ERTHYGL ASTUDIO 17
CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd
Paid Byth â Gadael y Baradwys Ysbrydol
“Dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i’n mynd i’w greu.”—ESEI. 65:18.
PWRPAS
Dysga sut mae’r baradwys ysbrydol o les inni, a beth gallwn ni ei wneud i ddenu eraill ati.
1. Beth ydy’r baradwys ysbrydol, a beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?
MAE ’na baradwys ar y ddaear nawr sy’n llawn o weithredoedd da a phobl sy’n mwynhau gwir heddwch. Mae’r rhai sy’n rhan o’r baradwys hon yn benderfynol o beidio â’i gadael, ac maen nhw eisiau i gymaint o bobl â phosib ymuno â nhw. Beth rydyn ni’n sôn amdano? Y baradwys ysbrydol!a
2. Beth sy’n wyrthiol am y baradwys ysbrydol?
2 Mewn ffordd wyrthiol, mae Jehofa wedi creu awyrgylch heddychlon i’w bobl, er eu bod nhw’n byw yng nghanol byd peryglus Satan sy’n llawn casineb. (1 Ioan 5:19; Dat. 12:12) Mae ein Tad cariadus yn gweld yr effaith niweidiol mae’r system hon yn ei chael arnon ni, ac felly mae’n rhoi’r diogelwch sydd ei angen arnon ni er mwyn inni ffynnu’n ysbrydol. Mae ei Air yn disgrifio’r baradwys ysbrydol fel “lloches” a “gardd wedi ei dyfrio.” (Esei. 4:6; 58:11) Gyda help Jehofa, mae’r rhai sy’n byw yn y baradwys ysbrydol yn teimlo’n hapus ac yn saff yn ystod y dyddiau olaf anodd hyn.—Esei. 54:14; 2 Tim. 3:1.
3. Beth oedd cyflawniad cyntaf Eseia pennod 65?
3 Gan ddefnyddio’r proffwyd Eseia, disgrifiodd Jehofa sut byddai bywyd yn y baradwys ysbrydol. Mae Eseia pennod 65 yn disgrifio cyflawniad cynta’r broffwydoliaeth a ddigwyddodd ym 537 COG. Dyna pryd cafodd yr Iddewon edifar eu rhyddhau o gaethiwed ym Mabilon a mynd yn ôl i’w mamwlad. Gwnaeth Jehofa fendithio ei bobl a’u helpu nhw i droi adfeilion Jerwsalem yn hardd eto ac adfer ei deml fel canolfan gwir addoliad yn Israel.—Esei. 51:11; Sech. 8:3.
4. Sut cafodd proffwydoliaeth Eseia pennod 65 ei chyflawni yn yr oes fodern?
4 Dechreuodd ail gyflawniad proffwydoliaeth Eseia ym 1919 OG, pan gafodd addolwyr Jehofa eu rhyddhau o Fabilon Fawr. Yna, gwnaeth y baradwys ysbrydol ddechrau lledaenu dros y byd. Dechreuodd pregethwyr selog ffurfio cynulleidfaoedd a meithrin rhinweddau Cristnogol. Gwnaeth dynion a merched a oedd wedi byw bywydau anfoesol a threisgar ddechrau gwisgo’r “bersonoliaeth newydd a gafodd ei chreu yn unol ag ewyllys Duw.” (Eff. 4:24) Wrth gwrs, bydd llawer o’r bendithion roedd Eseia yn eu disgrifio ond yn cael eu cyflawni yn y byd newydd. Ond, mae byw yn y baradwys ysbrydol yn ein helpu ni hyd yn oed nawr. Gad inni weld sut mae’r baradwys ysbrydol yn effeithio arnon ni, a pham ddylen ni byth ei gadael.
CYFLWR Y RHAI YN Y BARADWYS YSBRYDOL
5. Yn unol ag Eseia 65:13, beth rydyn ni’n ei fwynhau y tu fewn i’r baradwys ysbrydol?
5 Rydyn ni’n iach, ac wedi ein hadfywio. Mae proffwydoliaeth Eseia yn dangos y gwahaniaeth mawr rhwng bywyd i’r rhai yn y baradwys ysbrydol a bywyd i’r rhai y tu allan iddi. (Darllen Eseia 65:13.) Mae Jehofa’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni i aros yn agos ato. Mae gynnon ni ysbryd glân Jehofa, ei Air ysgrifenedig, a digonedd o fwyd ysbrydol er mwyn inni allu “bwyta,” “yfed,” a bod “yn llawen.” (Cymhara Datguddiad 22:17.) Ar y llaw arall, mae’r rhai sydd y tu allan i’r baradwys ysbrydol yn “llwgu,” yn “sychedu,” ac yn cael eu “cywilyddio.” Dydy eu hanghenion ysbrydol ddim yn cael eu bodloni.—Amos 8:11.
6. Sut mae Joel 2:21-24 yn disgrifio’r pethau mae Jehofa’n eu rhoi inni, a sut rydyn ni’n elwa ohonyn nhw?
6 Yn ei broffwydoliaeth, defnyddiodd Joel bethau angenrheidiol ar gyfer bywyd fel ŷd, grawnwin, ac olew olewydd, i ddangos bod Jehofa’n rhoi popeth sydd ei angen ar ei bobl, gan gynnwys bwyd ysbrydol. (Joel 2:21-24) Mae ef yn gwneud hyn gan ddefnyddio’r Beibl, ein cyhoeddiadau, ein gwefan, yn ogystal â’n cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau. Gallwn ni fanteisio ar y bwyd ysbrydol hwn bob dydd, ac o ganlyniad, teimlo’n iachach ac wedi ein hadfywio.
7. Pam gallwn ni fod yn hapus? (Eseia 65:14)
7 Rydyn ni’n hapus ac yn fodlon. Mae diolchgarwch yn gwneud i bobl Dduw ‘ganu’n braf.’ (Darllen Eseia 65:14.) Mae’r gwirioneddau ac addewidion cadarnhaol yng Ngair Duw ynghyd â’n gobaith sy’n seiliedig ar aberth Iesu yn ein gwneud ni’n hapus. Mae siarad am y pethau hyn gyda’n brodyr a’n chwiorydd ysbrydol yn wir yn ein gwneud ni’n hapus!—Salm 34:8; 133:1-3.
8. Pa ddau beth sy’n bwysig iawn yn y baradwys ysbrydol?
8 Mae’r cariad a’r undod ymysg pobl Jehofa yn bwysig iawn yn y baradwys ysbrydol. Mae’r baradwys ysbrydol yn “uno pobl yn berffaith” ac yn rhoi rhagflas o fywyd yn y byd newydd lle bydd gweision Jehofa yn mwynhau mwy o gariad ac undod nag erioed o’r blaen. (Col. 3:14) Mae un o’n chwiorydd yn disgrifio beth gwnaeth ei tharo hi’n gyntaf am bobl Jehofa: “Doeddwn i ddim yn gwybod sut i fod yn hapus, ddim hyd yn oed yn fy nheulu. Y tro cyntaf imi weld cariad ar waith oedd ymysg Tystion Jehofa.” Er mwyn bod yn wirioneddol hapus a bodlon, mae’n rhaid bod yn rhan o’r baradwys ysbrydol. Ni waeth beth mae’r byd yn ei feddwl amdanyn nhw, mae gan holl weision Jehofa enw da ymysg ei gilydd.—Esei. 65:15.
9. Beth mae Eseia 65:16, 17 yn ei addo am y pethau sy’n achosi poen a dioddefaint?
9 Rydyn ni’n teimlo’n ddistaw ac yn llonydd. Mae Eseia 65:14 yn dweud bod y rhai sy’n dewis aros y tu allan i’r baradwys ysbrydol yn “wylo mewn poen, ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.” Ond beth am yr holl bethau sydd wedi achosi poen a dioddefaint i bobl Dduw? Yn y pen draw bydd y pethau hynny “wedi eu hanghofio” ac “wedi eu cuddio” o olwg Duw. (Darllen Eseia 65:16, 17.) Bydd Jehofa’n gwneud i’n problemau a’r boen maen nhw’n ei hachosi i ddiflannu’n gyfan gwbl.
10. Pam mae’n fendith i dreulio amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd Cristnogol? (Gweler hefyd y llun.)
10 Hyd yn oed nawr, mae ein cyfarfodydd yn creu awyrgylch heddychlon lle gallwn ni gael llonydd o helyntion y byd drygionus hwn. Rydyn ni’n cyfrannu at yr awyrgylch ysbrydol hwn drwy ddangos rhinweddau fel cariad, llawenydd, heddwch, caredigrwydd, ac addfwynder, sy’n cael eu cynnwys yn ffrwyth ysbryd Duw. (Gal. 5:22, 23) Mae’n fendith inni fod yn rhan o gyfundrefn Duw! Bydd y rhai sy’n aros yn y baradwys ysbrydol yn gweld addewid Duw am “nefoedd newydd a daear newydd” yn cael ei gyflawni’n llawn.
Mae’n fendith i fwynhau’r baradwys ysbrydol fel rhan o deulu Duw (Gweler paragraff 10)c
11. Yn ôl Eseia 65:18, 19, sut dylai’r baradwys ysbrydol effeithio arnon ni?
11 Rydyn ni’n teimlo’n ddiolchgar ac yn gyffrous. Mae Eseia yn mynd ymlaen i esbonio pam mae’r baradwys ysbrydol yn rhoi pob rheswm inni ‘ddathlu a mwynhau.’ Mae’r awyrgylch hwn wedi ei greu gan Jehofa. (Darllen Eseia 65:18, 19.) Does dim syndod bod Jehofa’n ein defnyddio ni i ddenu pobl o ddiffeithwch ysbrydol y byd i mewn i baradwys ysbrydol brydferth! Mae’r bendithion rydyn ni’n eu mwynhau yn gyffrous! Rydyn ni’n mwynhau bod yn y gwir ac eisiau dweud wrth eraill amdano.—Jer. 31:12.
12. Sut mae’r addewidion yn Eseia 65:20-24 yn gwneud iti deimlo, a pham?
12 Am ein bod ni’n byw yn y baradwys ysbrydol, rydyn ni hefyd yn ddiolchgar oherwydd y gobaith cyffrous sydd gynnon ni. Dychmyga’r byd newydd a phopeth byddwn ni’n ei wneud yno! Mae’r Beibl yn addo: “Fydd babis bach ddim yn marw’n ifanc, na phobl mewn oed yn marw’n gynnar.” Byddwn ni’n “adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw” ac yn “plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth.” Fyddwn ni “ddim yn gweithio’n galed i ddim byd” oherwydd byddwn ni wedi cael ein bendithio gan Jehofa. Mae’n addo bywyd ystyrlon inni, lle byddwn ni’n saff ac yn hapus. Bydd Jehofa’n rhoi i bob creadur byw yr hyn sydd ei angen arnyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed alw arno.—Esei. 65:20-24; Salm 145:16.
13. Sut mae Eseia 65:25 yn disgrifio’r newidiadau mae pobl yn eu gwneud wrth ddechrau addoli Jehofa?
13 Rydyn ni’n teimlo heddwch a diogelwch. Gyda help ysbryd Duw, mae llawer o bobl anifeilaidd wedi gwneud newidiadau anferth yn eu bywydau. (Darllen Eseia 65:25.) Maen nhw wedi gweithio’n galed i gael gwared ar nodweddion negyddol. (Rhuf. 12:2; Eff. 4:22-24) Wrth gwrs, mae pobl Dduw yn amherffaith ac rydyn ni’n dal i wneud camgymeriadau. Mae Duw wedi uno ‘pobl o bob math’ gyda chariad a heddwch. (Titus 2:11) Dim ond y Duw hollalluog a fyddai’n gallu gwneud rhywbeth mor wyrthiol!
14. Sut mae Eseia 65:25 wedi ei brofi’n wir yn achos un brawd ifanc?
14 Ydy rhywun yn wir yn gallu newid ei bersonoliaeth? Ystyria brofiad un dyn ifanc. Cyn iddo droi yn 20 oed, roedd wedi bod i mewn ac allan o’r carchar sawl gwaith ac yn byw bywyd anfoesol a threisgar. Roedd wedi cael ei garcharu am ddwyn ceir, am ladrata, ac am droseddau difrifol eraill. Roedd yn barod i ymladd ag unrhyw un. Pan ddechreuodd ddysgu’r gwir o’r Beibl a mynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa, roedd yn gwybod ei fod wedi dod o hyd i bwrpas mewn bywyd—y baradwys ysbrydol. Ar ôl gael ei fedyddio fel Tyst, roedd yn meddwl yn aml am sut roedd Eseia 65:25 wedi dod yn wir yn ei achos ef. Roedd wedi newid o ymddwyn yn wyllt fel llew i fod yn heddychlon fel oen.
15. Pam rydyn ni eisiau i eraill ymuno â ni yn y baradwys ysbrydol, a sut gallwn ni eu helpu nhw i wneud hynny?
15 Y Sofran Arglwydd Jehofa sy’n siarad yn Eseia 65, ac mae ei eiriau yn dod yn wir bob tro. (Esei. 55:10, 11) Mae’r baradwys ysbrydol yn bodoli yn barod. Mae Jehofa wedi creu brawdoliaeth sy’n unigryw. Pan ydyn ni ymysg pobl Dduw, mae fel ein bod ni mewn cilfach o heddwch yng nghanol byd treisgar. (Salm 72:7) Dyna pam rydyn ni eisiau helpu cymaint o bobl â phosib i ymuno â’n brawdoliaeth Gristnogol. Gallwn ni wneud hyn drwy ganolbwyntio ar wneud disgyblion.—Math. 28:19, 20.
SUT I DDENU ERAILL I’R BARADWYS YSBRYDOL
16. Sut mae pobl yn cael eu denu i’r baradwys ysbrydol?
16 Gall pob un ohonon ni helpu i wneud y baradwys ysbrydol yn ddeniadol i eraill. Rydyn ni’n gallu gwneud hyn drwy efelychu Jehofa. Mae Duw’n denu pobl yn garedig i’w gyfundrefn, heb eu gorfodi nhw yn erbyn eu hewyllys. (Ioan 6:44) Wrth i bobl sydd â’r agwedd gywir ddysgu am rinweddau cariadus Jehofa, allan nhw ddim peidio â chael eu denu’n naturiol ato. Sut gall ein rhinweddau da a’n hymddygiad helpu eraill i ddod i mewn i’r baradwys ysbrydol?
17. Sut gallwn ni ddenu eraill i’r baradwys ysbrydol?
17 Mae trin ein cyd-addolwyr yn garedig hefyd yn denu pobl at y baradwys ysbrydol. Er enghraifft, gwnaeth anghredinwyr a aeth i’r cyfarfodydd yng Nghorinth gynt ddweud: “Mae Duw yn wir yn eich plith chi.” (1 Cor. 14:24, 25; Sech. 8:23) Rydyn ni eisiau i rai newydd sy’n dechrau dod i’n cyfarfodydd ni ddod i’r un casgliad â nhw. Felly, er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni ddal ati i ddilyn y cyngor: “Byddwch yn heddychlon tuag at eich gilydd.”—1 Thes. 5:13.
18. Beth all ddenu pobl at ein cyfundrefn?
18 Dylen ni geisio gweld ein brodyr a’n chwiorydd fel y mae Jehofa’n ei gweld nhw. Gallwn ni wneud hyn drwy ganolbwyntio ar eu rhinweddau da, yn hytrach nag ar eu hamherffeithion a fydd yn diflannu yn y pen draw. Gallwn ni ddatrys unrhyw broblemau rhyngon ni mewn ffordd gariadus, drwy fod “yn garedig . . . , yn dosturiol iawn, heb ddal yn ôl rhag maddau.” (Eff. 4:32) Bydd hyn yn denu pobl sydd eisiau cael eu trin yn y ffordd hon at y baradwys ysbrydol.b
ARHOSA Y TU MEWN I’R BARADWYS YSBRYDOL
19. (a) Beth mae rhai wedi ei ddweud ar ôl dod yn ôl i’r baradwys ysbrydol? (Gweler y blwch “Gwnaethon Nhw Adael a Dod yn ôl i Jehofa”) (b) Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud? (Gweler hefyd y llun.)
19 Rydyn ni mor ddiolchgar am ein paradwys ysbrydol! Mae’n fwy prydferth nag erioed, ac mae ’na fwy o bobl nag erioed yn addoli Jehofa. Byddwn ni eisiau diolch i Jehofa am y baradwys hon am byth. Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau mwynhau bendithion y baradwys hon ddod i mewn iddi a byth ei gadael. Ond, mae Satan yn gwneud ei orau i’n tynnu ni allan ohoni, felly mae’n rhaid inni fod yn ofalus. (1 Pedr 5:8; Dat. 12:9) Paid â gadael iddo lwyddo! Gad inni weithio’n galed i amddiffyn prydferthwch, purdeb, a heddwch ein paradwys ysbrydol.
Bydd y rhai sy’n aros yn y baradwys ysbrydol hefyd yn mwynhau paradwys ddaearol yn y dyfodol (Gweler paragraff 19)
SUT BYDDET TI’N ATEB?
Beth ydy’r baradwys ysbrydol?
Pa fendithion rydyn ni’n eu mwynhau yn y baradwys ysbrydol?
Sut gallwn ni ddenu eraill at y baradwys ysbrydol?
CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!
a ESBONIAD: Mae’r term “paradwys ysbrydol” yn disgrifio’r awyrgylch sy’n cael ei fwynhau gan y rhai sy’n addoli Jehofa. Yn y baradwys ysbrydol hon, rydyn ni’n mwynhau perthynas heddychlon â Jehofa a gyda’n gilydd.
b Gweler y fideo ar jw.org Ble Maen Nhw Heddiw? Alena Žitníková: Sut Daeth Fy Mreuddwyd yn Wir, i weld sut cafodd un o’n chwiorydd ei bendithio o ganlyniad i fod yn y baradwys ysbrydol.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae un brawd yn ynysu ei hun tra bod eraill yn elwa o gymdeithasu yn ystod cyfarfod.