LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Mai tt. 2-7
  • Efelycha’r Angylion Ffyddlon

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Efelycha’r Angylion Ffyddlon
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE’R ANGYLION YN OSTYNGEDIG
  • MAE’R ANGYLION YN CARU POBL
  • MAE’R ANGYLION YN DYFALBARHAU
  • MAE’R ANGYLION YN HELPU I GADW’R GYNULLEIDFA’N LÂN
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Mai tt. 2-7

ERTHYGL ASTUDIO 19

CÂN 6 Mae’r Nefoedd yn Adrodd Gogoniant Duw

Efelycha’r Angylion Ffyddlon

“Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion.”—SALM 103:20.

PWRPAS

Gwersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth esiampl yr angylion ffyddlon.

1-2. (a) Sut rydyn ni’n wahanol i’r angylion? (b) Sut rydyn ni’n debyg i’r angylion?

PAN wnaeth Jehofa dy ddenu di at y gwir, gwnaeth ef dy wahodd di i fod yn rhan o deulu amrywiol a chariadus o addolwyr, sy’n cynnwys miliynau o’i angylion ffyddlon. (Dan. 7:​9, 10) Wrth inni feddwl am angylion, efallai y byddwn ni’n myfyrio ar gymaint yn wahanol inni ydyn nhw. Er enghraifft, mae’r angylion wedi bod yn bodoli am lawer hirach nag ydyn ni wedi bod yn fyw. (Job 38:​4, 7) Maen nhw’n fwy pwerus na ni, ac maen nhw’n gyfiawn ac yn sanctaidd i lefelau na allwn ni eu cyrraedd fel pobl amherffaith.—Luc 9:26.

2 Fodd bynnag, er gwaethaf hyn i gyd, mae gynnon ni lawer mewn cyffredin ag angylion. Er enghraifft, gallwn ni, fel yr angylion, adlewyrchu rhinweddau Jehofa. Mae gynnon ni ewyllys rhydd fel yr angylion. Yn debyg iawn iddyn nhw, mae gynnon ni enwau personol, personoliaethau gwahanol, ac amryw o gyfrifoldebau. Ar ben hynny, mae gynnon ni’r angen i addoli ein Creawdwr.—1 Pedr 1:12.

3. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth angylion ffyddlon?

3 Gan ein bod ni’n debyg iawn i’r angylion mewn llawer o ffyrdd, gall eu hesiampl ein calonogi ni a dysgu gwersi pwysig inni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd yr angylion ffyddlon, eu cariad at bobl, eu dyfalbarhad, a’u hymdrechion i gadw’r gynulleidfa yn lân.

MAE’R ANGYLION YN OSTYNGEDIG

4. (a) Sut mae’r angylion yn dangos gostyngeiddrwydd? (b) Pam mae’r angylion yn ostyngedig? (Salm 89:7)

4 Mae’r angylion ffyddlon yn ostyngedig. Er eu bod nhw’n brofiadol, yn rymus, ac yn ddoeth, maen nhw’n ufudd i gyfarwyddiadau Jehofa. (Salm 103:20) Wrth iddyn nhw gyflawni eu haseiniadau, dydyn nhw ddim yn brolio am eu galluoedd goruwchddynol. Maen nhw’n hapus i wneud ewyllys Dduw, hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n cael eu henwi am eu gwaith da.a (Gen. 32:​24, 29; 2 Bren. 19:35) Maen nhw’n gwrthod derbyn unrhyw ogoniant sy’n perthyn i Jehofa. Pam mae’r angylion mor ostyngedig? Oherwydd eu cariad a’u parch dwfn tuag at Jehofa.—Darllen Salm 89:7.

5. Sut gwnaeth un angel ddangos gostyngeiddrwydd wrth gywiro’r apostol Ioan? (Gweler hefyd y llun.)

5 Ystyria ddigwyddiad sy’n dangos gostyngeiddrwydd un o’r angylion. Tua 96 OG, cyflwynodd angel dienw weledigaeth anhygoel i’r apostol Ioan. (Dat. 1:1) Sut ymatebodd Ioan i’r weledigaeth? Ceisiodd addoli’r angel. Ond, fe wnaeth yr ysbryd-greadur ffyddlon hwnnw ei atal yn gyflym, drwy ddweud: “Bydda’n ofalus! Paid â gwneud hynny! Dim ond caethwas ydw i, fel tithau a dy frodyr . . . Addola Dduw!” (Dat. 19:10) Dyna ymateb gostyngedig! Yn hytrach na derbyn gogoniant a chael ei edmygu, fe wnaeth yr angel droi sylw Ioan at Jehofa ar unwaith. Er bod yr angel yn fwy pwerus na Ioan ac wedi gwasanaethu Jehofa am yn hirach nag ef, cyfeiriodd yn ostyngedig at ei hun fel caethwas, yr un fath â’r apostol. Ar ben hynny, er bod rhaid iddo gywiro Ioan, ni wnaeth ef geryddu na thrin yr apostol oedrannus yn llym. Siaradodd yr angel yn garedig. Mwy na thebyg, roedd yn gallu gweld bod Ioan yn llawn syndod.

Angel yn stopio’r apostol Ioan rhag ymgrymu o’i flaen a’i addoli.

Dangosodd yr angel ostyngeiddrwydd wrth iddo gywiro Ioan (Gweler paragraff 5)


6. Sut gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd yr angylion?

6 Sut gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd yr angel? Drwy gyflawni ein haseiniadau heb frolio na cheisio cael clod. (1 Cor. 4:7) Hefyd, ddylen ni ddim teimlo’n well nag unrhyw un arall os ydyn ni wedi gwasanaethu Jehofa yn hirach na nhw, neu os oes gynnon ni fwy o freintiau na nhw. Mewn gwirionedd, os oes gynnon ni lawer o gyfrifoldebau, mae’n hanfodol ein bod ni’n ystyried ein hunain fel rhai lleiaf pwysig. (Luc 9:48) Fel yr angylion, rydyn ni eisiau gwasanaethu eraill, a dydyn ni ddim yn hyrwyddo ein hunain.

7. Sut gallwn ni ddangos gostyngeiddrwydd wrth roi cyngor neu gywiro rhywun?

7 Gallwn ni hefyd ddangos gostyngeiddrwydd os oes rhaid inni roi cyngor i frawd, i chwaer, neu i’n plant. Efallai bydd rhaid inni fod yn gadarn wrth roi cyngor. Ond, fel yr angel a wnaeth gywiro Ioan yn garedig, gallwn ni fod yn gadarn heb ddigalonni’r un sy’n derbyn y cyngor. Os dydyn ni ddim yn ystyried ein hunain yn well nag eraill, gallwn ni gyflwyno cyngor o’r Beibl mewn ffordd barchus a thosturiol.—Col. 4:6.

MAE’R ANGYLION YN CARU POBL

8. (a) Yn ôl Luc 15:​10, sut mae’r angylion yn dangos eu cariad tuag at bobl? (b) Sut mae’r angylion yn helpu’r gwaith pregethu? (Gweler hefyd y llun.)

8 Dydy’r angylion ddim yn ffroenuchel nac yn oeraidd. Maen nhw’n caru pobl. Maen nhw’n llawenhau pan mae pechadur yn edifarhau—hynny ydy, pan mae dafad goll yn dod yn ôl i Jehofa, neu pan mae unigolyn yn newid ei ffyrdd ac yn dod i mewn i’r gwir. (Darllen Luc 15:10.) Mae’r angylion hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith o bregethu’r Deyrnas. (Dat. 14:6) Er nad ydyn nhw’n pregethu’n uniongyrchol i bobl, efallai eu bod nhw’n arwain cyhoeddwyr at bobl sydd eisiau dysgu am Jehofa. Wrth gwrs, allwn ni ddim dweud yn bendant bod angel wedi cael rhan mewn unrhyw achos penodol. Wedi’r cwbl, gall Jehofa ddefnyddio dulliau eraill, fel ei ysbryd glân, i helpu pobl neu i arwain ei weision. (Act. 16:​6, 7) Ond eto, mae ef yn defnyddio ei angylion yn helaeth. Felly, wrth inni rannu’r newyddion da, gallwn ni fod yn hyderus bod yr angylion yno i’n cefnogi ni.—Gweler y blwch “Cafodd Eu Gweddïau Eu Hateb.”b

Cwpl yn cerdded gyda throli ar stryd. Mae angylion yn hofran uwchben ac yn tynnu sylw’r chwaer at ddynes ddigalon sy’n eistedd ar fainc.

Ar ôl i gwpl orffen tystiolaethu’n gyhoeddus, mae’r chwaer yn gweld dynes sy’n edrych yn ddigalon. Mae’r chwaer yn sylweddoli bod yr angylion yn gallu ein harwain ni i’r rhai sydd angen help ysbrydol. Mae hi’n cael ei chymell i siarad yn garedig â’r ddynes. (Gweler paragraff 8)


Cafodd Eu Gweddïau Eu Hateb

Ydy hi’n bosib bod yr angylion wedi cael rhan yn y profiadau canlynol?

  • Wrth i gyhoeddwraig 12 oed ym Mheriw dystiolaethu dros y ffôn gyda’i mam, siaradodd hi â dynes a oedd wedi bod yn gofyn i Dduw anfon rhywun i’w helpu hi. Roedd y ddynes yn ystyried yr alwad yn ateb i’w gweddïau a derbyniodd hi astudiaeth Feiblaidd. Yn fuan wedyn, dechreuodd hi fynychu’r cyfarfodydd.

  • Roedd dynes yn Rwmania yn astudio’r Beibl am gyfnod, ond yna gwnaeth hi stopio. Yn nes ymlaen, tra oedd hi’n gweithio i deulu yn yr Eidal, roedd hi eisiau ailddechrau ei hastudiaeth. Doedd hi ddim yn gwybod unrhyw Dystion lleol, felly gweddïodd ar Jehofa am help. Yn fuan wedyn, gwnaeth y teulu ofyn iddi fynd i’r siop. Gwnaethon nhw ei rhybuddio hi i beidio â siarad â pherchennog y siop. Dywedon nhw: “Mae’n un o Dystion Jehofa. Mae’n siarad â’i gwsmeriaid am y Beibl.” Wrth gwrs, gwnaeth y dyn dystiolaethu i’r ddynes, ac roedd hi’n ystyried hyn fel ateb i’w gweddi. Dechreuodd hi astudio unwaith eto a gwneud cynnydd ysbrydol da. Cafodd hyn argraff dda ar un o’i meibion, a gwnaeth ef hefyd ddechrau astudio’r Beibl a mynychu’r cyfarfodydd.

  • Penderfynodd cwpl a oedd yn Dystion werthu eu car. Pan ddaeth cwpl arall i weld y car, cymerodd y Tystion y cyfle i esbonio eu bod nhw’n ceisio symleiddio eu bywydau, a sonion nhw am ein gwaith o ddysgu eraill am y Beibl. Dywedodd y dyn a oedd eisiau prynu’r car: “Ddoe fe wnes i weddïo: ‘Plîs, Dduw, dwi eisiau cwrdd â rhywun a all fy helpu i. Dwi’n teimlo’n wag, a dwi’n chwilio am y gwir.’” Roedd y dyn yn teimlo bod Duw wedi ateb ei weddi. Gwnaeth ef, ei wraig, a’i ddwy ferch ddechrau astudio’r Beibl. Mae’r teulu bellach yn mynychu’r cyfarfodydd.

9. Sut gallwn ni efelychu cariad yr angylion?

9 Sut gallwn ni efelychu cariad yr angylion tuag at bobl? Pan ydyn i’n clywed cyhoeddiad bod rhywun wedi cael ei adfer i’r gynulleidfa, gallwn ni lawenhau fel yr angylion. Gallwn ni fynd allan o’n ffordd i groesawu’r brawd yn ôl a chadarnhau ein cariad ato. (Luc 15:​4-7; 2 Cor. 2:​6-8) Gallwn ni hefyd efelychu’r angylion drwy wneud popeth allwn ni yn y gwaith pregethu. (Preg. 11:6) Yn union fel y mae’r angylion yn ein cefnogi ni wrth inni rannu’r newyddion da, gallwn ni chwilio am ffyrdd i gefnogi ein brodyr a’n chwiorydd yn y weinidogaeth. Er enghraifft, a allwn ni wneud cynlluniau i weithio gyda chyhoeddwyr llai profiadol? A allwn ni gefnogi brodyr a chwiorydd sy’n hŷn neu’n fregus, fel eu bod nhw’n gallu cael rhan yn y weinidogaeth?

10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth brofiad Sara?

10 Beth os ydy ein hamgylchiadau yn cyfyngu ar faint gallwn ni ei wneud? Mae’n dal yn bosib inni weithio gyda’r angylion yn y gwaith pregethu. Ystyria brofiad Sara,c chwaer yn India. Ar ôl arloesi am tua 20 mlynedd, aeth Sara yn sâl ac roedd hi’n gaeth i’w gwely. Fel y gallwn ni ei ddeall, roedd hi’n teimlo’n isel iawn. Ond, gyda chefnogaeth gariadus ei theulu ysbrydol yn ogystal â darllen y Beibl yn rheolaidd, yn raddol gwnaeth hi adennill agwedd bositif. Wrth gwrs, roedd rhaid iddi addasu ei gweinidogaeth i’w hamgylchiadau newydd. Gan nad oedd hi hyd yn oed yn gallu eistedd i fyny er mwyn ysgrifennu llythyrau, roedd hi ond yn gallu tystiolaethu dros y ffôn. Felly ffoniodd hi ei galwadau i gyd, a gwnaethon nhw ei chyfeirio hi at bobl eraill oedd â diddordeb. Y canlyniad? O fewn misoedd, roedd gan Sara 70 o astudiaethau Beiblaidd—llawer mwy nag oedd hi’n gallu eu gwneud! Felly, gwnaeth hi roi rhai ohonyn nhw i eraill yn y gynulleidfa. Mae llawer o’r myfyrwyr hynny’n bellach yn mynychu’r cyfarfodydd. Mae’n rhaid bod yr angylion yn hapus iawn i weithio ochr yn ochr â rhai fel Sara, sy’n gwneud eu gorau glas yn y gwaith pregethu!

MAE’R ANGYLION YN DYFALBARHAU

11. Sut mae’r angylion wedi dangos dyfalbarhad rhagorol?

11 Mae’r angylion ffyddlon yn esiamplau rhagorol o ddyfalbarhad. Maen nhw wedi dyfalbarhau anghyfiawnder a drygioni am filoedd o flynyddoedd. Gwelon nhw Satan a llawer o ysbrydion eraill a oedd wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn gwrthryfela yn erbyn Jehofa. (Gen. 3:1; 6:​1, 2; Jwdas 6) Mae’r Beibl yn sôn am un angel a wnaeth brofi gwrthwynebiad uniongyrchol gan gythraul pwerus. (Dan. 10:13) Ar ben hynny, drwy gydol hanes, maen nhw wedi gweld nifer cymharol fach o bobl yn dilyn gwir addoliad. Er gwaethaf hynny, mae’r angylion ffyddlon yn parhau i wasanaethu Jehofa â llawenydd a sêl. Maen nhw’n gwybod y bydd Duw yn dileu pob anghyfiawnder ar yr amser iawn.

12. Beth all ein helpu ni i ddyfalbarhau?

12 Sut gallwn ni efelychu dyfalbarhad yr angylion? Fel yr angylion, gallwn ni wynebu anghyfiawnderau neu wrthwynebiad. Ond, mae gynnon ni’r un hyder â nhw y bydd Duw yn dileu drygioni ar yr amser iawn. Felly, fel yr angylion ffyddlon, “mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau i wneud daioni,” ac mae Duw yn addo ein helpu ni i ddal ati. (Gal. 6:9; 1 Cor. 10:13) Gallwn ni weddïo ar Jehofa am ei ysbryd, sy’n ein helpu ni i ddatblygu amynedd a llawenydd. (Gal. 5:22; Col. 1:11) Beth os wyt ti’n profi gwrthwynebiad? Trystia Jehofa yn llwyr, a phaid â dychryn. Bydd Jehofa’n wastad yn dy gefnogi ac yn dy gryfhau.—Heb. 13:6.

MAE’R ANGYLION YN HELPU I GADW’R GYNULLEIDFA’N LÂN

13. Pa aseiniad pwysig sydd gan angylion yn ystod y dyddiau olaf? (Mathew 13:​47-49)

13 Mae Jehofa wedi rhoi aseiniad arbennig i’r angylion yn ystod y dyddiau olaf. (Darllen Mathew 13:​47-49.) Mae’r gwaith pregethu yn denu miliynau o bobl o bob math. Mae rhai o’r bobl hyn yn cymryd camau i fyw yn ôl safonau Jehofa, ond dydy eraill ddim yn gwneud hynny. Mae’r angylion “yn gwahanu’r rhai drwg o blith y rhai cyfiawn.” Mae hynny’n golygu eu bod nhw wedi cael eu haseinio i helpu i gadw’r gynulleidfa yn lân. Dydy hynny ddim yn golygu na fydd rhai sy’n stopio cymdeithasu â ni ddim yn gallu dod yn ôl, nac yn golygu fyddwn ni byth yn cael problemau yn y gynulleidfa. Ond, gallwn ni fod yn sicr bod yr angylion yn gweithio’n galed i gadw’r gynulleidfa yn lân.

14-15. Sut gallwn ni efelychu consýrn yr angylion ynglŷn â glendid moesol ac ysbrydol y gynulleidfa? (Gweler hefyd y lluniau.)

14 Sut gallwn ni efelychu consýrn yr angylion ynglŷn â glendid y gynulleidfa? Drwy wneud ein rhan i gadw’r gynulleidfa yn foesol ac yn ysbrydol lân. Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n ymdrechu i ddiogelu ein calon drwy ddewis ffrindiau da a gwrthod unrhyw ddylanwadau a all ein llygru. (Salm 101:3) Gallwn ni hefyd helpu ein cyd-addolwyr i aros yn ffyddlon i Jehofa. Er enghraifft, beth dylen ni ei wneud petasen ni’n dysgu bod un o’n cyd-gredinwyr wedi pechu’n ddifrifol? Byddai cariad yn ein cymell ni i annog y person i siarad â’r henuriaid. Petai ef neu hi ddim yn gwneud hynny, yna byddai’n rhaid inni roi gwybod i’r henuriaid am y mater. Rydyn ni eisiau i bob un o’n cyd-gredinwyr sy’n wan yn ysbrydol gael help yn gyflym!—Iago 5:​14, 15.

15 Yn anffodus, mewn rhai achosion, mae’n rhaid i rywun sydd wedi pechu’n ddifrifol gael ei roi allan o’r gynulleidfa, ac rydyn ni’n “stopio cadw cwmni” â nhw.d (1 Cor. 5:​9-13) Mae’r trefniad hwn yn helpu i gadw’r gynulleidfa’n lân. Ar ben hynny, trwy ddewis peidio â chymdeithasu â’r rhai sydd wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa, rydyn ni mewn gwirionedd yn dangos caredigrwydd tuag atyn nhw. Gall ein safiad cadarn eu cymell nhw i ddod i’w synhwyrau. Petasen nhw’n gwneud hynny, bydden ni’n llawenhau gyda Jehofa a’i angylion.—Luc 15:7.

Collage: 1. Dwy chwaer yn eistedd ar fainc mewn parc ac yn yfed coffi. Mae un chwaer yn edrych i ffwrdd wrth i’r chwaer arall siarad. 2. Yn nes ymlaen, mae’r chwaer a oedd yn siarad yn mynd at ddau henuriad yn Neuadd y Deyrnas.

Beth dylen ni ei wneud petasen ni’n dysgu bod un o’n cyd-gredinwyr wedi pechu’n ddifrifol? (Gweler paragraff 14)e


16. Sut byddi di’n ceisio efelychu’r angylion?

16 Am fraint anhygoel i gael cipolwg o’r nefoedd gyda llygaid ffydd ac i gydweithio â’r angylion. Gad inni efelychu eu rhinweddau da, eu gostyngeiddrwydd, eu cariad at bobl, eu dyfalbarhad, a’u consýrn dros lendid moesol ac ysbrydol y gynulleidfa. Os ydyn ni’n efelychu’r angylion ffyddlon, gallwn ninnau hefyd fod yn rhan o deulu Jehofa a’i addoli am byth.

SUT GALLWN NI EFELYCHU’R ANGYLION DRWY . . .

  • fod yn ostyngedig?

  • dangos cariad at bobl?

  • ymdrechu i gadw’r gynulleidfa’n lân?

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

a Allan o’r cannoedd o filoedd o angylion, dim ond dau sy’n cael eu henwi yn y Beibl—Michael a Gabriel.—Dan. 12:1; Luc 1:19.

b Gelli di ddod o hyd i fwy o brofiadau yn y Watch Tower Publications Index o dan y pennawd “Angels” a’r isbennawd “angelic direction (examples).”

c Newidiwyd yr enw.

d Fel cafodd ei esbonio yn Diweddariad #2 2024 gan y Corff Llywodraethol, os ydy rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa yn dod i gyfarfod, gall cyhoeddwyr ddefnyddio eu cydwybod bersonol i benderfynu a ydyn nhw eisiau rhoi cyfarchiad syml i’r unigolyn a rhoi croeso iddo.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn annog ei ffrind i siarad â’r henuriaid. Ar ôl i amser fynd heibio, dydy ei ffrind ddim wedi gwneud hynny, felly mae hi’n sôn wrth yr henuriaid am y mater.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu