosod dy safonau dy hun, ond bellach rwyt ti’n gweld bod safonau Jehofa yn well. (Salm 1:1-3; darllen 1 Ioan 5:3.) Meddylia am gyngor y Beibl i wŷr, gwragedd, rhieni, a phlant. (Eff. 5:22–6:4) A oes gen ti fywyd teuluol gwell ar ôl rhoi’r cyngor hwnnw ar waith? A wyt ti’n berson gwell o ddilyn cyngor Jehofa am ddewis ffrindiau’n ddoeth? Wyt ti’n hapusach? (Diar. 13:20; 1 Cor. 15:33) Mae’n debyg dy fod wedi ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau hynny.
15. Beth gelli di ei wneud os wyt ti angen cymorth i roi egwyddorion y Beibl ar waith?
15 Ar adegau, efallai byddi di’n cael trafferth gwybod sut i roi ar waith yr egwyddorion rwyt ti’n eu dysgu o’r Beibl. Dyna pam mae Jehofa’n defnyddio ei gyfundrefn i roi cyhoeddiadau iti sy’n esbonio’r Beibl ac yn dy helpu i wahaniaethu rhwng drwg a da. (Heb. 5:13, 14) Pan fyddi di’n darllen ac yn astudio’r cyhoeddiadau hyn, byddi di’n gweld pa mor ymarferol a phenodol ydyn nhw, ac mae’n debyg y cei di dy ddenu at gyfundrefn Jehofa.
16. Sut mae Jehofa wedi trefnu ei bobl?
16 Dysga garu cyfundrefn Jehofa a’i chefnogi. Mae Jehofa wedi trefnu ei bobl i gynulleidfaoedd, ac mae ei Fab, Iesu, yn ben ar bob un. (Eff. 1:22; 5:23, BCND) Mae Iesu wedi penodi grŵp bach o ddynion apwyntiedig i arwain a threfnu’r gwaith mae ef wedi ei osod. Cyfeiriodd Iesu at y grŵp yma fel y “gwas ffyddlon a chall,” ac maen nhw’n cymryd eu cyfrifoldeb o dy fwydo di a dy amddiffyn yn ysbrydol o ddifri. (Math. 24:45-47, BCND) Un o’r ffyrdd mae’r gwas ffyddlon a chall yn helpu i ofalu amdanat ti yw drwy sicrhau bod henuriaid cymwys yn cael eu penodi i dy fugeilio di. (Esei. 32:1, 2; Heb. 13:17; 1 Pedr 5:2, 3) Mae’r henuriaid yn fodlon gwneud popeth a allan nhw i dy gysuro di, ac i dy helpu i ddod yn agosach fyth at Jehofa. Ond un o’r pethau pwysicaf gallan nhw ei wneud ar dy gyfer di ydy dy helpu i ddysgu eraill am Jehofa.—Eff. 4:11-13.
17. Yn ôl Rhufeiniaid 10:10, 13, 14, pam rydyn ni’n siarad ag eraill am Jehofa?
17 Helpa eraill i ddysgu caru Jehofa. Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion ddysgu eraill am Jehofa. (Math. 28:19, 20) Mae’n bosib ufuddhau i’r gorchymyn hwnnw allan o ddyletswydd. Ond wrth i dy gariad tuag at Jehofa dyfu, byddi di’n teimlo fel yr apostolion Pedr ac Ioan, a ddywedodd: “Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Act. 4:20) Does dim llawer o bethau sy’n ein gwneud ni’n hapusach na helpu rhywun i ddod i garu Jehofa. Dychmyga lawenydd Philip yr efengylwr pan helpodd y dyn o Ethiopia i ddysgu gwirionedd yr Ysgrythurau a chael ei fedyddio! Wrth efelychu Philip ac ufuddhau i orchymyn Iesu i bregethu, rwyt ti’n profi dy fod eisiau bod yn un o Dystion Jehofa. (Darllen Rhufeiniaid 10:10, 13, 14.) Erbyn hynny, mae’n debygol y byddi di’n gofyn yr un cwestiwn â’r dyn o Ethiopia: “Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”—Act. 8:36.
18. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?
18 Byddi di’n gwneud penderfyniad pwysicaf dy fywyd pan fyddi di’n penderfynu cael dy fedyddio. Oherwydd ei fod yn gam mor bwysig, mae’n rhaid iti feddwl o ddifri am beth mae’n ei olygu. Beth sy’n rhaid iti ei wybod am fedydd? Beth sy’n rhaid iti ei wneud cyn ac ar ôl dy fedydd? Caiff y cwestiynau hynny eu hateb yn yr erthygl nesaf.
CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw
a Dydy rhai pobl sy’n caru Jehofa ddim yn siŵr a ydyn nhw’n barod i gael eu bedyddio yn un o’i Dystion. Os wyt ti’n teimlo felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu i adolygu rhai o’r pethau ymarferol gelli di eu gwneud a fydd yn dy arwain at fedydd.
b Mae pawb yn wahanol, felly efallai bydd rhai yn gweithredu ar yr awgrymiadau yn yr erthygl hon mewn trefn wahanol i’r un a amlinellir yma.
c Am fwy o enghreifftiau, gweler y llyfrynnau A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking.
d DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer yn rhoi taflen i ddynes ifanc mae hi’n ei chyfarfod wrth siopa.