LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w22 Rhagfyr tt. 2-7
  • Gallwn Ni Fyw am Byth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gallwn Ni Fyw am Byth
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE JEHOFA YN BYW AM BYTH
  • CAWSON NI EIN CREU I FYW AM BYTH
  • MAE BWRIADAU JEHOFA YR UN FATH AG ERIOED
  • DYFODOL HYFRYD O’N BLAENAU
  • Sut Gallwch Chi Fyw am Byth?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Beth Mae Duw Wedi Ei Wneud?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Gallwch Fyw am Byth ar y Ddaear
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2018
  • Trysora Dy Le yn Nheulu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
w22 Rhagfyr tt. 2-7

ERTHYGL ASTUDIO 49

Gallwn Ni Fyw am Byth

“Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol.”—IOAN 17:3.

CÂN 147 Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol

CIPOLWGa

1. Sut mae myfyrio ar addewid Jehofa o fywyd tragwyddol yn effeithio arnon ni?

MAE addewid Jehofa o roi “bywyd tragwyddol” inni yn un hyfryd. (Rhuf. 6:23) Pan ydyn ni’n myfyrio arno, mae ein cariad at Jehofa yn cryfhau. A meddylia am hyn: Mae ein Tad nefol yn ein caru ni gymaint, fyddwn ni byth yn cael ein gwahanu oddi wrtho.

2. Sut mae’r gobaith o fyw am byth yn ein helpu ni?

2 Mae’r gobaith o fyw am byth yn ein helpu ni i wynebu ein treialon heddiw. Rydyn ni’n hollol sicr, os ydyn ni’n marw’n ffyddlon i Jehofa, byddwn ni’n cael ein hatgyfodi gyda’r gobaith o beidio â marw eto. Felly hyd yn oed os ydy ein gelynion yn ein bygwth ni â marwolaeth, byddwn ni’n gallu dal ein tir ac aros yn ffyddlon. (Ioan 5:28, 29; 1 Cor. 15:55-58; Heb. 2:15) Pam gallwn ni fod yn hollol sicr y gallwn ni fyw am byth? Gad inni weld.

MAE JEHOFA YN BYW AM BYTH

3. Pam gallwn ni fod yn hollol sicr bod Jehofa yn gallu ein cadw ni’n fyw am byth? (Salm 102:12, 24, 27)

3 Yn syml, Jehofa ydy ffynhonnell bywyd ac mae ef wastad wedi bodoli. Wrth reswm felly, bydd yn gallu ein cadw ni’n fyw am byth. (Salm 36:9) Mae ambell adnod yn y Beibl yn profi, nid yn unig bod Jehofa wedi bodoli erioed, ond hefyd y bydd yn bodoli am byth. Er enghraifft, mae Salm 90:2 yn dweud bod Jehofa “o dragwyddoldeb pell.” Mae’r un syniad yn dod drosodd yn Salm 102. (Darllen Salm 102:12, 24, 27.) Ac wrth sôn am Jehofa, ysgrifennodd y proffwyd Habacuc: “Ti ydy’r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy’r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw!”—Hab. 1:12.

4. A ddylen ni boeni os nad ydyn ni’n deall y syniad bod Jehofa wastad wedi bodoli? Esbonia.

4 Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd deall y syniad bod Jehofa yn ‘Dduw tragwyddol,’ dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. (Esei. 40:28) Dywedodd Elihw am Dduw: “Does dim modd cyfri hyd ei oes e!” (Job 36:26) Ond does dim angen inni ddeall rhywbeth er mwyn iddo fod yn wir. Er enghraifft, efallai nad ydyn ni’n deall yn union sut mae goleuni’n gweithio, ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ei fod yn bodoli. Mewn ffordd debyg, efallai fyddwn ni byth yn deall ym mha ystyr mae Jehofa yn ‘Dduw tragwyddol,’ ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ei fod wastad wedi bodoli, a’i fod am fodoli am byth. Dydy’r ffeithiau hynny ddim yn dibynnu ar ein dealltwriaeth ni. (Rhuf. 11:33-36) Jehofa oedd yr un a “ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear . . . a lledu’r awyr.” Felly mae’n amlwg ei fod wedi bodoli cyn y bydysawd a phopeth ynddo. (Jer. 51:15; Act. 17:24) Pa reswm arall sydd gynnon ni i gredu y gallwn ni fyw am byth?

CAWSON NI EIN CREU I FYW AM BYTH

5. Pa gyfle oedd gan y cwpl cyntaf?

5 Wnaeth Jehofa ddim creu anifeiliaid a phlanhigion i fyw yn hir. Ond gwnaeth ef ddylunio pobl i fyw am byth. Er hynny, daeth y fraint honno gyda rhybudd. Dywedodd Jehofa wrth Adda: “Paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth—da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Gen. 2:17) Felly petasai Adda ac Efa wedi gwrando ar Jehofa, fydden nhw byth wedi marw. Ac mae’n rhesymol i gredu y byddai Jehofa, yn y pen draw, wedi gadael iddyn nhw fwyta “ffrwyth y goeden sy’n rhoi bywyd” fel arwydd eu bod yn cael “byw am byth.”b—Gen. 3:22.

“Am Byth” yn y Beibl

Y gair Hebraeg mwyaf cyffredin am “am byth” ydy ʽoh·lamʹ. Yn y Beibl, mae’r gair hwn yn gallu cyfeirio at rywbeth a oedd yn bodoli am amser maith, neu a fydd yn bodoli ymhell i’r dyfodol. Does ganddo ddim man cychwyn na gorffen penodol. (Jos. 24:2; Salm 24:7, 9) Ond mae hefyd yn gallu cyfeirio at rywbeth sy’n para am byth bythoedd. Mae Jehofa yn para “am byth” yn yr ystyr hwnnw. (Salm 102:12, 24, 27) Mae beibl.net yn trosi’r gair Hebraeg hwn fel “am byth,” “tragwyddoldeb,” neu “gorffennol pell.” Mae’r gair sy’n cael ei ddefnyddio yn dibynnu ar y cyd-destun.

6-7. (a) Beth arall sy’n dangos nad oedd pobl i fod i farw? (b) Beth rwyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud yn y byd newydd? (Gweler y lluniau.)

6 Mae’n ddiddorol bod gwyddonwyr wedi darganfod bod yr ymennydd yn gallu storio llawer mwy o wybodaeth nag y gallwn ni ei chasglu yn ystod ein bywydau. Yn 2010, cyhoeddodd y Scientific American Mind erthygl oedd yn dweud bod yr ymennydd yn gallu storio tua 2.5 miliwn gigabeit o wybodaeth. Mae hynny’n cyfateb i tua 3 miliwn awr (dros 300 mlynedd) o raglenni teledu. Gallai’r ffigwr go iawn fod yn llawer mwy na hynny mewn gwirionedd, ond mae’n dangos bod Jehofa wedi dylunio’r ymennydd i storio llawer mwy o wybodaeth nag y gallwn ni ei chasglu mewn dim ond 70 neu 80 mlynedd.—Salm 90:10.

7 Mae Jehofa wedi ein creu ni gydag awydd cryf i aros yn fyw. Mae’r Beibl yn dweud bod Duw wedi rhoi ‘tragwyddoldeb yng nghalonnau pobl.’ (Preg. 3:11, BCND) Does dim syndod felly ein bod ni’n ystyried marwolaeth yn elyn. (1 Cor. 15:26) Os ydyn ni’n mynd yn ddifrifol wael, byddwn ni’n gwneud rhywbeth amdano fel mynd at y doctor, neu gymryd meddyginiaeth. Rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni er mwyn peidio â marw. Ac mae’n siŵr byddet ti’n cytuno bod colli anwyliaid, p’un a ydyn nhw’n hen neu’n ifanc, yn boenus ofnadwy. (Ioan 11:32, 33) Pam fyddai Duw cariadus yn rhoi’r gallu a’r awydd inni fyw am byth oni bai mai dyna oedd yn ei fwriadu? Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa heb newid ei bwrpas? Bydd trafod rhai o’r pethau mae ef eisoes wedi eu gwneud, a’r pethau mae ef wrthi’n eu gwneud, yn ein helpu ni i ateb hynny.

Collage: Brawd hŷn yn eistedd wrth fwrdd gyda meddyginiaeth o’i flaen. Mae’n darllen y Beibl ac yn myfyrio ar beth bydd yn gallu ei wneud â’r holl egni fydd ganddo yn y byd newydd. 1. Mae’n hwylio. 2. Mae’n peintio. 3. Mae’n mynd i gerdded heibio rheadr.

Gyda bywyd tragwyddol o’n blaenau, rydyn ni’n mwynhau meddwl am yr holl bethau y byddwn ni’n gallu eu gwneud yn y dyfodol (Gweler paragraff 7)c

MAE BWRIADAU JEHOFA YR UN FATH AG ERIOED

8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu yn Eseia 55:11 am bwrpas Jehofa ar ein cyfer?

8 Rydyn ni i gyd yn marw oherwydd pechod Adda ac Efa, ond dydy hynny ddim yn golygu bod bwriadau Jehofa wedi newid—mae ef dal eisiau i bobl ffyddlon fyw am byth. (Darllen Eseia 55:11.) Mae hyn yn glir o’r pethau mae ef eisoes wedi eu dweud a’u gwneud er mwyn cyflawni ei bwrpas.

9. Beth mae Duw wedi ei addo? (Daniel 12:2, 13)

9 Mae Jehofa wedi addo atgyfodi’r meirw a rhoi’r cyfle iddyn nhw fyw am byth. (Act. 24:15; Titus 1:1, 2) Roedd Job yn hollol sicr bod Jehofa yn dyheu am atgyfodi’r meirw. (Job 14:14, 15) Roedd y proffwyd Daniel hefyd yn gwybod y bydd pobl yn cael eu hatgyfodi gyda’r gobaith o fyw am byth. (Salm 37:29; darllen Daniel 12:2, 13.) Ar ben hynny, roedd yr Iddewon yn nyddiau Iesu yn gwybod bod Jehofa yn gallu rhoi “bywyd tragwyddol” i’w weision ffyddlon. (Luc 10:25; 18:18) Gwnaeth Iesu sôn am yr addewid hwn sawl gwaith, ac wrth gwrs, cafodd ef ei hun ei atgyfodi gan ei Dad.—Math. 19:29; 22:31, 32; Luc 18:30; Ioan 11:25.

Y weddw o Sareffath wedi gwirioni ar ôl i Elias atgyfodi ei mab.

Pa hyder rwyt ti’n ei gael o’r atgyfodiad a wnaeth Elias? (Gweler paragraff 10)

10. Beth mae atgyfodiadau’r gorffennol yn ei brofi? (Gweler y llun.)

10 Jehofa ydy’r un sy’n rhoi bywyd yn y lle cyntaf, felly mae’n amlwg bod ganddo’r gallu a’r grym i ddod â phobl yn ôl yn fyw. Mae sawl hanesyn yn profi hynny. Er enghraifft, rhoddodd y grym i Elias atgyfodi mab y wraig weddw o Sareffath. (1 Bren. 17:21-23) Ymhellach ymlaen, gwnaeth rywbeth tebyg yn achos y proffwyd Eliseus drwy roi’r nerth iddo atgyfodi mab y ddynes o Shwnem. (2 Bren. 4:18-20, 34-37) Gwnaeth Jehofa hefyd roi’r gallu i Iesu atgyfodi pobl tra oedd ef ar y ddaear. (Ioan 11:23-25, 43, 44) Ond bellach, mae Iesu yn y nef, ac mae “pob awdurdod wedi cael ei roi [iddo] yn y nef ac ar y ddaear.” Felly mae ganddo bopeth sydd ei angen i atgyfodi “pawb sydd yn y beddau” gyda’r gobaith o aros yn fyw am byth.—Math. 28:18; Ioan 5:25-29.

11. Sut mae’r pridwerth yn ei gwneud hi’n bosib inni fyw am byth?

11 Pam gwnaeth Jehofa adael i’w Fab annwyl farw? Atebodd Iesu’r cwestiwn hwnnw pan ddywedodd: “Gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab, er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Felly drwy roi ei Fab yn bridwerth i dalu am ein pechodau, roedd Duw yn ei gwneud hi’n bosib inni fyw am byth. (Math. 20:28) Roedd hynny’n rhan bwysig o bwrpas Duw. Dyma sut gwnaeth yr apostol Paul ei esbonio: “Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. Mae pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda, ond mae pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd newydd.”—1 Cor. 15:21, 22.

12. Sut bydd y Deyrnas yn helpu i gyflawni beth mae Jehofa yn ei fwriadu inni?

12 Dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo am i Deyrnas Dduw ddod, ac am i ewyllys Duw gael ei wneud ar y ddaear. (Math. 6:9, 10) Mae Jehofa eisiau inni fyw am byth ar y ddaear. Dyna pam mae ef wedi penodi Iesu yn Frenin ar Ei Deyrnas, ac wedi dewis 144,000 o bobl o’r ddaear i weithio gyda Iesu i gyflawni Ei bwrpas.—Dat. 5:9, 10.

13. Beth mae Jehofa yn ei wneud heddiw, a pha ran rwyt ti’n ei chwarae?

13 Heddiw, mae Jehofa yn casglu ‘tyrfa fawr’ ac yn eu hyfforddi nhw i fyw o dan ei Deyrnas. (Dat. 7:9, 10; Iago 2:8) Mewn byd sydd wedi ei wahanu gan gasineb, ofn, a rhyfel, mae’r dyrfa fawr yn gwneud eu gorau i drechu casineb o bob math. Maen nhw eisoes yn curo eu cleddyfau yn sychau aradr fel petai. (Mich. 4:3) Yn lle mynd i ryfel, maen nhw’n helpu pobl i ffeindio’r “bywyd go iawn” drwy eu helpu nhw i ddod i adnabod Jehofa ac i ddysgu am ei fwriadau. (1 Tim. 6:19) Oherwydd eu bod nhw’n cefnogi Teyrnas Dduw, efallai bydd aelodau teulu yn troi yn eu herbyn, neu efallai byddan nhw’n colli arian. Ond mae Jehofa bob tro’n gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw. (Math. 6:25, 30-33; Luc 18:29, 30) Mae hyn i gyd yn rhoi sicrwydd inni fod Teyrnas Dduw yn bodoli heddiw, ac y bydd yn dal ati i gyflawni pwrpas Jehofa.

DYFODOL HYFRYD O’N BLAENAU

14-15. Sut bydd addewid Jehofa am gael gwared ar farwolaeth am byth yn cael ei gyflawni?

14 Mae Iesu eisoes yn frenin yn y nef, ac mae’n barod i gyflawni holl addewidion Duw. (2 Cor. 1:20) Mae wedi bod yn trechu ei elynion ers 1914. (Salm 110:1, 2) Yn fuan iawn, bydd Iesu a’r eneiniog yn ennill y frwydr ac yn dinistrio pobl ddrwg.—Dat. 6:2.

15 Tra bydd Iesu’n teyrnasu am fil o flynyddoedd, bydd yn atgyfodi’r meirw ac yn helpu pawb sydd yn ufudd i Jehofa i ddod yn berffaith. Ar ôl y prawf olaf, bydd pawb sy’n gyfiawn yng ngolwg Jehofa “yn meddiannu’r tir ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:10, 11, 29) A bydd y “gelyn olaf, marwolaeth, yn cael ei ddinistrio.”—1 Cor. 15:26.

16. Beth ydy’r prif reswm pam rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa?

16 Felly, yn amlwg, mae gynnon ni bob rheswm i gredu bod ein gobaith am fyw am byth wedi ei seilio ar Air Duw. Mae hynny’n obaith pwerus, sy’n gallu ein helpu ni yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae’n ein cymell ni i aros yn ffyddlon, nid am ein bod ni eisiau aros yn fyw, ond am ein bod ni’n caru Jehofa ac Iesu. (2 Cor. 5:14, 15) Mae’r cariad hwnnw yn ein cymell ni i’w hefelychu nhw, ac i rannu ein gobaith anhygoel ag eraill. (Rhuf. 10:13-15) Wrth inni ddysgu i fod yn llai hunanol ac yn fwy hael, bydd Jehofa eisiau inni fod yn ffrindiau iddo am byth.—Heb. 13:16.

17. Pa gyfrifoldeb sydd gan bob un ohonon ni? (Mathew 7:13, 14)

17 Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfle i bob un ohonon ni fyw am byth. Ond mae hi i fyny i ni i achub ar y cyfle hwnnw ac aros ar y llwybr sy’n arwain i fywyd. (Darllen Mathew 7:13, 14.) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut bydd bywyd pan fyddwn ni’n byw am byth ar y ddaear.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pa dystiolaeth sy’n dangos bod pobl wedi eu dylunio i fyw am byth?

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn dal yn bwriadu i bobl fyw am byth?

  • Beth ydy’r rheswm pwysicaf pam rydyn ni eisiau byw am byth?

CÂN 141 Gwyrth Bywyd

a Wyt ti’n edrych ymlaen at fyw am byth? Mae Jehofa wedi addo y byddwn ni, un diwrnod, yn gallu byw am byth heb orfod poeni am farw. Bydd yr erthygl hon yn sôn am rai rhesymau y gallwn ni fod yn hollol hyderus y bydd addewid Jehofa yn dod yn wir.

b Gweler y blwch “‘Am Byth’ yn y Beibl.”

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd hŷn yn dychmygu beth fydd ef yn gallu ei wneud yn y byd newydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu