ERTHYGL ASTUDIO 48
Gelli Di Gadw’n Hyderus yn Ystod Amseroedd Ansicr
“‘Daliwch ati . . . oherwydd dw i gyda chi’—meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.”—HAG. 2:4.
CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd
CIPOLWGa
1-2. (a) Pa debygrwydd sydd ’na rhwng ein sefyllfa ni a sefyllfa’r Iddewon a oedd yn mynd yn ôl i Jerwsalem? (b) Pa fath o broblemau a oedd yr Iddewon yn eu hwynebu? (Gweler y blwch “Dyddiau Haggai, Sechareia, ac Esra.”)
A WYT ti’n pryderu o bryd i’w gilydd am y dyfodol? Efallai dy fod ti wedi colli dy swydd ac yn pryderu am ofalu am dy deulu yn ariannol. Efallai dy fod ti’n pryderu am ddiogelwch dy deulu oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol, erledigaeth, neu wrthwynebiad yn erbyn y gwaith o bregethu. A wyt ti’n wynebu un o’r heriau hyn? Os felly, byddi di’n cael dy galonogi o weld llaw Jehofa yn helpu’r Israeliaid gynt wrth iddyn nhw wynebu problemau tebyg.
2 Cymerodd ffydd ar ran yr Iddewon a oedd wedi eu magu ym Mabilon i adael y ddinas foethus honno a mynd i wlad doedd ddim yn gyfarwydd iddyn nhw. Yn fuan ar ôl iddyn nhw gyrraedd, roedden nhw’n wynebu problemau economaidd a gwleidyddol yn ogystal ag erledigaeth. Roedd yn anodd i rai wedyn i ffocysu ar ailadeiladu teml Jehofa. Felly, gwnaeth Jehofa benodi dau broffwyd yn tua 520 COG, Haggai a Sechareia, i ailgynnau sêl y bobl. (Hag. 1:1; Sech. 1:1) Cawn weld fod gwaith y ddau broffwyd hyn wedi cael canlyniadau da. Ond, tua 50 mlynedd wedyn, roedd yr Iddewon a oedd wedi mynd yn ôl angen cael eu calonogi unwaith eto. Yna, daeth Esra, a oedd yn gopïwr medrus y Gyfraith, o Fabilon i Jerwsalem i helpu’r Israeliaid i roi addoliad Jehofa ar y blaen.—Esra 7:1, 6.
3. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried? (Diarhebion 22:19)
3 Fel roedd proffwydoliaethau Sechareia a Haggai yn helpu pobl Jehofa i’w drystio yn ystod gwrthwynebiad, gallan nhw ein helpu ni hefyd i drystio yn Jehofa er gwaethaf ansicrwydd yn ein bywydau. (Darllen Diarhebion 22:19, BCND.) Wrth inni ystyried proffwydoliaethau Haggai a Sechareia ac esiampl Esra, gwnawn ni ateb y cwestiynau hyn: Sut roedd yr Iddewon a ddaeth yn ôl yn cael eu heffeithio gan ansicrwydd bywyd? Pam dylen ni ffocysu ar wneud ewyllys Duw yn ystod amseroedd ansicr? A sut gallwn ni adeiladu ein ffydd a hyder yn Jehofa yn ystod amseroedd anodd?
SUT GWNAETH ANSICRWYDD EFFEITHIO AR YR IDDEWON A DDAETH YN ÔL
4-5. Beth efallai a achosodd i’r Iddewon golli eu sêl ar gyfer y gwaith ar y deml?
4 Pan wnaeth yr Iddewon gyrraedd Jerwsalem, roedd ’na lot o waith i’w wneud. Gwnaethon nhw, yn gyflym iawn, adeiladu allor Jehofa a gosod sylfaen y deml. (Esra 3:1-3, 10) Ond gwnaeth eu sêl wanhau. Pam? Yn ogystal ag ailadeiladu’r deml, roedd rhaid iddyn nhw adeiladu tai iddyn nhw eu hunain, plannu cnydau yn y caeau, a hefyd gofalu am eu teuluoedd. (Esra 2:68, 70) Ar ben hynny, roedd eu gelynion yn ceisio stopio’r gwaith ar y deml.—Esra 4:1-5.
5 Roedd yr Iddewon hefyd yn wynebu problemau economaidd a phethau ansefydlog gwleidyddol. Roedd eu gwlad bellach yn rhan o ymerodraeth Persia. Ar ôl i’r Brenin Cyrus farw ym 530 COG, gwnaeth ei olynydd Cambyses fynd yn erbyn yr Aifft i ryfela. Wrth i’w filwyr deithio drwy Israel, mae’n debyg eu bod nhw wedi gofyn am ddŵr, am fwyd, ac am bethau eraill. Byddai hynny wedi gwneud pethau’n anoddach i’r Iddewon. Pan ddechreuodd y brenin nesaf, Dareius I, deyrnasu, roedd ’na dal llawer o wrthryfela ac ansefydlogrwydd. Byddai hyn i gyd wedi achosi i’r rhai oedd wedi dychwelyd i Jerwsalem bryderu am sut i ofalu am eu teuluoedd. Oherwydd yr amseroedd ansicr, roedd rhai Iddewon yn teimlo nad oedd yr amser yn iawn i ailadeiladu’r deml.—Hag. 1:2.
6. Yn ôl Sechareia 4:6, 7, pa heriau ychwanegol roedd yr Iddewon yn eu hwynebu, a sut gwnaeth Sechareia eu calonogi nhw?
6 Darllen Sechareia 4:6, 7. Yn ogystal â thlodi ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, roedd yr Iddewon hefyd yn cael eu herlid. Ym 522 COG, llwyddodd gelynion Israel i wahardd ailadeiladu’r deml. Ond calonogodd y proffwyd Sechareia yr Iddewon drwy ddweud y byddai Jehofa’n defnyddio Ei ysbryd pwerus i’w helpu nhw i ddal ati. Ym 520 COG, gwnaeth Dareius I gefnogi’r gwaith o adeiladu’r deml a hyd yn oed roi arian a chefnogaeth swyddogol iddyn nhw.—Esra 6:1, 6-10.
7. Pan roddodd yr Iddewon flaenoriaeth i bethau ysbrydol, sut cawson nhw eu bendithio?
7 Trwy Haggai a Sechareia, dywedodd Jehofa wrth ei bobl y byddai’n eu cefnogi nhw petasen nhw’n rhoi blaenoriaeth i ailadeiladu’r deml. (Hag. 1:8, 13, 14; Sech. 1:3, 16) Ymatebodd yr Iddewon a oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem, a gwnaethon nhw ailgychwyn adeiladu’r deml ym 520 COG. Ymhen pum mlynedd, roedden nhw wedi cwblhau’r prosiect. Gan eu bod nhw wedi rhoi addoliad Jehofa ar y blaen, gwnaeth Jehofa eu bendithio nhw yn ysbrydol ac yn faterol. O ganlyniad roedden nhw’n addoli Jehofa yn llawen.—Esra 6:14-16, 22.
CADW DY FFOCWS AR WNEUD EWYLLYS DUW
8. Sut gall Haggai 2:4 ein helpu ni i ffocysu ar wneud ewyllys Duw? (Gweler hefyd y troednodyn.)
8 Wrth i’r trychineb mawr agosáu, mae angen inni ganolbwyntio’n fwy nag erioed ar y gwaith o bregethu. (Marc 13:10) Ond efallai fod hynny’n anodd iawn os ydyn ni’n wynebu problemau economaidd neu wrthwynebiad i’n gwaith o bregethu. Beth all ein helpu ni i flaenoriaethu pethau ysbrydol? Cadwa mewn cof fod “ARGLWYDD y lluoedd”b ar ein hochr ni. Bydd Jehofa yn gofalu amdanon ni os ydyn ni’n rhoi pethau ysbrydol ar y blaen. Felly, does dim byd i’w ofni.—Darllen Haggai 2:4, BCND.
9-10. Sut gwnaeth un cwpl priod weld gwirionedd geiriau Iesu ym Mathew 6:33?
9 Ystyria esiampl Oleg ac Irina,c sy’n arloesi gyda’i gilydd. Ar ôl iddyn nhw symud i helpu cynulleidfa mewn ardal arall, doedd yr arian ddim yn dod i mewn oherwydd y problemau economaidd yn y wlad. Er nad oedd ganddyn nhw waith sefydlog am tua blwyddyn, gwelon nhw law Jehofa a dwylo eu brodyr a’u chwiorydd yn eu bywydau. Beth wnaeth eu helpu nhw trwy’r adeg anodd hon? Dywedodd Oleg, a oedd ar un adeg yn teimlo’n ddigalon, “Roedd cadw’n brysur yn y weinidogaeth yn ein helpu ni i ffocysu ar yr hyn sy’n wir yn bwysig mewn bywyd.” Tra oedd Oleg a’i wraig yn chwilio am waith, gwnaethon nhw ddal ati yn brysur yn y weinidogaeth.
10 Un diwrnod, dyma nhw’n dod adre o’r weinidogaeth a gweld ffrind agos a oedd wedi teithio 100 milltir (160 km) gyda dau fag o fwyd iddyn nhw. Dywedodd Oleg: “Ar y diwrnod hwnnw, unwaith eto, gwelon ni gariad dwfn Jehofa, a hefyd cariad y gynulleidfa. Rydyn ni’n hollol sicr nad ydy Jehofa byth yn anghofio ei weision ffyddlon, ni waeth pa mor anobeithiol mae’r sefyllfa yn ymddangos.”—Math. 6:33.
11. Beth gallwn ni ei ddisgwyl os ydyn ni’n dal ati i ffocysu ar wneud ewyllys Duw?
11 Mae Jehofa eisiau inni ganolbwyntio ar y gwaith pwysig o achub bywydau trwy wneud disgyblion. Fel dywedodd paragraff 7, roedd Haggai wedi ymbil ar bobl Jehofa i gychwyn o’r newydd yn eu gwasanaeth cysegredig, fel petasen nhw’n ailosod sylfaen y deml eto. O wneud hyn, roedd bendith Jehofa yn siŵr o ddod. (Hag. 2:18, 19) Gallwn ni hefyd fod yn hyderus y byddwn ni’n cael bendith Jehofa os ydyn ni’n cyflawni’r gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni.
SUT I ADEILADU HYDER YN JEHOFA
12. Pam roedd angen ffydd gref ar Esra a’r alltudion eraill?
12 Ym 468 COG, teithiodd Esra gydag ail grŵp o Iddewon o Fabilon i Jerwsalem. I wneud y daith, roedd angen ffydd gref ar Esra a’r bobl. Byddan nhw’n teithio gydag aur ac arian ar gyfer y deml ar hyd ffyrdd peryglus. Byddai wedi bod yn hawdd i ladron ymosod arnyn nhw. (Esra 7:12-16; 8:31) Hefyd, gwnaethon nhw ddysgu nad oedd Jerwsalem ei hun yn ddiogel chwaith. Dim ond ychydig o bobl a oedd yn byw yn y ddinas, ac roedd ei giatiau a’i waliau angen eu trwsio. Beth gallwn ni ei ddysgu gan Esra am adeiladu ffydd yn Jehofa?
13. Sut gwnaeth Esra gryfhau ei hyder yn Jehofa? (Gweler hefyd y troednodyn.)
13 Roedd Esra wedi gweld llaw Jehofa yn cefnogi Ei bobl yn ystod prawf. Mae’n debyg bod Esra yn byw ym Mabilon ym 484 COG pan wnaeth y Brenin Ahasferus ddedfrydu pob un Iddew i farwolaeth drwy ymerodraeth Persia. (Esth. 3:7, 13-15) Roedd bywyd Esra yn y fantol! Roedd yr Iddewon “drwy’r taleithiau i gyd” yn ymprydio a mwy na thebyg yn gweddïo ar Jehofa am arweiniad. (Esth. 4:3) Dychmyga sut byddai Esra a’r Iddewon eraill wedi teimlo wrth i Jehofa droi’r byrddau ar y rhai oedd yn cynllunio i ladd yr Iddewon! (Esth. 9:1, 2) Mae’n rhaid bod y profiadau hynny wedi paratoi Esra am broblemau eraill yn y dyfodol a chryfhau ei ffydd yng ngallu Jehofa i amddiffyn Ei bobl.d
14. Pa wers ddysgodd un chwaer pan deimlodd hi ofal Jehofa yn ystod amseroedd ansicr?
14 Pan welwn ni law Jehofa yn ein bywydau ni, mae ein hyder ynddo yn tyfu. Gad inni ystyried esiampl Anastasia sy’n byw yn Nwyrain Ewrop. Gwnaeth hi adael ei gwaith er mwyn cadw’n niwtral. Mae’n dweud: “Dyma’r tro cyntaf imi fod mewn sefyllfa lle nad oedd gen i geiniog. Gadewais y mater yn nwylo Jehofa a gweld ei law dyner yn gofalu amdana i. Os ydw i heb waith eto, fydda i ddim yn ofni. Os ydy fy nhad nefol yn gofalu amdana i heddiw, bydd yn gofalu amdana i fory hefyd.”
15. Beth helpodd Esra i gadw ei ffydd yn Jehofa yn gryf? (Esra 7:27, 28)
15 Gwelodd Esra law Jehofa yn ei fywyd ei hun. Mae’n rhaid bod Esra wedi edrych yn ôl ar ei fywyd a gweld llaw Jehofa yn gofalu amdano, ac roedd hynny’n ei gryfhau. Ystyria eiriau Esra: “Roedd llaw yr ARGLWYDD arna i.” (Darllen Esra 7:27, 28.) Defnyddiodd Esra eiriau tebyg sawl gwaith yn ei lyfr.—Esra 7:6, 9; 8:18, 22, 31.
Ym mha sefyllfaoedd ydyn ni’n fwy tebygol o weld llaw Jehofa yn ein bywyd? (Gweler paragraff 16)e
16. Ym mha sefyllfaoedd ydyn ni’n fwy tebygol o weld llaw Jehofa yn ein bywyd? (Gweler hefyd y llun.)
16 Gall Jehofa ein helpu pan ydyn ni’n wynebu heriau. Er enghraifft, os ydyn ni’n gofyn i’n cyflogwr am amser i ffwrdd i fynychu cynhadledd neu i addasu ein hamserlen er mwyn inni allu mynychu pob un cyfarfod, rydyn ni’n creu cyfle i weld llaw Jehofa yn ein bywydau. Efallai bydd y canlyniadau yn ein synnu ni. O ganlyniad, bydd ein hyder yn Jehofa yn tyfu.
Oherwydd pechodau’r bobl, mae Esra yn llefain ac yn gweddïo o flaen y deml. Mae’r dyrfa hefyd yn llefain. Yna, mae Shechaneia yn cysuro Esra drwy ddweud wrtho: “Mae gobaith i Israel er gwaetha’r cwbl. . . . Dŷn ni tu cefn i ti.”—Esra 10:2, 4 (Gweler paragraff 17)
17. Sut dangosodd Esra ostyngeiddrwydd yn ystod amseroedd anodd? (Gweler y llun ar y clawr.)
17 Trodd Esra yn ostyngedig at Jehofa am help. Bob tro roedd cyfrifoldebau Esra yn ei lethu, trodd yn ostyngedig at Jehofa. (Esra 8:21-23; 9:3-5) Roedd agwedd Esra yn effeithio ar eraill o’i gwmpas fel eu bod nhw’n efelychu ei ffydd. (Esra 10:1-4) Pan ydyn ni’n cael ein llethu â phryderon am ofalu am ein teulu, dylen ni droi at Jehofa mewn gweddi.
18. Beth all ein helpu ni i gael mwy o hyder yn Jehofa?
18 Os ydyn ni’n troi at Jehofa mewn gweddi ac yn derbyn help ein brodyr a’n chwiorydd, bydd ein hyder yn Jehofa yn tyfu. Ystyria esiampl Erika, mam o dri, oedd wedi cael colled enfawr. Mewn amser byr, collodd hi faban yn y groth yn ogystal â’i gŵr annwyl. O edrych yn ôl, mae’n dweud: “Dwyt ti ddim yn gwybod sut mae Jehofa am dy helpu di. Gall help ddod mewn ffyrdd annisgwyl. Rydw i wedi dysgu bod Jehofa yn ateb fy ngweddïau drwy weithredoedd a geiriau fy ffrindiau. Drwy siarad yn agored â fy ffrindiau, maen nhw’n gallu fy helpu i yn fwy.”
CADWA DY HYDER YN JEHOFA HYD AT Y DIWEDD
19-20. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r Iddewon a arhosodd ym Mabilon?
19 Gallwn ni ddysgu gwers bwysig hefyd o’r Iddewon nad oedd yn gallu mynd yn ôl i Jerwsalem. Efallai bod cyfrifoldebau teuluol, henaint, neu broblemau iechyd wedi rhwystro rhai. Ond roedden nhw’n dal yn barod i roi cefnogaeth faterol i’r Iddewon a oedd yn dychwelyd. (Esra 1:5, 6) Mae’n ymddangos bod tua 19 mlynedd ar ôl i’r grŵp cyntaf o Iddewon fynd yn ôl i Jerwsalem, roedd y rhai ym Mabilon yn dal yn gyrru rhoddion i’w brodyr yn Jerwsalem.—Sech. 6:10.
20 Hyd yn oed os ydyn ni meddwl nad ydyn ni’n gallu gwneud llawer i gefnogi gwasanaeth Duw, mae Jehofa yn dal yn gwerthfawrogi ein hymdrechion diffuant. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Yn adeg Sechareia, gofynnodd Jehofa i’w broffwyd wneud goron allan o’r aur ac arian a gafodd eu hanfon gan yr alltudion ym Mabilon. (Sech. 6:11) Byddai’r goron hon yn eu hatgoffa nhw ac eraill bod Jehofa yn gwerthfawrogi eu rhoddion. (Sech. 6:14) Gallwn ni fod yn hollol hyderus y bydd yn amhosib i Jehofa anghofio ein hymdrechion ni, yn enwedig yn ystod adegau ansicr.—Heb. 6:10.
21. Beth fydd yn ein helpu ni i wynebu’r dyfodol â hyder?
21 Rydyn ni’n siŵr o wynebu adegau ansicr iawn yn y dyfodol, ac efallai bydd pethau’n gwaethygu. (2 Tim. 3:1, 13) Ond, does dim rhaid inni gael ein llethu gan bryder. Cofia eiriau Jehofa yn ystod adeg Haggai: “Dw i gyda chi . . . Peidiwch bod ag ofn!” (Hag. 2:4, 5) Gallwn ninnau hefyd fod yn siŵr bydd Jehofa yn ein helpu ni os ydyn ni’n dal ati i wneud ei ewyllys. Bydd y gwersi o esiampl Esra a phroffwydoliaethau Haggai a Sechareia yn ein helpu ni i gadw ein hyder yn Jehofa, ni waeth pa mor ddrwg fydd pethau yn y dyfodol.
CÂN 122 Safwch yn Gadarn!
a Mae’r erthygl hon wedi ei dylunio i’n helpu ni i gryfhau ein hyder yn Jehofa pan ydyn ni’n wynebu problemau economaidd, amgylchiadau gwleidyddol ansefydlog, neu wrthwynebiad i’n gwaith o bregethu.
b Yn yr iaith wreiddiol, mae’r ymadrodd “Jehofa y lluoedd” yn ymddangos 14 o weithiau yn llyfr Haggai. Roedd hyn yn atgoffa’r Iddewon bod gan Jehofa nerth di-ben-draw a bod ganddo fyddinoedd enfawr o ysbryd greaduriaid o dan ei rym.—Salm 103:20, 21.
c Newidiwyd rhai enwau.
d Drwy gopïo Gair Duw yn fanwl, roedd Esra wedi cryfhau ei hyder ym mhroffwydoliaethau Jehofa cyn iddo deithio i Jerwsalem.—2 Cron. 36:22, 23; Esra 7:6, 9, 10; Jer. 29:14.
e DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd yn gofyn i’w gyflogwr am amser i ffwrdd i fynychu cynhadledd ond mae’r bòs yn dweud na. Mae’n gweddïo am help ac arweiniad cyn iddo fynd i ofyn eto. Mae’n dangos gwahoddiad y gynhadledd i’w bòs ac yn esbonio pa mor werthfawr ydy addysg ddwyfol. Mae hyn yn cael argraff dda ar y bòs ac mae’n ailfeddwl ei benderfyniad.