LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp22 Rhif 1 tt. 12-13
  • 4 | Trechu Casineb Gyda Help Duw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 4 | Trechu Casineb Gyda Help Duw
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Dysgeidiaeth o’r Beibl:
  • Beth Mae’n ei Olygu:
  • Beth Allwch Chi ei Wneud:
  • Sut i Dorri’r Cylch o Gasineb
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Bydd Casineb yn Cael ei Drechu!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Pam Mae ’Na Gymaint o Gasineb?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Bydd Casineb Wedi Diflannu am Byth!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
wp22 Rhif 1 tt. 12-13
Pobl yn cerdded tuag at Feibl mawr agored sy’n goleuo drostyn nhw. Mae eu cysgodion yn awgrymu eu bod nhw wedi teimlo casineb yn y gorffennol.

SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB

4 | Trechu Casineb Gyda Help Duw

Dysgeidiaeth o’r Beibl:

“Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth.”—GALATIAID 5:22, 23.

Beth Mae’n ei Olygu:

Gallwn ni dorri’r cylch o gasineb gyda help Duw. Mae ei ysbryd glân yn gallu ein helpu ni i gael rhinweddau fyddwn ni byth yn gallu eu meithrin ar ein pennau’n hunain. Yn lle ceisio trechu casineb yn ein nerth ein hunain, mae’n dda i ddibynnu ar help gan Dduw. Os ydyn ni, byddwn ni’n profi’r un peth â’r apostol Paul a ysgrifennodd: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.” (Philipiaid 4:13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yna byddwn ni’n gallu dweud: “Daw [fy] help oddi wrth yr ARGLWYDD.”—Salm 121:2.

Beth Allwch Chi ei Wneud:

“Mae Jehofa wedi fy nhrawsffurfio o ddyn treisgar i ddyn heddychlon.”—WALDO

Gweddïwch ar Jehofa gan ofyn yn daer am ei ysbryd glân. (Luc 11:13) Gofyn iddo eich helpu chi i feithrin rhinweddau Duwiol yn eich bywyd. Astudiwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am rinweddau sy’n gwrthwynebu casineb, fel cariad, heddwch, amynedd, a hunanreolaeth. Edrychwch am ffyrdd i ddatblygu’r rhinweddau hyn yn eich bywyd, a threuliwch amser gyda rhai sy’n ceisio gwneud yr un peth. Bydd pobl felly yn ein helpu ni i annog ein gilydd i “ddangos cariad a gwneud daioni.”—Hebreaid 10:24.

Profiad Bywyd​—WALDO

Trechodd Gasineb a Thrais

Waldo.

Roedd magwraeth Waldo yn un anodd iawn ac o ganlyniad roedd yn llawn casineb. Mae’n dweud: “Yn aml roeddwn i’n ymladd ar y strydoedd gyda delwyr cyffuriau . . . Un tro, gwnaeth gang dalu llofrudd enwog i’m lladd i, ond er imi gael fy nhrywanu, llwyddais i ffoi.”

Doedd Waldo ddim yn hapus pan ddechreuodd ei wraig astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Mae’n dweud: “O’n i’n casáu’r Tystion, a llawer gwaith wnes i regi a sgrechian arnyn nhw. Ond wnaethon nhw ymateb yn heddychlon bob tro.”

Yn y pen draw, gwnaeth Waldo hefyd ddechrau astudio’r Beibl. Meddai: “Doedd hi ddim yn hawdd rhoi ar waith beth o’n i’n ei ddysgu. O’n i’n meddwl fyddwn i byth yn gallu rheoli fy nhymer.” Ond dysgodd Waldo rywbeth o’r Beibl wnaeth newid ei feddwl.

Mae Waldo’n esbonio: “Un diwrnod, wnaeth y brawd oedd yn astudio gyda fi, Alejandro, ofyn imi ddarllen Galatiaid 5:22, 23. . . . Esboniodd Alejandro doedd datblygu’r rhinweddau hynny ddim yn dibynnu ar fy nerth fy hun, ond ar ysbryd glân Duw. Gwnaeth y gwirionedd hwnnw newid fy meddwl yn llwyr!”

Drwy ddibynnu ar help Duw, mae Waldo wedi llwyddo i dorri’r cylch o gasineb yn ei fywyd. Mae’n adrodd: “Dydy fy nheulu a fy hen ffrindiau ddim yn gallu credu cymaint rydw i wedi newid. . . . Mae Jehofa wedi fy nhrawsffurfio o ddyn treisgar i ddyn heddychlon.”

Darllenwch fwy am hanes Waldo yn Y Tŵr Gwylio Saesneg Hydref 1, 2013, tudalennau 12-13.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu