LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w21 Chwefror t. 25
  • Y Cwbl o Achos Gwên!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Cwbl o Achos Gwên!
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Buddion Byd-Eang Tystiolaethu â Throlïau
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Cariad yw Arwydd y Gwir Gristion—Amddiffynna Undod Gwerthfawr
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Parch ac Urddas o Dan Ofal Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2012
  • Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
w21 Chwefror t. 25

Y Cwbl o Achos Gwên!

Helen yn gwenu wrth iddi sefyll wrth ymyl troli llenyddiaeth. Mae dwy ddynes yn cerdded heibio.

ROEDD dwy ferch ifanc yn cerdded gyda’i gilydd mewn ardal fusnes yn Ninas Baguio, Ynysoedd y Philipinau. Sylwon nhw ar droli tystiolaethu cyhoeddus, ond aethon nhw ddim ato. Rhoddodd Helen, y chwaer oedd yn sefyll wrth y troli, wên fawr iddyn nhw. Aeth y merched ifanc yn eu blaenau, ond roedd gwên gynnes Helen wedi creu argraff arnyn nhw.

Yn hwyrach ymlaen, pan oedd y merched yn teithio adref ar y bws, wnaethon nhw sylwi ar arwydd jw.org mawr ar wal Neuadd y Deyrnas. Gwnaethon nhw gofio mai dyna oedd yr un llythrennau a welson nhw ar y troli llenyddiaeth yn gynharach. Aethon nhw oddi ar y bws ac edrych ar yr amserlen cyfarfodydd ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd a oedd ar giât y Neuadd.

Y dwy ddynes yn gwenu o weld Helen yn Neuadd y Deyrnas.

Aeth y ddwy i un o’r cyfarfodydd nesaf. A phwy welson nhw wrth gerdded i mewn i’r Neuadd? Helen! Fe wnaethon nhw ei hadnabod hi ar unwaith fel y person gyda’r wên fawr. “Wrth iddyn nhw gerdded tuag ata i,” meddai Helen, “o’n i braidd yn bryderus. O’n i’n meddwl efallai ’mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le.” Ond esboniodd y merched wrth Helen beth oedd wedi digwydd.

Roedd y merched ifanc wedi mwynhau’r cyfarfod a’r cymdeithasu; roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus gyda’r brodyr a chwiorydd. Wrth iddyn nhw weld eraill yn glanhau’r neuadd ar ôl y cyfarfod, gofynnon nhw a allen nhw helpu. Mae un o’r merched bellach wedi gadael y wlad, ond dechreuodd y llall fynychu’r cyfarfodydd ac astudio’r Beibl—y cwbl o achos gwên!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu