ERTHYGL ASTUDIO 18
CÂN 65 Bwria Ymlaen!
Frodyr Ifanc—Efelychwch Marc a Timotheus
“Tyrd â Marc gyda ti, oherwydd mae ef yn help mawr imi yn y weinidogaeth.”—2 TIM. 4:11.
PWRPAS
Sut gall esiamplau Marc a Timotheus helpu brodyr ifanc i feithrin rhinweddau angenrheidiol i wasanaethu eraill yn fwy.
1-2. Pa heriau a fyddai wedi gallu stopio Marc a Timotheus rhag gwasanaethu eraill yn fwy?
OS WYT ti’n frawd ifanc, a wyt ti eisiau gwneud mwy yn dy wasanaeth i Jehofa a helpu eraill yn y gynulleidfa? Wrth gwrs dy fod ti. Mae mor galonogol i weld cymaint o ddynion ifanc sy’n barod i wasanaethu eraill! (Salm 110:3) Ond efallai bydd hi’n anodd iti wneud mwy. A wyt ti’n dal yn ôl rhag gwneud mwy yn y weinidogaeth oherwydd ofn beth fydd o dy flaen di? A wyt ti erioed wedi gwrthod derbyn aseiniad oherwydd diffyg hyder? Os felly, dwyt ti ddim yr unig un i deimlo fel hyn.
2 Gwnaeth Marc a Timotheus wynebu heriau tebyg. Ond, ni wnaethon nhw adael i ofn beth oedd o’u blaenau nhw na’u diffyg profiad eu stopio nhw rhag gwasanaethu eraill. Mae’n bosib bod Marc yn byw gyda’i fam mewn tŷ cyfforddus pan gafodd ei wahodd i deithio gyda’r apostol Paul a Barnabas ar eu taith genhadol gyntaf. (Act. 12:12, 13, 25) Gadawodd Marc ei gartref gyfforddus i ehangu ei weinidogaeth. Yn gyntaf, symudodd i Antiochia. Yna, fe aeth gyda Paul a Barnabas i lefydd eraill, pell i ffwrdd. (Act. 13:1-5) Mae’n debyg bod Timotheus hefyd yn byw gyda’i rieni pan gafodd ei wahodd gan Paul i ymuno ag ef yn y gwaith pregethu. Am ei fod yn ifanc ac yn ddibrofiad, gallai Timotheus fod wedi gadael i ddiffyg hyder ei ddal yn ôl. (Cymhara 1 Corinthiaid 16:10, 11 a 1 Timotheus 4:12.) Ond, fe dderbyniodd wahoddiad Paul a chafodd y cyfle i fwynhau lawer o fendithion o ganlyniad.—Act. 16:3-5.
3. (a) Beth roedd Paul yn ei werthfawrogi am Marc a Timotheus? (2 Timotheus 4:6, 9, 11) (Gweler hefyd y lluniau.) (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?
3 Pan oedden nhw’n ifanc, gwnaeth Marc a Timotheus ennill profiad gwerthfawr a dysgu i ysgwyddo cyfrifoldebau mawr. Roedd Paul yn meddwl cymaint o’r ddau ddyn ifanc hwn nes iddo ofyn iddyn nhw fod wrth ei ochr pan oedd yn gwybod roedd am farw yn fuan. (Darllen 2 Timotheus 4:6, 9, 11.) Pam roedd Paul yn teimlo fel hyn am Marc a Timotheus? Sut gall brodyr ifanc efelychu eu hagwedd nhw? A sut gall dynion ifanc elwa o gyngor cariadus Paul?
Roedd Paul yn hoff iawn o Marc a Timotheus oherwydd eu bod nhw wedi ysgwyddo cyfrifoldeb pan oedden nhw’n ifanc (Gweler paragraff 3)b
EFELYCHA MARC—BYDDA’N BAROD I WASANAETHU
4-5. Sut dangosodd Marc ei fod yn barod i wasanaethu eraill?
4 Gall gwasanaethu neu weini ar eraill olygu gweithio’n galed i’w helpu a pharhau i’w helpu hyd yn oed pan mae’n anodd gwneud hynny. Roedd Marc yn esiampl dda o hyn. Pan wrthododd Paul ei gymryd gydag ef ar ei ail daith genhadol, mae’n debyg bod hynny wedi brifo a siomi Marc. (Act. 15:37, 38) Ond ni wnaeth hyn stopio Marc rhag gwasanaethu ei frodyr a’i chwiorydd.
5 Derbyniodd Marc aseiniad gyda’i gefnder Barnabas. Tua 11 o flynyddoedd yn nes ymlaen, roedd Marc yn un o’r rhai a wnaeth gefnogi Paul y tro cyntaf iddo gael ei garcharu yn Rhufain. (Philem. 23, 24) Roedd Paul yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth cymaint nes iddo ddweud bod Marc “yn gysur mawr” iddo.—Col. 4:10, 11.
6. Sut gwnaeth Marc elwa o gymdeithasu â Christnogion aeddfed? (Gweler y troednodyn.)
6 Cafodd Marc lawer o brofiadau da o ganlyniad i’r amser roedd yn treulio gyda Christnogion aeddfed. Ar ôl treulio amser gyda Paul yn Rhufain, aeth Marc i Fabilon i weithio gyda Pedr. Datblygon nhw berthynas mor agos nes bod Pedr yn ei alw “Marc, fy mab.” (1 Pedr 5:13) Wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd, mae’n debyg bod Pedr wedi rhannu gyda’i ffrind ifanc llawer o fanylion am fywyd Iesu a’i weinidogaeth. Yn nes ymlaen, gwnaeth Marc cynnwys y rhain yn ei Efengyl.a
7. Sut gwnaeth brawd ifanc o’r enw Seung-Woo efelychu esiampl Marc? (Gweler hefyd y llun.)
7 Arhosodd Marc yn brysur yn ei wasanaeth ac fe arhosodd yn agos at frodyr profiadol. Sut gelli di efelychu Marc? Os wyt ti erioed wedi colli allan ar fraint, bydda’n amyneddgar gyda ti dy hun ac edrycha am ffyrdd eraill i wasanaethu Jehofa a’r gynulleidfa. Ystyria brofiad Seung-Woo, sydd nawr yn gwasanaethu fel henuriad. Pan oedd yn ifanc, roedd yn cymharu ei hun â brodyr ifanc eraill. Gwnaeth rhai ohonyn nhw dderbyn breintiau cyn iddo ef eu cael nhw. Roedd Seung-Woo yn teimlo fel bod yr henuriaid wedi anghofio amdano ac yn y pen draw fe ddywedodd wrthyn nhw sut roedd yn teimlo. Awgrymodd un henuriad y dylai ef wneud popeth o fewn ei allu i wasanaethu eraill hyd yn oed os nad oedd eraill yn sylwi arno. Yn dilyn y cyngor hwnnw, gwnaeth Seung-Woo gynnig cymorth i’r rhai hŷn a’r rhai a oedd angen help i gyrraedd y cyfarfodydd. Wrth edrych yn ôl, mae’n dweud: “Dechreuais ddeall beth roedd yn wir yn ei olygu i wasanaethu eraill yn fwy. Cefais hyd i’r hapusrwydd sy’n dod o roi help ymarferol i eraill.”
Sut mae brodyr ifanc yn elwa o gymdeithasu’n aml â brodyr profiadol? (Gweler paragraff 7)
EFELYCHA TIMOTHEUS—DANGOSA GARIAD AT ERAILL
8. Pam gwnaeth Paul ddewis Timotheus i deithio gydag ef? (Philipiaid 2:19-22)
8 Roedd angen i Paul gael brodyr dewr wrth ei ochr pan aeth yn ôl i ddinasoedd lle roedd wedi profi gwrthwynebiad. Yn gyntaf, fe ddewisodd Cristion profiadol o’r enw Silas i fynd gydag ef. (Act. 15:22, 40) Yn nes ymlaen, fe wnaeth Paul hefyd ddewis Timotheus i ymuno ag ef. Pam Timotheus? Am un peth, roedd ganddo enw da ymysg y brodyr. (Act. 16:1, 2) Roedd hefyd yn wir yn dangos cariad at eraill.—Darllen Philipiaid 2:19-22.
9. Sut dangosodd Timotheus ei fod yn wir yn gofalu am ei frodyr a’i chwiorydd?
9 O’r adeg pan ddechreuodd ei weinidogaeth gyda Paul, dangosodd Timotheus ei fod yn gofalu mwy am eraill nag amdano’i hun. Am y rheswm hwnnw, roedd Paul yn hapus i’w adael yn Berea i annog y disgyblion newydd yno. (Act. 17:13, 14) Mae’n rhaid bod Timotheus wedi elwa o esiampl Silas a arhosodd yn Berea hefyd. Ond yn nes ymlaen, fe wnaeth Paul anfon Timotheus ar ei ben ei hun i Thesalonica i gryfhau’r Cristnogion yn y ddinas honno. (1 Thes. 3:2, tdn.) Dros y 15 mlynedd nesaf, dysgodd Timotheus i ‘grio gyda’r rhai sy’n drist’ a chydymdeimlo â’r rhai a oedd yn dioddef. (Rhuf. 12:15; 2 Tim. 1:4) Sut gall brodyr ifanc efelychu Timotheus?
10. Sut gwnaeth brawd o’r enw Woo Jae ddysgu i ddangos diddordeb personol mewn eraill?
10 Gwnaeth brawd o’r enw Woo Jae ddysgu i ddangos diddordeb personol mewn eraill. Pan oedd yn oedolyn ifanc, roedd yn anodd iddo sgwrsio â brodyr a chwiorydd hŷn. Felly pan oedd yn eu gweld nhw yn y Neuadd, roedd yn eu cyfarch nhw ond yna’n cerdded i ffwrdd. Gwnaeth henuriad awgrymu y dylai Woo Jae ddechrau sgyrsiau drwy ddweud wrth ei gyd-addolwyr beth roedd yn ei hoffi amdanyn nhw. Gwnaeth yr henuriad hefyd ei annog i feddwl am beth fyddai o ddiddordeb i’r person arall. Dilynodd Woo Jae y cyngor hwn. Mae Woo Jae, sydd nawr yn henuriad, yn dweud: “Erbyn hyn, mae’n haws imi sgwrsio â phobl o wahanol oedrannau. Mae deall amgylchiadau pobl eraill yn well yn fy ngwneud i’n hapus dros ben. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth imi helpu fy mrodyr a chwiorydd.”
11. Sut gall brodyr ifanc ddatblygu diddordeb personol mewn eraill yn y gynulleidfa? (Gweler hefyd y llun.)
11 Os wyt ti’n frawd ifanc, gelli di hefyd ddysgu i ddangos diddordeb personol mewn eraill. Yn y cyfarfodydd, rho sylw i bobl o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol. Gofynna iddyn nhw sut mae pethau’n mynd, ac yna gwranda arnyn nhw. Mewn amser, efallai byddi di’n gweld sut gelli di eu helpu nhw. Efallai byddi di’n gweld bod cwpl hŷn angen help i ddefnyddio’r ap JW Library®. Neu efallai byddi di’n dysgu nad ydyn nhw wedi trefnu i weithio gydag unrhyw un yn y weinidogaeth. A elli di eu helpu nhw gyda’i dyfeisiau electronig neu drefnu i weithio â nhw yn y weinidogaeth? Drwy gymryd y cam cyntaf i helpu eraill, byddi di’n gosod esiampl dda i bawb.
Gall brodyr ifanc helpu’r gynulleidfa mewn llawer o ffyrdd ymarferol (Gweler paragraff 11)
ELWA O GYNGOR CARIADUS PAUL
12. Sut gall cyngor Paul i Timotheus helpu brodyr ifanc?
12 Rhoddodd Paul gyngor ymarferol i Timotheus i’w helpu i fod yn llwyddiannus yn ei fywyd a’i weinidogaeth. (1 Tim. 1:18; 2 Tim. 4:5) Gelli di, fel brawd ifanc, hefyd elwa o gyngor cariadus Paul. Sut? Darllena ddau lythyr Paul i Timotheus fel petasen nhw wedi eu hysgrifennu i ti, a chwilia am gyngor gelli di ei roi ar waith yn dy fywyd. Ystyria rai enghreifftiau.
13. Beth fydd yn dy helpu di i fod yn fwy ffyddlon i Jehofa?
13 “Hyffordda dy hun gan osod y nod o ddangos defosiwn duwiol.” (1 Tim. 4:7b) Beth ydy defosiwn Duwiol? Mae’n golygu bod person yn ffyddlon i Jehofa ac yn gwneud beth sy’n ei blesio. Gan nad ydyn ni’n cael ein geni â’r rhinwedd hon, mae’n rhaid inni ei meithrin. Sut? Roedd y gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “hyffordda dy hun” yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gwaith caled roedd athletwyr yn gorfod ei wneud i baratoi ar gyfer cystadleuaeth. Roedd rhaid i’r athletwyr hyn ddisgyblu eu hunain. Mae’n rhaid inni hefyd gael hunanddisgyblaeth er mwyn datblygu arferion a fydd yn ein helpu ni i nesáu at Jehofa.
14. Beth dylen ni geisio ei wneud wrth ddarllen y Beibl? Eglura.
14 Wrth iti ddatblygu’r arfer o ddarllen y Beibl, cofia dy fod ti’n ceisio nesáu at Jehofa. Er enghraifft, beth gelli di ei ddysgu o hanes Iesu a’r dyn cyfoethog ifanc? (Marc 10:17-22) Roedd y dyn ifanc yn credu mai Iesu oedd y Meseia ond nad oedd ganddo ddigon o ffydd i’w ddilyn. Er hynny, roedd Iesu’n ‘teimlo cariad tuag ato.’ Onid ydy’r ffordd siaradodd Iesu â’r dyn yn cyffwrdd dy galon? Mae’n amlwg bod Iesu eisiau iddo wneud penderfyniad doeth. Roedd Iesu hefyd yn adlewyrchu cariad Jehofa tuag at y dyn ifanc. (Ioan 14:9) Wrth iti feddwl am yr hanes hwn a dy amgylchiadau, gofynna i ti dy hun, ‘Beth mae’n rhaid imi ei wneud i agosáu at Jehofa ac i wasanaethu eraill yn fwy?’
15. Pam dylai brawd ifanc feddwl am yr esiampl y mae’n ei gosod? Eglura. (1 Timotheus 4:12, 13)
15 “Bydda’n esiampl i’r rhai ffyddlon.” (Darllen 1 Timotheus 4:12, 13.) Gwnaeth Paul annog Timotheus i ddysgu sut i ddarllen yn dda ac i fod yn athro da, ond roedd Paul hefyd eisiau iddo ddatblygu rhinweddau da fel cariad, ffydd, a phurdeb. Pam? Mae esiampl dda yn dweud mwy na geiriau. Dychmyga dy fod ti’n cael dy aseinio i roi anerchiad am sut i fod yn fwy selog yn y weinidogaeth. Byddi di’n teimlo’n fwy hyderus i siarad am y pwnc os wyt ti’n gwneud dy orau glas yn y weinidogaeth. Bydd dy wrandawyr yn fwy tebygol o ddilyn y cyngor os wyt ti’n gosod esiampl dda.—1 Tim. 3:13.
16. (a) Ym mha bum ffordd gall brodyr ifanc osod esiampl dda? (b) Sut gall brawd ifanc osod esiampl dda ‘yn ei eiriau’?
16 Fel mae 1 Timotheus 4:12 yn dangos, mae Paul yn sôn am bum ffordd y gall brawd ifanc osod esiampl dda. Fel prosiect astudio, beth am fyfyrio ar bob un ohonyn nhw? Er enghraifft, os wyt ti eisiau gosod esiampl “yn dy eiriau,” meddylia am ffyrdd gelli di siarad mewn ffordd adeiladol. Os wyt ti’n dal i fyw gartref gyda dy rieni, a elli di ddweud diolch yn fwy aml am beth maen nhw’n ei wneud ar dy gyfer di? Ar ôl y cyfarfodydd, a elli di ddweud wrth rywun beth roeddet ti’n hoffi am ei ran? Gelli di hefyd geisio ateb yn dy eiriau dy hun yn y cyfarfodydd. Bydd dy ymdrechion i osod esiampl dda yn dy eiriau yn dangos dy fod ti’n gwneud cynnydd ysbrydol.—1 Tim. 4:15.
17. Beth fydd yn helpu brawd ifanc i gyrraedd ei amcanion ysbrydol? (2 Timotheus 2:22)
17 “Ffoi rhag chwantau sy’n naturiol i bobl ifanc, ond ceisia gyfiawnder.” (Darllen 2 Timotheus 2:22.) Gwnaeth Paul annog Timotheus i frwydro yn erbyn chwantau a allai fod wedi tynnu ei sylw oddi ar ei amcanion ysbrydol a niweidio ei berthynas â Jehofa. Efallai byddi di hefyd yn sylwi bod gen ti lai o amser i wneud pethau ysbrydol oherwydd dy fod ti’n treulio gormod o amser yn gwneud pethau eraill. Er enghraifft, meddylia am faint o amser rwyt ti’n treulio yn cymryd rhan mewn chwaraeon, yn pori’r we, neu’n chwarae gemau fideo. A elli di ddefnyddio tipyn o’r amser hwnnw ar gyfer gweithgareddau theocrataidd? Efallai gelli di gynnig helpu i wneud gwaith cynnal a chadw ar y Neuadd y Deyrnas leol neu gymryd rhan yn y gwaith o dystiolaethu’n gyhoeddus. Os wyt ti’n gwneud pethau felly, mae’n debyg byddi di’n gwneud ffrindiau newydd a fydd yn dy helpu di i osod a chyrraedd amcanion ysbrydol.
MAE GWASANAETHU ERAILL YN DOD Â BENDITHION
18. Pam gallwn ni ddweud bod Marc a Timotheus wedi mwynhau bywydau hapus a chyffrous?
18 Roedd rhaid i Marc a Timotheus wneud aberthau er mwyn gwasanaethu eraill yn fwy, ac o ganlyniad roedden nhw’n mwynhau bywydau hapus a chyffrous. (Act. 20:35) Er mwyn gwasanaethu ei gyd-gredinwyr, gwnaeth Marc deithio i wahanol rannau o’r byd. Fe wnaeth hefyd ysgrifennu hanes sy’n llawn o fanylion arbennig am fywyd Iesu a’i weinidogaeth. Gwnaeth Timotheus helpu Paul i sefydlu cynulleidfaoedd ac i galonogi’r brodyr a’r chwiorydd. Mae’n siŵr bod Jehofa wedi ei blesio’n fawr iawn wrth weld agwedd hunan-aberthol Marc a Timotheus.
19. Pam dylai brodyr ifanc gymryd sylw o gyngor Paul i Timotheus, a beth fydd y canlyniad?
19 Rydyn ni’n gallu gweld yn glir yn ei lythyrau y cariad roedd gan Paul tuag at Timotheus. Mae’r llythyrau ysbrydoledig hynny hefyd yn dangos bod Jehofa’n caru brodyr ifanc yn fawr iawn. Mae eisiau iti lwyddo. Felly gwna dy orau i ddilyn cyngor cariadus Paul ac i feithrin yr awydd i wasanaethu eraill yn fwy. Os wyt ti’n gwneud hynny, byddi di’n mwynhau bywyd hyfryd nawr a byddi di’n gallu “gafael yn dynn yn y bywyd go iawn” sydd i ddod.—1 Tim. 6:18, 19.
CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Marc yn gweini ar Paul a Barnabas ar eu taith genhadol. Roedd Timotheus yn barod i ymweld â chynulleidfa i galonogi’r brodyr.