AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Paratoa Dy Galon
Pan ydyn ni’n astudio’r Beibl, rydyn ni eisiau i feddyliau Jehofa gyffwrdd â’n calonnau. Gosododd Esra esiampl dda drwy ‘baratoi ei galon i ddarllen cyfraith Jehofa.’ (Esra 7:10, NWT) Sut gallwn ni baratoi ein calonnau?
Gweddïa. Dechreua bob sesiwn astudio gyda gweddi. Gofynna i Jehofa am ei help i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu a’i roi ar waith.—Salm 119:18, 34.
Bydda’n ostyngedig. Mae Duw’n cuddio’r gwir rhag y rhai sy’n dibynnu ar eu doethineb eu hunain. (Luc 10:21) Paid â gwneud ymchwil er mwyn creu argraff dda ar eraill. Bydda’n barod i newid dy ffordd o feddwl i gyd-fynd â meddyliau Jehofa.
Gwranda ar un o ganeuon y Deyrnas. Gall gwrando ar gerddoriaeth effeithio ar ein hagwedd a’n hemosiynau. Felly gall wrando ar un o ganeuon y Deyrnas cyn sesiwn astudio ein helpu ni i baratoi ein calonnau.