LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w23 Gorffennaf t. 31
  • Oeddet Ti’n Gwybod?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Oeddet Ti’n Gwybod?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwrthod Addoli Delw
    Storïau o’r Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
w23 Gorffennaf t. 31

Oeddet Ti’n Gwybod?

Sut mae brics a gafodd eu darganfod yn adfeilion Babilon a’r ffordd cawson nhw eu gwneud yn cefnogi cywirdeb y Beibl?

MAE archaeolegwyr wedi darganfod miliynau o frics yn adfeilion Babilon a gafodd eu defnyddio i adeiladu’r ddinas. Yn ôl yr archaeolegydd Robert Koldewey, cafodd y brics hyn eu cynhyrchu mewn ffwrneisi “y tu allan i’r ddinas, ble mae’r clai yn dda a’r tanwydd . . . yn niferus.”

Mae ysgrifau hynafol o Fabilon yn datgelu bod llywodraethwyr hefyd wedi defnyddio’r ffwrneisi ar gyfer pwrpas erchyll. Mae Paul-Alain Beaulieu, Athro mewn Asyrioleg ym Mhrifysgol Toronto, yn dweud: “Mae llawer o ysgrifau Babilonaidd . . . yn cofnodi gorchymyn y brenin bod y rhai a oedd yn gwrthryfela neu’n dangos amarch tuag at dduwiau Babilon i’w cael eu llosgi.” Mae un darn o ysgrifen o adeg y Brenin Nebwchadnesar yn dedfrydu: “Dinistriwch nhw, llosgwch nhw, rhostiwch nhw, . . . i’r ffwrn â nhw . . . gwnewch i’r mwg godi, rhowch nhw i farwolaeth drwy eu taflu nhw i’r tân.”

Mae hyn yn ein hatgoffa ni o’r digwyddiadau yn Daniel pennod 3, sy’n sôn am y Brenin Nebwchadnesar yn codi delw anferth wedi ei gwneud o aur ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon. Pan wrthododd tri Hebrëwr ifanc—Shadrach, Meshach, ac Abednego—blygu o flaen y ddelw, gwylltiodd Nebwchadnesar, a gorchmynnodd i’r ffwrnais gael ei thwymo “saith gwaith poethach nag arfer,” ac i’r tri ohonyn nhw gael eu “taflu i’r ffwrnais.” Gwnaeth angel nerthol eu hachub rhag marwolaeth.—Dan. 3:1-6, 19-28.

© The Trustees of the British Museum. Licensed under CC BY-NC-SA 4.0. Source

Bricsen gydag enw Nebwchadnesar arni

Mae’r brics Babilonaidd eu hun hefyd yn cefnogi hanes y Beibl. Ar lawer ohonyn nhw mae ymadroddion sy’n rhoi clod i’r brenin. Mae un ohonyn nhw’n adrodd: “Nebwchadnesar, Brenin Babilon . . . Y palas a adeiladais i, y Brenin Mawr . . . Boed i fy nisgynyddion reoli drosto am byth.” Mae’r ymadrodd hwn yn debyg iawn i’r hyn sydd wedi ei gofnodi yn Daniel 4:30, lle broliodd Nebwchadnesar: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu’r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu