LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w21 Rhagfyr t. 15
  • Wyt Ti’n Cofio?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Cofio?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Dibynna ar Jehofa—Pryd?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Mae Cariad Jehofa yn Ein Gwarchod Ni Rhag Celwyddau Satan
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Tair Ffordd i Helpu Ni i Fod yn Ddoeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Paid Byth â Chefnu ar Dy Gyd-Credinwyr
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
w21 Rhagfyr t. 15

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Pa sicrwydd mae Iago 5:11 yn ei roi drwy ddweud bod “tosturi a thrugaredd” Jehofa “mor fawr”?

Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa, yn ei drugaredd, yn awyddus i faddau ein camgymeriadau. Mae Iago 5:11 yn ein sicrhau ei fod hefyd yn cynnig ein helpu yn ei dosturi. Dylen ni ei efelychu.—w21.01, t. 21.

Pam sefydlodd Jehofa benteuluaeth?

Fe wnaeth hynny allan o gariad. Mae penteuluaeth yn ei gwneud hi’n bosib i deulu Jehofa fod yn heddychlon a threfnus. Mae pob aelod o’r teulu sy’n gweithio’n unol â’r trefniant hwn yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau terfynol, a phwy ddylai gymryd y blaen wrth eu rhoi nhw ar waith.—w21.02, t. 3.

Pam dylai Cristnogion fod yn ofalus wrth ddefnyddio rhaglenni negeseuon electronig?

Os ydy rhywun yn dewis defnyddio apiau o’r fath, mae’n rhaid iddo fod yn ofalus pwy mae’n dewis cymdeithasu â nhw. Mae hynny’n anoddach gwneud pan fydd y grŵp negeseuon yn un mawr. (1 Tim. 5:13, BCND) Mae ’na hefyd beryg i straeon sydd heb eu cadarnhau gael eu lledaenu neu i’r frawdoliaeth gael ei defnyddio at ddibenion busnes.—w21.03, t. 31.

Pam gwnaeth Duw adael i Iesu ddioddef a marw?

Yn gyntaf, roedd rhaid i Iesu gael ei grogi ar bren er mwyn rhyddhau’r Iddewon oddi wrth felltith. (Gal. 3:10, 13) Yn ail, roedd Jehofa yn hyfforddi Iesu ar gyfer ei rôl fel Archoffeiriad. Ac yn drydydd, roedd ffyddlondeb Iesu hyd farwolaeth yn profi fod bodau dynol yn gallu bod yn ffyddlon er gwaethaf treialon dwys. (Job 1:9-11)—w21.04, tt. 16-17.

Beth gelli di ei wneud os ydy pobl yn anodd eu ffeindio yn y weinidogaeth?

Gelli di geisio eu cyrraedd ar adeg pan fyddan nhw’n fwy tebygol o fod gartref. Gelli di hefyd drio pregethu mewn mannau gwahanol. A gelli di drio dull gwahanol, fel ysgrifennu llythyrau.—w21.05, tt. 15-16.

Beth roedd yr apostol Paul yn ei olygu pan ddywedodd: “Trwy gyfraith bûm farw i gyfraith”? (Gal. 2:19, BCND)

Roedd Cyfraith Moses yn gwneud amherffeithrwydd dynol yn amlwg ac yn arwain Israel at y Crist. (Gal. 3:19, 24) Gwnaeth hyn wneud i Paul dderbyn Crist. Drwy wneud hynny buodd Paul “farw i gyfraith,” doedd y gyfraith ddim bellach yn dylanwadu arno.—w21.06, t. 31.

Sut mae Jehofa wedi gosod yr esiampl inni o ran dangos dyfalbarhad?

Mae Jehofa wedi goddef ei enw yn cael ei bardduo, gwrthwynebiad i’w sofraniaeth, gwrthryfel rhai o’i blant, celwyddau di-baid Satan, dioddefaint ei weision, hiraeth am ei ffrindiau sydd wedi marw, gweld pobl ddrygionus yn brifo eraill, a phobl yn difetha ei greadigaeth.—w21.07, tt. 9-12.

Sut gosododd Joseff esiampl dda o amynedd?

Gwnaeth ef ddioddef am ei fod wedi cael ei drin yn anghyfiawn gan ei frodyr. Oherwydd hynny, cafodd ei gyhuddo ar gam a’i garcharu yn yr Aifft am flynyddoedd.—w21.08, t. 12.

Pa fath o ysgwyd mae Haggai 2:6-9, 20-22 yn ei ragfynegi?

Mae’r cenhedloedd wedi gwrthod neges y Deyrnas, ond mae llawer o bobl wedi derbyn y gwir. Yn fuan bydd y cenhedloedd yn cael eu hysgwyd am y tro olaf pan fyddan nhw’n cael eu dinistrio.—w21.09, tt. 15-19.

Pam rydyn ni’n dal ati yn ein gweinidogaeth?

Mae Jehofa’n gweld ein hymdrechion, ac maen nhw’n ei blesio. Os byddwn ni’n dal ati ac yn dyfalbarhau, byddwn ni’n cael bywyd tragwyddol.—w21.10, tt. 25-26.

Sut gall Lefiticus pennod 19 ein helpu ni i roi ar waith y cyngor: “Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân”? (1 Pedr 1:15)

Mae’n debyg bod yr adnod honno yn ddyfyniad o Lefiticus 19:2. Mae pennod 19 yn rhoi llawer o enghreifftiau o sut gallwn ni roi 1 Pedr 1:15 ar waith yn ein bywyd bob dydd.—w21.12, tt. 3-4.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu