LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w22 Medi t. 26
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Erthyglau Tebyg
  • Ydy Dy Enw Di yn “Llyfr y Bywyd”?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Dysgu Llawer i Fod yn Gyfiawn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Beth Yw’r Atgyfodiad?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Gobaith Oddi Wrth Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
w22 Medi t. 26

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pwy fydd yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear, a sut fath o atgyfodiad byddan nhw’n ei gael?

Ystyria sut mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw.

Mae Actau 24:15, BCND, yn dweud y bydd ’na “atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.” Y cyfiawn ydy’r rhai oedd yn ufudd i Jehofa tra oedden nhw’n dal yn fyw. Felly, mae eu henwau nhw yn llyfr y bywyd. (Mal. 3:16) Mae’r anghyfiawn yn cyfeirio at y rhai wnaeth farw heb gael digon o gyfle i ddysgu am Jehofa. Felly, dydy eu henwau nhw ddim yn llyfr y bywyd.

Mae Ioan 5:28, 29, BCND, ac Actau 24:15 yn sôn am yr un ddau grŵp. Dywedodd Iesu, “bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a’r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.” Am fod y rhai cyfiawn wedi gwneud daioni cyn iddyn nhw farw, byddan nhw’n cael eu hatgyfodi i fywyd am fod eu henwau yn llyfr y bywyd. Ond am fod yr anghyfiawn wedi gwneud drygioni cyn iddyn nhw farw, byddan nhw’n cael eu hatgyfodi i gael eu barnu, oherwydd dydy eu henwau ddim yn llyfr y bywyd eto. Byddan nhw’n cael eu barnu am gyfnod, ond yn ystod y cyfnod hwnnw byddan nhw’n cael y cyfle i ddysgu am Jehofa, ac i gael eu henwau yn llyfr y bywyd.

Mae Datguddiad 20:12, 13, BCND, yn dweud y bydd rhaid i bawb sy’n cael eu hatgyfodi ufuddhau i’r hyn sy’n “ysgrifenedig yn y llyfrau,” hynny ydy, y gyfraith newydd gawn ni gan Dduw yn y byd newydd. Bydd Jehofa yn cael gwared ar y rhai sydd ddim yn ufudd iddo.—Esei. 65:20.

Mae Daniel 12:2, BCND, yn rhagfynegi y bydd rhai yn deffro i “fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol.” Mae’r adnod hon yn sôn am beth fydd yn digwydd yn y pen draw i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi. Ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd, bydd rhai yn cael “bywyd tragwyddol,” tra bydd eraill yn cael “dirmyg tragwyddol,” hynny ydy, cael eu dinistrio am byth.—Dat. 20:15; 21:3, 4.

Meddylia amdani fel hyn: Mae’r ddau grŵp sy’n cael eu hatgyfodi mewn sefyllfa debyg i estronwyr sydd eisiau byw mewn gwlad arall. Mae’r cyfiawn yn debyg i’r rhai sy’n cael fisa sy’n caniatáu iddyn nhw aros yn y wlad am gyfnod hir i weithio neu i fyw yno. Mae’r anghyfiawn yn debyg i’r rhai sydd ond yn cael caniatâd i aros am gyfnod byr fel ymwelwyr. Yn union fel mae estronwyr yn gorfod parchu a dilyn cyfraith y wlad er mwyn aros yno, bydd rhaid i’r anghyfiawn ufuddhau i gyfreithiau Jehofa, a phrofi eu bod nhw’n gyfiawn er mwyn aros ym Mharadwys. Ond ni waeth sut mae estronwyr yn mynd i mewn i wlad arall, mae rhai, yn y pen draw, yn cael caniatâd i aros yno am byth, tra bod eraill yn cael eu halltudio. Mae’r penderfyniad terfynol hwnnw yn dibynnu ar eu hagwedd a’u hymddygiad yn y wlad newydd. Bydd yr un peth yn wir i bawb sy’n cael eu hatgyfodi. Bydd y penderfyniad terfynol yn dibynnu ar eu ffyddlondeb a’u hymddygiad yn y byd newydd.

Mae Jehofa yn Dduw cariadus, ond mae ef hefyd yn hynod o deg. (Deut. 32:4; Salm 33:5) Yn ei gariad, bydd yn atgyfodi’r cyfiawn a’r anghyfiawn. Ond ar yr un pryd, bydd yn disgwyl i bob un ohonyn nhw gadw at ei safonau moesol uchel. Dim ond y rhai sy’n gwneud hynny, ac sy’n ei garu, fydd yn cael byw am byth yn y byd newydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu