LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w20 Mai tt. 8-11
  • Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • “Brenin y Gogledd” yn Amser y Diwedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Pwy Yw “Brenin y Gogledd” Heddiw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Elynion Duw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Dysga Gan Broffwydoliaethau’r Beibl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
w20 Mai tt. 8-11

Brenhinoedd yn Brwydro yn Amser y Diwedd

Mae’r proffwydoliaethau yn y siart hwn yn gorgyffwrdd. Maen nhw’n profi mewn sawl ffordd ein bod ni’n byw yn amser y diwedd.—Dan. 12:4.

Siart yn dangos proffwydoliaethau a phwy sydd wedi bod yn frenin y de a brenin y gogledd o 1870 hyd heddiw.
  • Siart 1 o 4, sy’n dangos y cyfnod o tua 1870 hyd 1918, ac yn dangos proffwydoliaethau sy’n gorgyffwrdd yn amser y diwedd. Mae’n dangos mai’r blynyddoedd o 1914 ymlaen yw amser y diwedd. Proffwydoliaeth 1: Anghenfil seithben a ymddangosodd cyn y dyddiad cyntaf ar y siart. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae seithfed pen yr anghenfil yn cael ei glwyfo. O 1917 ymlaen, mae’r seithfed pen yn gwella, ac mae’r anghenfil yn gryf eto. Proffwydoliaeth 2: Mae hi’n bosib adnabod brenin y gogledd ym 1871, ac mae’n bosib adnabod brenin y de ym 1870. Mae brenin y gogledd yn ailymddangos ym 1871, a’r Almaen yw’r brenin hwnnw. Yn y dechrau, Prydain Fawr ydy brenin y de, ond ym 1917, mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd yn cymryd ei lle. Proffwydoliaeth 3: O 1870 ymlaen, Charles T. Russell ac eraill gydag ef yw’r ‘negesydd.’ Yn y 1880au cynnar, mae ‘Zion’s Watch Tower’ yn annog ei ddarllenwyr i bregethu’r newyddion da. Proffwydoliaeth 4: O 1914 ymlaen, y cynhaeaf. Mae’r chwyn yn cael eu gwahanu oddi wrth y gwenith. Proffwydoliaeth 5: O 1917 ymlaen, mae’r traed o haearn a chlai yn ymddangos. Hefyd wedi eu darlunio: Digwyddiadau mawr y byd o 1914 hyd 1918, y Rhyfel Byd Cyntaf. Digwyddiadau yn effeithio ar bobl Dduw: O 1914 hyd 1918, mae Myfyrwyr y Beibl ym Mhrydain a’r Almaen yn cael eu carcharu. Ym 1918, mae brodyr blaenllaw y pencadlys yn yr Unol Daleithiau yn cael eu carcharu.
    Proffwydoliaeth 1.

    Adnodau Dat. 11:7; 12:13, 17; 13:1-8, 12

    Proffwydoliaeth Mae “yr anghenfil” yn crwydro’r ddaear am ganrifoedd lawer. Yn amser y diwedd, mae ei seithfed pen yn cael anaf. Yn hwyrach, mae’r pen hwnnw yn gwella ac mae “pobl y byd i gyd” yn dilyn yr anghenfil. Mae Satan yn defnyddio’r anghenfil hwnnw “i ryfela yn erbyn” y rhai sy’n weddill.

    Cyflawniad Ar ôl y Dilyw, ymddangosodd llywodraethau dynol a oedd yn gwrthwynebu Jehofa. Wedi canrifoedd maith, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, collodd yr Ymerodraeth Brydeinig lawer o’i grym. Cafodd ei hatgyfnerthu pan ymunodd yr Unol Daleithiau â hi. Yn enwedig yn amser y diwedd, mae Satan wedi bod yn defnyddio ei system wleidyddol gyfan i erlid pobl Dduw.

  • Proffwydoliaeth 2.

    Adnodau Dan. 11:25-45

    Proffwydoliaeth Mae brenin y gogledd a brenin y de yn cystadlu am rym yn amser y diwedd.

    Cyflawniad Yr Almaen yn brwydro yn erbyn Prydain ac America. Ym 1945 mae’r Undeb Sofietaidd a’i gynghreiriaid yn dod yn frenin y gogledd. Ym 1991, mae’r Undeb Sofietaidd yn cwympo, ac ymhen amser, mae Rwsia a’i chynghreiriaid yn dod yn frenin y gogledd.

  • Proffwydoliaeth 3.

    Adnodau Esei. 61:1; Mal. 3:1; Luc 4:18

    Proffwydoliaeth Jehofa yn anfon “ei negesydd” er mwyn “paratoi’r ffordd” cyn sefydlu’r Deyrnas Feseianaidd. Dechreuodd y grŵp yma “gyhoeddi newyddion da” i’r addfwyn.

    Cyflawniad O 1870 ymlaen, C. T. Russell ac eraill gydag ef yn gweithio’n selog i esbonio gwirioneddau’r Beibl. Yn ystod y 1880au, maen nhw’n dechrau pwysleisio’r angen i weision Duw bregethu. Maen nhw’n cyhoeddi erthyglau fel “Yn Eisiau—1,000 o Bregethwyr” ac “Eneiniwyd i Bregethu.”

  • Proffwydoliaeth 4.

    Adnodau Math. 13:24-30, 36-43

    Proffwydoliaeth Gelyn yn hau chwyn dros gae o wenith, ac mae’r chwyn yn cael tyfu a chuddio’r gwenith tan amser y cynhaeaf; yna mae’r chwyn yn cael eu gwahanu oddi wrth y gwenith.

    Cyflawniad O 1870 ymlaen, mae’r gwahaniaeth rhwng gwir Gristnogion a gau Gristnogion yn dechrau dod i’r amlwg. Yn ystod amser y diwedd, mae gwir Gristnogion yn cael eu casglu a’u gwahanu oddi wrth gau Gristnogion.

  • Proffwydoliaeth 5.

    Adnodau Dan. 2:31-33, 41-43

    Proffwydoliaeth Mae’r traed o haearn a chlai yn perthyn i ddelw o wahanol fetelau.

    Cyflawniad Mae’r clai yn cynrychioli’r bobl gyffredin o dan reolaeth y Grym Byd Eingl-Americanaidd sy’n gwrthryfela yn erbyn y grym hwnnw. Mae’r bobl hyn yn gwanhau gallu’r grym byd hwn i weithredu â nerth haearnaidd.

  • Siart 2 o 4, sy’n dangos y cyfnod o tua 1919 hyd 1945, ac yn dangos proffwydoliaethau sy’n gorgyffwrdd yn amser y diwedd. Hyd 1945, yr Almaen yw brenin y gogledd, a’r Grym Byd Eingl-Americanaidd yw brenin y de. Proffwydoliaeth 6: Ym 1919, mae Cristnogion eneiniog yn cael eu casglu i’r gynulleidfa sydd wedi ei hadfer. O 1919 ymlaen, mae’r gwaith pregethu yn parhau ac yn cynyddu. Proffwydoliaeth 7: Ym 1920, mae Cynghrair y Cenhedloedd yn cael ei sefydlu ac yn parhau hyd gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Hefyd wedi eu darlunio: Proffwydoliaeth 1, yr anghenfil seithben, yn parhau. Proffwydoliaeth 5, y traed o haearn a chlai, yn parhau. Digwyddiadau mawr y byd o 1939 hyd 1945, yr Ail Ryfel Byd. Digwyddiadau yn effeithio ar bobl Jehofa: Yn yr Almaen o 1933 hyd 1945, mae dros 11,000 yn cael eu carcharu. Ym Mhrydain o 1939 hyd 1945, mae bron i 1,600 o Dystion yn cael eu carcharu. Yn yr Unol Daleithiau o 1940 hyd 1944, mae dros 2,500 achos o dorf yn ymosod ar Dystion.
    Proffwydoliaeth 6.

    Adnodau Math. 13:30; 24:14, 45, BCND; 28:19, 20

    Proffwydoliaeth Mae’r “gwenith” yn cael ei gasglu i’r “ysgubor” ac mae’r “gwas ffyddlon a chall” yn cael ei benodi “dros weision y tŷ.” Mae’r gwaith o bregethu “y newyddion da am deyrnasiad Duw” yn dechrau lledaenu “drwy’r byd i gyd.”

    Cyflawniad Ym 1919, mae’r gwas ffyddlon yn cael ei benodi dros bobl Dduw. O hynny ymlaen, mae Myfyrwyr y Beibl yn cynyddu eu gwaith pregethu. Heddiw, mae Tystion Jehofa yn pregethu mewn dros 200 o wledydd ac yn cynhyrchu llenyddiaeth Feiblaidd mewn dros 1,000 o ieithoedd.

  • Proffwydoliaeth 7.

    Adnodau Dan. 12:11; Dat. 13:11, 14, 15

    Proffwydoliaeth Mae anghenfil deugorn yn cymryd y blaen wrth “godi delw er anrhydedd i’r anghenfil” seithben, ac yn rhoi “anadl i’r ddelw.”

    Cyflawniad Mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd yn cymryd y blaen wrth sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd. Mae’r gyfundrefn hon yn cael ei chefnogi gan genhedloedd eraill. Yn y pen draw, mae brenin y gogledd yn ymuno â’r Gynghrair hefyd—dim ond rhwng 1926 a 1933. Yn debyg i’r Cenhedloedd Unedig (CU) a ddaeth ar ei hôl, mae’r Gynghrair yn cael clod sy’n perthyn i Deyrnas Dduw.

  • Siart 3 o 4, sy’n dangos y cyfnod o 1945 hyd 1991, ac yn dangos proffwydoliaethau sy’n gorgyffwrdd yn amser y diwedd. Yr Undeb Sofietaidd a’i gynghreiriaid yw brenin y gogledd hyd 1991, ac wedyn Rwsia a’i chynghreiriaid yw’r brenin hwnnw. Y Grym Byd Eingl-Americanaidd yw brenin y de. Proffwydoliaeth 8: Cwmwl madarch o fom atomig, sy’n dangos y dinistr ofnadwy a achoswyd gan y Grym Byd Eingl-Americanaidd. Proffwydoliaeth 9: Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cael ei sefydlu ym 1945, gan ddisodli Cynghrair y Cenhedloedd. Hefyd wedi eu darlunio: Proffwydoliaeth 1, yr anghenfil seithben, yn parhau. Proffwydoliaeth 5, y traed o haearn a chlai, yn parhau. Proffwydoliaeth 6, ym 1945 mae ’na dros 156,000 o gyhoeddwyr. Ym 1991, mae ’na dros 4,278,000 o gyhoeddwyr. Digwyddiadau yn effeithio ar bobl Jehofa: Yn yr Undeb Sofietaidd o 1945 hyd y 1950au, cafodd miloedd o Dystion eu halltudio i Siberia.
    Proffwydoliaeth 8.

    Adnodau Dan. 8:23, 24

    Proffwydoliaeth Mae brenin ffyrnig ei olwg “yn achosi’r dinistr mwyaf ofnadwy.”

    Cyflawniad Mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd wedi achosi dinistr mawr. Er enghraifft, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, achosodd yr Unol Daleithiau ddinistr ofnadwy ar raddfa na welwyd o’r blaen pan ollyngodd ddau fom atomig ar un o elynion Prydain ac America.

  • Proffwydoliaeth 9.

    Adnodau Dan. 11:31; Dat. 17:3, 7-11

    Proffwydoliaeth Mae’r “anghenfil ysgarlad” â deg corn yn codi o’r pydew yn wythfed brenin. Mae llyfr Daniel yn cyfeirio at y brenin hwn fel yr “eilun ffiaidd sy’n dinistrio.”

    Cyflawniad Mae Cynghrair y Cenhedloedd yn stopio bodoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, mae’r CU “yn codi.” Mae’r CU, fel y Gynghrair o’i flaen, yn cael clod sy’n perthyn i Deyrnas Dduw. Bydd yr CU yn ymosod ar grefydd.

  • Siart 4 o 4, sy’n dangos y cyfnod o heddiw hyd Armagedon, ac yn dangos proffwydoliaethau sy’n gorgyffwrdd yn amser y diwedd. Rwsia a’i chynghreiriaid yw brenin y gogledd. Y Grym Byd Eingl-Americanaidd yw brenin y de. Proffwydoliaeth 10: Arweinwyr y byd yn cyhoeddi heddwch a diogelwch. Wedyn, mae’r gorthrymder mawr yn cychwyn. Proffwydoliaeth 11: Mae’r cenhedloedd yn ymosod ar sefydliadau gau grefydd. Proffwydoliaeth 12: Mae llywodraethau’r byd yn ymosod ar bobl Dduw. Mae gweddill yr eneiniog yn cael eu casglu i’r nef. Proffwydoliaeth 13: Armagedon. Mae marchog y ceffyl gwyn yn gorffen ei goncwest. Mae’r anghenfil seithben yn cael ei ddinistrio; mae traed haearn a chlai y ddelw anferth yn cael eu chwalu. Hefyd wedi eu darlunio: Proffwydoliaeth 1, yr anghenfil seithben, yn parhau hyd Armagedon. Proffwydoliaeth 5, y traed o haearn a chlai, yn parhau hyd Armagedon. Proffwydoliaeth 6, heddiw, mae ’na dros 8,680,000 o gyhoeddwyr. Digwyddiadau yn effeithio ar bobl Jehofa: Yn 2017, mae’r awdurdodau yn Rwsia yn carcharu Tystion ac yn cymryd adeiladau’r gangen oddi arnyn nhw.
    Proffwydoliaethau 10 ac 11.

    Adnodau 1 Thes. 5:3; Dat. 17:16

    Proffwydoliaeth Mae’r cenhedloedd yn gwneud datganiad o heddwch a diogelwch, ac mae’r “deg corn” a’r “anghenfil” yn ymosod ar “y butain” ac yn ei dinistrio. Wedyn, mae’r cenhedloedd yn cael eu dinistrio.

    Cyflawniad Bydd y cenhedloedd yn honni eu bod nhw wedi llwyddo i gael heddwch a diogelwch. Yna, bydd y cenhedloedd sy’n cefnogi’r CU yn dinistrio sefydliadau gau grefydd. Dyma fydd cychwyn y gorthrymder mawr. Bydd y gorthrymder hwnnw yn dod i ben pan fydd byd Satan yn cael ei ddinistrio yn ystod Armagedon.

  • Proffwydoliaeth 12.

    Adnodau Esec. 38:11, 14-17; Math. 24:31

    Proffwydoliaeth Mae Gog yn ymosod ar wlad pobl Dduw. Wedyn, mae angylion yn casglu’r “rhai mae [Duw] wedi eu dewis.”

    Cyflawniad Bydd brenin y gogledd, ynghyd â gweddill llywodraethau’r byd, yn ymosod ar bobl Dduw. Rywdro ar ôl cychwyn yr ymosodiad hwn, bydd gweddill yr eneiniog yn cael eu casglu i’r nef.

  • Proffwydoliaeth 13.

    Adnodau Esec. 38:18-23; Dan. 2:34, 35, 44, 45; Dat. 6:2; 16:14, 16; 17:14; 19:20

    Proffwydoliaeth Mae “marchog” y “ceffyl gwyn” yn “ennill y frwydr” drwy ddinistrio Gog a’i fyddin. Mae “yr anghenfil” yn cael ei ‘daflu yn fyw i’r llyn tân,’ ac mae’r ddelw anferth yn cael ei chwalu.

    Cyflawniad Bydd Iesu, Brenin Teyrnas Dduw, yn achub pobl Dduw. Ynghyd â’i 144,000 o gyd-reolwyr a’i luoedd o angylion, fe fydd yn dinistrio’r gynghrair o genhedloedd, sef holl system wleidyddol Satan.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu