Ydy Duw Yn Gwrando Ar Eich Gweddïau?
Pan fyddwch yn gweddïo, ydych chi’n teimlo bod Duw yn gwrando?
BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Mae Duw yn gwrando. Mae’r Beibl yn addo bod Jehofa “yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno. . . . Mae’n eu clywed nhw’n galw.”—Salm 145:18, 19.
Mae Duw yn dymuno i chi weddïo arno. Mae’r Beibl yn dweud: “Drwy weddïau ac erfyniadau ynghyd â diolchgarwch, rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio.”—Philipiaid 4:6.
Mae Duw yn eich caru chi. Mae Duw yn gwybod yn iawn am eich pryderon ac mae’n awyddus i’ch helpu. “[Bwriwch] eich holl bryder arno ef,” meddai’r Beibl, “oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.