LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp23 Rhif 1 tt. 6-7
  • 1 | Gweddi—‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno Ef’

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 1 | Gweddi—‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno Ef’
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
  • Sut Gall Hyn Helpu?
  • Rho Dy Holl Bryderon i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Dynion Sydd â Phryder—Sut Gall y Beibl Helpu?
    Pynciau Eraill
  • Sut i Ymdopi â Phryder
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
wp23 Rhif 1 tt. 6-7
Dyn ifanc mewn poen meddwl yn dal ei law ar ei frest wrth iddo weddïo.

1 | Gweddi ‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno’

MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Bwriwch eich holl bryder ar Dduw, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.’—1 PEDR 5:7.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Mae Jehofa eisiau inni siarad ag ef am unrhyw beth sy’n pwyso’n drwm ar ein meddyliau. (Salm 55:22) Does ’na ddim problem sy’n rhy fawr neu’n rhy fach i weddïo amdano. Os yw’n bwysig i ni, mae’n bwysig i Jehofa. Mae gweddïo yn gam pwysig tuag at gael heddwch meddwl.—Philipiaid 4:6, 7.

Sut Gall Hyn Helpu?

Mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud inni deimlo’n unig iawn. Dydy pobl eraill ddim wastad yn deall sut rydyn ni’n teimlo. (Diarhebion 14:10) Ond pan ydyn ni’n gweddïo ar Dduw ac yn dweud wrtho yn union sut rydyn ni’n teimlo, gallwn fod yn sicr nid yn unig y bydd yn gwrando ond hefyd y bydd yn deall. Mae Jehofa yn ein gweld ni, mae’n gwybod beth sy’n ein brifo a beth rydyn ni’n brwydro yn ei erbyn, ac mae eisiau inni weddïo arno am unrhyw beth sy’n ein poeni.—2 Cronicl 6:29, 30.

Mae siarad â Jehofa mewn gweddi yn ein gwneud ni’n fwy sicr byth ei fod yn gofalu amdanon ni. Byddwn ni’n teimlo fel y salmydd pan ddywedodd: “Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo.” (Salm 31:7) Mae hyd yn oed gwybod bod Jehofa yn sylwi ar ein sefyllfa yn gallu ein helpu ni i ddal ati yn ystod cyfnodau anodd. Ond yn fwy na hynny, mae’n deall yn union beth rydyn ni’n mynd trwyddo, ac yn ein helpu ni i ffeindio cysur ac anogaeth yn y Beibl.

Sut Mae’r Beibl yn Helpu Julian

Sut Mae Gorbryder yn Effeithio Arna I?

Julian.

“Dw i’n cael trafferth efo gorbryder ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Mae gorbryder yn taro’n annisgwyl. Un eiliad dw i’n iawn, a’r eiliad nesaf dw i’n poeni am ddim rheswm o gwbl. Dw i’n ei deimlo fwyaf pan dw i o gwmpas pobl eraill. Dw i’n poeni’n ofnadwy am beth maen nhw’n ei feddwl ohono i.

“Mae’r rhai sy’n deall fy sefyllfa yn gefnogol iawn. Weithiau maen nhw’n dweud y peth anghywir, ond dw i’n gwerthfawrogi’r ffaith eu bod nhw’n trio fy helpu i.

“Ar adegau, mae’r gorbryder a’r OCD yn ei gwneud hi’n anodd imi weddïo. Mae’n cymryd lot fawr o ymdrech imi allu canolbwyntio a siarad â Jehofa mewn gweddi. Mae fy meddyliau yn rasio—yn mynd o un peth i’r llall mor gyflym dw i’n drysu. A phan fedra i ddim eu rheoli nhw, mae’n anodd iawn imi esbonio mewn geiriau sut dw i’n teimlo.”

Sut Mae’r Beibl yn Fy Helpu?

“Dw i wedi dysgu o’r Beibl, does dim rhaid i weddïau fod yn eiriog nac yn hir i fod yn dderbyniol i Dduw. Weithiau, pan does gen i ddim geiriau, fy ngweddi ydy: ‘Jehofa, plîs helpa fi.’ Hyd yn oed ar ôl gweddi mor fyr, dw i’n teimlo yn y foment honno fod Jehofa yn deall ac yn fy helpu. Yn ogystal â gweddïo, dw i wedi cael help meddygol. Dwi’n falch o ddweud fy mod i’n lot gwell nag o’n i oherwydd y ddau beth yna. Yn sicr mae troi at Jehofa yn werth pob ymdrech oherwydd dw i’n gwybod ei fod yn fy ngharu i ac ei fod eisiau fy helpu i.”

Help i Blant a Phobl Ifanc

Y fideo “Dod yn Ffrind i Jehofa—Gweddïo Unrhyw Bryd.”

Ar jw.org/cy, dysgwch pam gallwch chi fod yn hyderus bod Jehofa yn gwrando ar eich gweddïau ac yn eu hateb.

Gwyliwch y fideo Dod yn Ffrind i Jehofa—Gweddïo Unrhyw Bryd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu