LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 1 tt. 14-15
  • Sut Gall Gweddïo Eich Helpu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Gall Gweddïo Eich Helpu?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ydy Duw yn Gwrando ar Ein Gweddïau?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 1 tt. 14-15

Sut Gall Gweddïo Eich Helpu?

Pan gafodd Pamela salwch difrifol, aeth at feddygon proffesiynol am help. Ond fe weddïodd hefyd ar Dduw am y nerth i ymdopi â’r sefyllfa. A wnaeth gweddïo ei helpu?

“Yn ystod y driniaeth am y canser, roeddwn i’n bryderus iawn yn aml,” meddai Pamela. “Ond ar ôl gweddïo ar Jehofa Dduw, roedd rhyw dawelwch yn dod drosto i, ac roeddwn i’n gallu meddwl yn glir. Dw i’n dal i ddioddef o boen barhaol, ond mae gweddi yn fy helpu i aros yn bositif. Pan fydd pobl yn gofyn i mi sut dw i’n teimlo, bydda’ i’n dweud ‘Dw i ddim yn dda iawn ond dw i mewn hwyliau da!’”

Wrth gwrs, nid oes rhaid disgwyl nes bod ein bywyd yn y fantol cyn gweddïo. Rydyn ni i gyd yn wynebu problemau, yn fach neu’n fawr, ac yn teimlo bod angen help arnon ni. Ydy gweddi yn helpu?

Mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.” (Salm 55:22) Mae hynny yn gysur mawr inni! Felly, sut gall gweddi eich helpu? Pan weddïwch yn y ffordd iawn, bydd Duw yn rhoi ichi bopeth sydd ei angen i ymdopi â’ch problemau.—Gweler y blwch “Beth Gall Gweddïo ei Roi i Chi?”

Beth Gall Gweddïo ei Roi i Chi?

Tawelwch meddwl

Y dyn busnes a gollodd ei swydd yn gwenu ac yn cerdded yn hyderus.

“Rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio; a bydd heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau drwy gyfrwng Crist Iesu.” (Philipiaid 4:6, 7) Os ydych chi’n tywallt eich calon o flaen Duw, fe fydd yn eich helpu i beidio â chynhyrfu ac i fod yn ddoeth dan bwysau.

Doethineb oddi wrth Dduw

Y ddynes a fu’n adrodd gweddïau o lyfr, yn darllen ei Beibl gartref.

“Os oes gan unrhyw un ohonoch chi ddiffyg doethineb, fe ddylai ddal ati i ofyn i Dduw a bydd yn cael ei roi iddo, oherwydd mae ef yn rhoi’n hael i bob un heb weld bai arno.” (Iago 1:5) Nid ydyn ni bob tro yn gwneud y penderfyniadau gorau o dan bwysau. Os ydych chi’n gweddïo am ddoethineb, gall Duw ddod ag egwyddorion o’i Air, y Beibl, yn ôl i’ch meddwl.

Nerth a chysur

Y cwpl a fu yn yr ysbyty yn cerdded gyda’i gilydd yn y parc. Mae’r gŵr yn helpu ei wraig sy’n pwyso ar ei ffon.

“Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.” (Philipiaid 4:13) Mae Jehofa, y Duw Hollalluog, yn gallu rhoi ichi’r nerth i ymdopi â’ch problemau neu i’ch cynnal trwy eich treialon. (Eseia 40:29) Mae’r Beibl yn dweud mai “Duw bob cysur” ydy Jehofa. Y mae’n gallu ein cysuro ni “yn ein holl dreialon.”—2 Corinthiaid 1:3, 4.

HOFFECH CHI GAEL HELP DRWY WEDDI?

Wrth gwrs, nid ydy Jehofa yn eich gorfodi i weddïo arno. Mae’n eich gwahodd chi’n gariadus i weddïo. (Jeremeia 29:11, 12) Ond beth os ydych chi’n teimlo nad ydy Duw wedi ateb eich gweddïau yn y gorffennol? Peidiwch â digalonni neu roi’r gorau iddi. Weithiau, ni fydd rhieni cariadus yn helpu eu plant yn y ffordd neu ar yr adeg y mae’r plant yn ei ddisgwyl. Efallai bod ateb gwell gan y rhieni. Ond mae un peth yn sicr: Mae rhieni cariadus yn helpu eu plant.

Mae Jehofa Dduw—y rhiant mwyaf cariadus erioed—eisiau eich helpu chi hefyd. Os ydych chi’n ystyried y canllawiau rydyn ni wedi eu trafod, a gwneud eich gorau i’w rhoi nhw ar waith, bydd Duw yn ateb eich gweddïau yn y ffordd orau bosib!—Salm 34:15; Mathew 7:7-11.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu